Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith diogelwch hanfodol ar danbont Kneeshaw Lupton ar yr A55 yn gwneud cynnydd da ac yn mynd yn unol â'r amserlen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn gobeithio cwblhau’r gwaith cyn y dyddiad gorffen, sef 11 Hydref, yn dibynnu ar amodau tywydd.

Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud nawr i sicrhau diogelwch defnyddwyr ffyrdd.

Gallai methu gwneud hyn arwain at gyflwr y danbont yn gwaethygu, gan arwain at gau'r ffordd ac oedi difrifol os bydd argyfwng.

Mae'r perygl o beidio â gweithredu ar unwaith yn rhy uchel i ddiogelwch defnyddwyr ffyrdd.

Rydym wedi bod mewn cysylltiad â Rali Cymru GB am gryn amser ac mae trefnwyr y digwyddiad yn gwybod am ein cynlluniau, fel yr oeddent y llynedd pan oedd gwaith yn cael ei wneud ar ochr arall y ffordd.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod yn llwyr y gallai'r gwaith hanfodol hwn achosi problemau yn ystod y digwyddiad eleni. Rydym yn argymell bod pobl sy'n teithio i'r rali wirio gwefan Traffig Cymru i gael gwybodaeth reolaidd, gyfredol am y sefyllfa, ac i ddilyn yr arwyddion ar yr A55. Bydd hefyd opsiwn yn Halton i ddilyn yr A5. Byddem yn gwerthfawrogi eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn o waith i wella diogelwch.

Rydym hefyd wedi rhoi embargo ar waith ar unrhyw gefnffyrdd eraill ar adeg y Rali yn yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio ganddi.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates:

Mae'r gwaith hanfodol hwn o’r pwys mwyaf i sicrhau diogelwch defnyddwyr ffyrdd.

Byddai methu gwneud y gwaith hwn ar unwaith wedi arwain at berygl annerbyniol i fywydau pobl.

Dw i'n cydymdeimlo'n llwyr â'r defnyddwyr ffyrdd mae'r gwaith hanfodol hwn yn effeithio arnyn nhw, ond dw i'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno na ddylen ni roi bywydau mewn perygl drwy ohirio gwaith hanfodol i'r danbont.

Mae gwaith ar y cynllun yn cael ei wneud mor gyflym ag y bo modd heb effeithio ar ddiogelwch, a gall teithwyr barhau i wirio diweddariadau ar Draffig Cymru wrth i'r gwaith fynd rhagddo.