Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar gynnydd ein rhaglen frechu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae ein strategaeth frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer rhaglen frechu integredig. Mae’n egluro sut y byddwn yn cynnig brechiadau rhag y ffliw a brechiadau atgyfnerthu COVID-19 i unigolion cymwys eleni.

Dyma ein tair prif flaenoriaeth ar gyfer ein rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol:

  • amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf
  • amddiffyn plant a phobl ifanc
  • gadael neb ar ôl drwy barhau i gynnig y cwrs cychwynnol o’r brechlyn COVID-19

Diweddariad ar y rhaglen

Dechreuwyd rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi 2022. Mae’n cyfuno’r rhaglen frechu rhag COVID-19 a’r rhaglen frechu rhag y ffliw.

Cynnydd yn erbyn y strategaeth

Amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf

Dechreuwyd rhoi brechiadau rhag COVID ar gyfer y grwpiau cymwys ar 1 Medi, gan frechu:

  • preswylwyr a staff cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • unigolion sy’n gaeth i’r tŷ
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

Dylai pob unigolyn sy'n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 fod wedi cael eu cynnig i gael y brechiad erbyn hyn. Os ydych yn gymwys ond heb gael eich gwahoddiad, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol. Mae pob bwrdd iechyd bellach yn gweithredu clinigau galw i mewn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan eich bwrdd iechyd. 

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi mai’r grwpiau hyn sy’n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu:

  • pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • pobl rhwng 5 a 49 oed mewn grŵp risg glinigol, fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk)
  • pobl rhwng 5 a 49 oed sy’n gyswllt cartref i bobl sydd ag imiwnedd isel, fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk)
  • pobl rhwng 16 a 49 oed sy’n ofalwyr

Dylai unigolion sy’n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw, sy’n cynnwys pawb dros 50 oed, fod wedi cael cynnig y brechiad erbyn hyn. Os ydych yn gymwys ond heb gael eich gwahoddiad eto, gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael y brechiad yn eich ardal yng Nghymru. Mae rhai byrddau iechyd nawr yn cynnig trefniadau ‘galw i mewn’, gan gynnwys sesiynau i blant gael brechlyn ffliw drwy chwistrelliad trwyn.

Amddiffyn plant a phobl ifanc

Mae’r canlynol yn gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw eleni:

  • plant 2 a 3 oed
  • plant ysgolion cynradd o’r dosbarth derbyn i Flwyddyn 6
  • plant a phobl ifanc ysgolion uwchradd o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11
  • pobl rhwng chwe mis oed a 49 oed mewn grŵp risg glinigol fel y nodir yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru ar y ffliw

Byddwn yn gofyn i rieni neu warcheidwaid roi caniatâd. Rydym yn annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod â’i gilydd a ydyn nhw am gael y brechiad ai peidio. Mae gwybodaeth ffeithiol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i’w helpu i wneud y penderfyniad hwn.

Bydd y mwyafrif o blant a phobl ifanc yn cael eu brechiad COVID-19 mewn canolfan frechu. Bydd rhai ardaloedd hefyd yn cynnig y brechlyn drwy ysgolion arbennig. Bydd y ffordd o ddarparu brechiadau yn cael ei llywio gan wybodaeth leol a gall newid yn ôl amgylchiadau.

Bydd byrddau iechyd yn defnyddio gwasanaethau nyrsio mewn ysgolion yn bennaf i ddarparu’r brechlyn i blant, sef chwistrelliad drwy’r trwyn. Yn ogystal, bydd sesiynau dilynol a’r defnydd o feddygfeydd yn rhan o’r model ar gyfer darparu brechiadau. Mae’r cynlluniau ar gyfer darparu wrthi’n cael eu hadolygu i sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn cael y brechlyn eleni, yn enwedig yng nghyd-destun y lefelau uchel presennol o feirysau anadlol sy’n cylchredeg yn y gymuned a feirysau eraill, megis y Dwymyn Goch a Streptococws A (Strep A). Mae trefniadau ‘galw i mewn’ nawr ar gael i roi mwy o hyblygrwydd i deuluoedd ac i sicrhau’r lefelau uchaf o amddiffyniad.

Gadael neb ar ôl

Mae brechu teg yn parhau yn egwyddor allweddol yn rhaglen frechu Cymru. Mae’r egwyddor o ‘adael neb ar ôl’, sy’n rhan annatod o’n strategaeth frechu, wedi’i seilio ar y rhagosodiad y dylai pawb gael mynediad teg a chyfle teg i fanteisio ar y cynnig o frechlyn.  

Mae’r byrddau iechyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â grwpiau rhanddeiliaid ehangach a phartneriaid allweddol. Bydd y GIG yn parhau i sicrhau bod y brechlyn ar gael yn hwylus er mwyn brechu cynifer o bobl â phosibl.

Mae’r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol newydd yn nodi bod tegwch brechu yn ganolog i gynllun a darpariaeth y gwasanaeth. Mae’r Fframwaith yn amlinellu’r camau gweithredu allweddol i wireddu hyn ar gyfer pob rhaglen frechu.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol

Yn unol â'n strategaeth, rhoddwyd gwahoddiad i bob unigolyn cymwys gael brechlyn COVID-19 erbyn 30 Tachwedd a chyfle i gael eu brechiad rhag y ffliw erbyn 31 Rhagfyr. Rydym bellach yng nghyfnod ‘gadael neb ar ôl’ y rhaglen gyda byrddau iechyd yn ceisio sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn cael y brechlyn drwy gynnig parhaus, e.e. drwy glinigau galw i mewn. 

Ers dechrau rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi:

  • Mae 1,125,326 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi (yn gywir ar 23 Ionawr 2023)
  • Mae 15,360 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal (ar 23 Ionawr 2023)
  • Mae 12,104 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i breswylwyr cartrefi gofal (ar 23 Ionawr 2023)
  • Mae 38,048 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i bobl sydd â system imiwnedd gwannach na’r cyffredin (ar 23 Ionawr 2023)

Mae'r crynodeb o’r niferoedd sydd wedi manteisio ar y brechlyn rhag y ffliw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Ionawr 2023 yn nodi’r lefelau manteisio canlynol, sydd ar yr un lefel yn fras â blynyddoedd blaenorol ar yr adeg hon yn yr ymgyrch.

  • 75.2% o’r rheini sy’n 65 oed a hŷn
  • 42.1% o’r rheini yn y grŵp risg rhwng 6 mis oed a 64 oed
  • 41.7% o blant 2 a 3 oed
  • 43.6% o staff y GIG

Astudiaeth achos: Brechu staff rhag y ffliw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Hyrwyddwr Ffliw y Bwrdd Iechyd yn siarad o blaid brechu rhag y ffliw

Mae Ann yn gweithio mewn ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn ystod tymor yr hydref 2020 cynigiwyd brechlyn ffliw i Ann gan gydweithiwr. Gwrthododd Ann y brechlyn oherwydd ei bod hi’n credu bod y pigiad rhag y ffliw wedi ei gwneud hi’n sâl gyda symptomau tebyg i’r ffliw mewn blwyddyn flaenorol. Roedd Ann yn credu mai’r brechlyn oedd ar fai am ei ffliw. Trafododd ei phryderon gyda’i chydweithiwr ac fe wnaeth ei chydweithiwr ei chysuro na all y brechlyn roi’r ffliw i chi.

Fe wnaethon nhw drafod yr amddiffyniad sy’n cael ei gynnig gan y brechlyn ffliw a’r sgil-effeithiau ysgafn a byr dymor y gellir disgwyl eu cael. Hefyd, mae’n cymryd hyd at bythefnos i gael yr amddiffyniad mwyaf rhag y ffliw ar ôl cael y brechlyn. Roedd yn bosibl bod Ann wedi dal ffliw neu annwyd cyn cael ei brechu. Roedd yr ateb hwn am pam roedd ganddi symptomau’r ffliw ar ôl ei brechlyn ffliw diwethaf o gysur i Ann.

Cafodd Ann ei brechiad rhag y ffliw yn ystod tymor yr hydref 2020. Ni wnaeth hi ddioddef unrhyw symptomau tebyg i ffliw ar ôl ei gael. Ers hynny mae Ann wedi dod yn hyrwyddwr ar gyfer y brechlyn ffliw. Yn 2021 trefnodd Ann sesiwn alw-i-mewn ar gyfer y brechlyn ffliw yn ei hysbyty. Roedd yn llwyddiannus iawn.

Eleni, recordiodd Ann fideo ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. Yn y fideo, siaradodd Ann am ei phrofiad cadarnhaol gyda’r brechlyn ffliw. Dywedodd: ‘Roeddwn i ofn bod yn sâl’. Anogodd pawb i fanteisio ar y cynnig o frechiad rhag y ffliw: ‘mae mor bwysig eich bod yn cael y pigiad’. Rhannwyd y fideo ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol staff. Gwyliwyd y fideo 433 o weithiau yn ystod ymgyrch wythnos gyfan i wella niferoedd.

Mae Ann yn gobeithio y bydd ei stori yn helpu pawb i oresgyn eu hofnau o’r brechlyn ffliw, ac yn chwalu’r myth y gall y brechlyn roi’r ffliw i chi.

Gwybodaeth ychwanegol am y rhaglen frechu

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin am y brechlynnau a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi data gwyliadwriaeth rheolaidd.

Mae gwybodaeth amrywiol am ein rhaglen frechu, gan gynnwys sut i gael eich brechu, ar gael ar ein gwefan