Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nodyn polisi caffael newydd i Gymru (WPPN) ac wedi mabwysiadu nodiadau polisi caffael (PPN) gan Lywodraeth y DU.
Nodyn polisi caffael Cymru (WPPN 01/21): Caffael dur mewn prosiectau adeiladu a seilwaith mawr yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nodyn polisi caffael Cymru (WPPN 01/21) ar gyrchu dur mewn prosiectau adeiladu a seilwaith mawr yng Nghymru. Mae'r WPPN hwn yn mynd i'r afael â chamau caffael cyhoeddus i gefnogi'r sector dur strategol bwysig yn y DU. Mae'n rhoi canllawiau i awdurdodau contractio ar sut i ddefnyddio'r cylch bywyd caffael i nodi unrhyw gyfle i gefnogi diwydiant dur y DU, er mwyn sicrhau bod y contract yn cael yr effaith economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol fwyaf posibl.
Mae WPPN 01/21 yn disodli nodyn cyngor caffael blaenorol a gyhoeddwyd yn 2018.
Nodyn polisi caffael (PPN 01/21): Caffael mewn argyfwng
Mae nodyn polisi caffael (PPN) 01/21 gan Lywodraeth y DU yn atgoffa awdurdodau contractio o'r opsiynau sydd ar gael iddynt wrth ymgymryd â chaffaeliadau mewn argyfwng. Mae hyn yn cynnwys caffaeliadau brys iawn sy'n ofynnol gan yr ymateb parhaus i bandemig COVID-19. Mae'r PPN hwn yn adeiladu ar y canllawiau yn ‘PPN 01/20 - Ymateb i COVID-19’. Mae'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y risgiau masnachol sy'n gynhenid mewn dyfarniadau uniongyrchol heb gystadleuaeth.
Mae'r PPN hwn yn cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru a rydym yn annog y sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud yr un peth.
Sylwer bod WPPN 03/20 nodyn dros Gymru sy’n cyfateb i PPN 08/20 gan Lywodraeth y DU.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â blwch post y Polisi Masnachol: PolisiMasnachol@llyw.cymru
Nodyn polisi caffael 11/20: Neilltuo caffaeliadau sydd islaw’r trothwy
Mae nodyn polisi caffael (PPN) 11/20 gan Lywodraeth y DU, yn nodi opsiynau y gallai awdurdodau contractio eu hystyried wrth gaffael contractau am nwyddau, gwasanaethau a gwaith gyda gwerth islaw'r trothwyon perthnasol.
Rydyn ni’n mabwysiadu'r PPN ac yn annog y sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud yr un peth. Rydyn ni’n ystyried a ellir ymestyn cwmpas y PPN i Gymru a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i ni gyhoeddi WPPN.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch flwch negeseuon Polisi Masnachol: PolisiMasnachol@llyw.cymru
PPN ar GPA a TCA
Yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, daeth y DU yn aelod ynddo'i hun o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ar Gaffael gan Lywodraethau (GPA). Ymrwymodd y DU hefyd i gytundeb â'r UE, a adwaenir fel y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA).
Dylai awdurdodau contractio barhau i ddilyn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus (PCR) 2015, Rheoliadau Contractau Cyfleustodau (UCD) 2016 a/neu Reoliadau Contractau Consesiwn (CCR) 2016, gan gynnwys parhau i hysbysebu ar GwerthwchiGymru. Dylent hefyd nodi'r gofynion caffael ychwanegol yn y GPA a'r TCA, gweler Nodyn Polisi Caffael 02/21: GPA Sefydliad Masnach y byd a TCA y DU-UE i gael rhagor o wybodaeth.
Gweithgarwch WPPN tan ar ôl yr etholiad
Ar 25 Mawrth, bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau ar y cyfnod cyn-etholiadol. Mae hyn yn golygu na allwn gyhoeddi unrhyw WPPNs newydd tan ar ôl yr etholiad ar 6 Mai.