Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gwaith cwmpasu ar gyfer yr Uned yn adeiladu darlun i ddeall strwythurau a'r rhwystrau presennol a wynebir o fewn Unedau a chanolfannau cydraddoldeb Adrannau Llywodraeth y DU, anghenion rhanddeiliaid ehangach drwy Fforymau Llywodraeth Cymru a'r heriau ymarferol o fewn Llywodraeth Cymru i swyddogion polisi a dadansoddwyr.

Mae'r ymchwil wedi bod yn dwyn ynghyd themâu allweddol i dynnu sylw at yr ystyriaethau allweddol ar gyfer yr Uned(au). Mae'r dadansoddiad thematig bron wedi'i gwblhau, mae'r camau nesaf yn nodi anghenion adnoddau cychwynnol a sut y bydd yr Uned yn ategu'r gwaith arfaethedig presennol.

Unwaith y bydd y llywodraeth newydd wedi’i ffurfio, bydd papur yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet fel blaenoriaeth sy'n amlinellu'r strwythur a'r argymhellion cychwynnol i lywio'r broses o weithredu'r Uned(au).

Ellie Brodie, Llywodraeth Cymru