Neidio i'r prif gynnwy

1. Gweledigaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy

Argymhelliad

Ein Gweledigaeth yw i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni o leiaf yn llawn a defnyddio'r ynni dros ben i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Byddwn yn cyflymu camau i leihau'r galw am ynni ac i sicrhau perchnogaeth leol cymaint â phosibl i gadw buddion economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Camau nesaf at gwblhau

Cwblhawyd yr argymhelliad hwn. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Archwiliad Dwfn o Ynni Adnewyddadwy.

2. Cynllun ynni cenedlaethol

Argymhelliad  

Byddwn yn cynyddu cynlluniau ynni lleol i greu cynllun ynni cenedlaethol erbyn 2024, gan fapio'r galw am ynni a'r cyflenwad i bob rhan o Gymru yn y dyfodol i nodi bylchau er mwyn ein galluogi i gynllunio ar gyfer system sy'n hyblyg ac yn glyfar - gan baru cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol gyda'r galw am ynni.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir  

  • Rydym ar y trywydd iawn o ran datblygu Cynlluniau Ynni Ardal Leol a byddant yn cael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Yr adeg honno, bydd y Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn cael eu cynyddu i ffurfio safbwyntiau rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Bydd y cynlluniau’n sail i’n Cynllun Ynni Cenedlaethol, a hefyd defnyddir gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn deillio o dystiolaeth polisi a chynlluniau ynni strategol eraill. Er enghraifft, Gridiau Ynni’r Dyfodol i Gymru, y Strategaeth Wres a’r adolygiad o Dargedau Ynni.

Camau nesaf at gwblhau

  • Cynyddu’r Cynlluniau Ynni Ardal Leol
  • Pennu cwmpas y Cynllun Ynni Cenedlaethol
  • Cytuno ar fformat a strwythur adroddiad y Cynllun Ynni Cenedlaethol
  • Cytuno ar ddulliau ymgysylltu ac ymgynghori
  • Cyhoeddi Cynllun Ynni Cenedlaethol erbyn diwedd 2024

3. Strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd a newid ymddygiad

Argymhelliad    

Bydd ein cynlluniau ymgysylltu cyhoeddus a newid ymddygiad ynghylch Sero Net Cymru yn helpu dinasyddion i weithredu i leihau'r galw, gwella effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni mewn ffordd sy'n cefnogi ein gweledigaeth.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Mae llawer o gynnydd wedi’i wneud o ran cyflwyno’r rhaglen ymgysylltu cyhoeddus hon (cydnabuwyd hyn gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ei adroddiad ar gynnydd Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023).

Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Cyhoeddi strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd newydd a chenedlaethol Gweithredu ar Hinsawdd Cymru ym mis Gorffennaf 2023.
  • Cyflwyno Hwb Digidol (gwefan) newydd Gweithredu ar Hinsawdd Cymru ac ymgyrch genedlaethol i annog dinasyddion i wneud dewisiadau gwyrdd (yn cynnwys camau i ddefnyddio llai o ynni a gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi).
  • Cyflwyno Arolwg Hinsawdd chwe-misol 3 blynedd newydd fel dull ailadroddadwy o olrhain agweddau ac ymddygiadau pobl mewn perthynas â gweithredu ar newid hinsawdd. Cynnal cynhadledd rithwir Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 (lle cafwyd 28 o sesiynau a 4,162 o edrychiadau byw), a chyflwyno cronfa ymgysylltu cymunedol newydd Llywodraeth Cymru (a lwyddodd i gynorthwyo 39 o sefydliadau i gynnal digwyddiadau Sgyrsiau am yr Hinsawdd gyda chymunedau ledled Cymru i gasglu tystiolaeth ar gyfer ymgynghoriad ynghylch fframwaith Pontio Teg newydd). 
     

Camau nesaf at gwblhau

Dros y 6 mis nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn y Strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd newydd Gweithredu ar Hinsawdd Cymru, yn cynnwys:

  • Parhau i gynnal ymgyrch Gweithredu ar Hinsawdd Cymru a hyrwyddo’r Hwb Digidol
  • Llunio amserlen â blaenoriaeth ar gyfer cyflwyno ysgogiadau polisi i oresgyn rhwystrau sy’n atal dinasyddion rhag gweithredu ar newid hinsawdd.
  • Rhoi ail don Arolwg Hinsawdd chwe-misol 2023/24 ar waith, yn cynnwys cyhoeddi’r canfyddiadau allweddol.
  • Dechrau adolygu ein dull ar gyfer ymgysylltu â dinasyddion a rhanddeiliaid a’r cyfle i adeiladu ar Wythnos Hinsawdd Cymru a’r gronfa ymgysylltu cymunedol Sgyrsiau am yr Hinsawdd.
  • Gwerthuso effaith y rhaglen trwy ddefnyddio fframwaith gwerthuso newydd er mwyn sicrhau bod y canlyniadau a fesurir yn cysylltu â thargedau lleihau allyriadau a bennir yn ein llwybrau sero net.

4. Cyngor ar Ynni - Cartrefi Clyd / Strategaeth Wres

Argymhelliad   

Rydym am weld gwasanaeth cynghori hawdd ei ddefnyddio i helpu pobl i wella effeithlonrwydd ynni a pherfformiad clyfar eu cartrefi a'u busnesau yn ogystal â chyflenwad parod o gyflenwyr a gosodwyr systemau gwresogi carbon isel yng Nghymru. Byddwn yn cwmpasu camau gweithredu ychwanegol wrth i ni ddatblygu ein Rhaglen Cartrefi Clyd a Strategaeth Wres yn y dyfodol.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

Y Rhaglen Cartrefi Clyd

  • Cyhoeddwyd ein datganiad polisi ym mis Mehefin 2023, lle nodwyd y fanyleb ar gyfer gwasanaeth newydd a oedd yn cynnwys 3 lot: gwasanaeth cynghori annibynnol, asiant cyflawni a swyddogaeth asesu ansawdd.
  • Bydd y gwasanaeth cynghori’n cynnig cyngor diduedd i bawb ynglŷn â’r camau y gall pobl eu cymryd i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon, a hefyd cynigir adnoddau a ffynonellau cyllid posibl pan fo hynny’n berthnasol.

Ymgysylltu â’r cyhoedd

  • Gweler y diweddariad ar gyfer argymhelliad 3.

Y Strategaeth Wres

  • Cyhoeddwyd ein dogfen ymgynghori ar y Strategaeth Wres yn ystod Haf 2023. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 8 Tachwedd 2023.

Camau nesaf at gwblhau

Y Rhaglen Cartrefi Clyd

  • Gweithredu ac integreiddio’r gwasanaeth. Bydd gwasanaeth cyhoeddus llawn yn cael ei lansio ar 1 Ebrill 2024.
  • Ar ôl i’r gwasanaeth cynghori gael ei lansio, bydd yn parhau i greu cysylltiadau â phartneriaid yn lleol ac yn genedlaethol, a hefyd gyda chynlluniau tlodi tanwydd a chynlluniau effeithlonrwydd ynni ledled Prydain Fawr, er mwyn ceisio cael gafael ar gyllid ar gyfer Cymru a chynorthwyo cynifer o aelwydydd â phosibl.

Y Strategaeth Wres

  • Byddwn yn cyhoeddi ein hymateb i’r ymgynghoriad, y strategaeth wres derfynol a’r cynllun gweithredu cysylltiedig yn ystod Gwanwyn 2024.