Neidio i'r prif gynnwy

5. Trafod ag Ofgem

Argymhelliad

Byddwn yn cynyddu ein trafodaethau ag Ofgem er mwyn sefydlu anghenion buddsoddi Cymru, gan ganolbwyntio ar gadw gwerth o fewn Cymru. Byddwn yn sefydlu grŵp cydweithio i edrych ar opsiynau ar gyfer cefnogi cysylltiadau grid newydd, hyblyg ar gyfer atebion adnewyddadwy a storio ynni.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

  • Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd adroddiad blynyddol Ofgem gerbron y Senedd, er mwyn i aelodau’r Senedd gael cyfle i graffu arno.
  • Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ac Ofgem drafodaethau dwyochrog ynglŷn â chynigion y Cynllunydd Strategol Ynni Rhanbarthol cyn gwneud y penderfyniad ym mis Hydref, ac maent yn parhau i gymryd rhan mewn gweithdai i lywio’r cynllun.
  • Cymerodd Llywodraeth Cymru ran yn y gwaith parhaus o ddatblygu syniadau rhwydwaith strategol.

Camau nesaf at eu cwblhau

  • Mae’r cynllun gweithredu ar gyfer cyflymu trawsyrru rhwydweithiau Trydan a’r Cynllun Gweithredu Cysylltiadau yn ymdrin â nifer o’r materion systemig a arweiniodd at yr argymhelliad hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhan o’r trefniadau cynghori sy’n llywio’r rhaglen weithgareddau gymhleth hon.
  • Mae’r ymrwymiad cenedlaethol hwn, yn ogystal â’r gwaith cynllunio ynni sydd ar waith ledled Cymru, yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i bennu anghenion Cymru. O’r herwydd, ymwreiddir y cam gweithredu hwn yn ein gwaith cyflawni craidd.

6. Pensaer Systemau Ynni Cymru

Argymhelliad   

Gan adeiladu ar Brosiect Grid Ynni'r Dyfodol, byddwn ni'n pwyso ar Ofgem i greu Pensaer System Ynni Cymru i oruchwylio:

a.    Hyblygrwydd ochr y galw, domestig, annomestig a phenodedig, gan gynnwys storio ynni
b.    Mapio cartrefi tlawd o ran tanwydd (a thrafnidiaeth) yn erbyn parthau rheoli cyfyngiadau Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO) cyfredol ac a ragwelir (lle y mae gan ymateb/hyblygrwydd ochr y galw y gwerth mwyaf i'r system) gyda'r bwriad o ddefnyddio technolegau hyblygrwydd carbon isel i'r cartrefi a'r aelwydydd hyn 
c.    Datrysiadau smart ar gyfer trawsyrru a dosbarthu gan gynnwys defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wneud y gorau o'r defnydd o'r rhwydwaith presennol. Gan gynnwys datblygu gofynion, cyllid ac agor y farchnad i arloesi. Angen ymgysylltu â mewnbynnau o bob rhan o ddiwydiant.
d.    Cefnogi achosion busnes i gynllunio'r system gyfan a dod â chynlluniau ar draws De, Canolbarth a Gogledd Cymru at ei gilydd
e.    Cystadleuaeth i adeiladu rhwydwaith i leihau costau a chyflymu amseroedd adeiladu
f.    Datblygu cynllun system gyfan manwl sy'n cwmpasu trawsyrru a dosbarthu
g.    Dyluniad rhwydwaith ar y Môr Celtaidd ac   atgyfnerthiadau ar y tir.
 

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

  • Mae cyhoeddiad Ofgem ynglŷn â’r Cynllunydd Strategol Ynni Rhanbarthol yn uniongyrchol gysylltiedig â’r argymhelliad hwn ac rydym wedi ymgysylltu’n uniongyrchol gydag Ofgem a hefyd gyda’r Gweithredwr Systemau Trydan (ESO) wrth iddo baratoi i ysgwyddo’r rôl hon fel rhan o’i rôl Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol (NESO).
  • Mae Cymru wedi cynnig cynorthwyo Ofgem a NESO i dreialu neu brofi agweddau ar rôl y Cynllunydd Strategol Ynni Rhanbarthol – oherwydd ein timau ynni rhanbarthol a’r ffaith bod ein Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn cwmpasu Cymru i gyd, rydym mewn sefyllfa dda i gynnal profion.
  • Rydym wedi gweithio gydag ESO a CGI, yn ogystal â phartneriaid eraill, yn y prosiect arloesi Powering Wales Renewably sy’n anelu at ddatblygu dau rwydwaith trawsyrru a dosbarthu digidol yng Nghymru. Os bydd y prosiect hwn yn parhau i gael ei ariannu, bydd yn cynnig cyfle da i wneud y gorau o’r rhwydwaith presennol a’r cyfleoedd i gynnal profion ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, yn cynnwys defnyddio dysgu peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial (AI).

Camau nesaf at eu cwblhau

  • Byddwn yn parhau i weithio gydag Ofgem a NESO i helpu i lywio syniadau ynglŷn â Chynllunydd Strategol Ynni Rhanbarthol Cymru ac i sicrhau y bydd y gwaith presennol yn cyflymu syniadau system gyfan a gwaith cynllunio rhwydweithiau yng Nghymru.
  • Byddwn yn parhau i gynorthwyo’r prosiect Powering Wales Renewably, gan sicrhau y bydd modd iddo gynorthwyo cymunedau a busnesau Cymru i gael gafael ar gyfleoedd gan grid clyfrach.
  • Byddwn yn parhau i archwilio cyfleoedd ar gyfer systemau ynni lleol clyfar trwy gyfrwng Ynni Cymru, gan ddod o hyd i fodelau a all wireddu buddion yn lleol.