Diweddariad 3 argymhellion chwe mis archwiliad dwfn ynni adnewyddadwy - Arloesi
Canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
21. Rhanddirymiad Rheoleiddiol yng Nghymru gydag Ofgem
Argymhelliad
Byddwn yn galw ar Ofgem i ddatblygu rhanddirymiad rheoleiddiol yng Nghymru i alluogi arloesedd modelau busnes ynni i gefnogi argymhellion ehangach yr Ymchwiliad Dwfn Ynni Adnewyddadwy. Dylai amcanion y rhanddirymiad gynnwys:
a. Cyflymu graddfa ynni adnewyddadwy yng Nghymru
b. Galluogi arloesi modelau busnes ynni
c. Gwireddu manteision a chyd-fanteision ehangach ynni adnewyddadwy (o safbwynt Cymru a systemau ynni)
d. Datgloi gwerth y system ynni, fel y gwerth o hyblygrwydd galw cwsmeriaid a defnyddwyr rhwng cyfoedion i fasnachu a chyflenwi trydan lleol
e. Ymgysylltu'n well a diogelu buddiannau dinasyddion Cymru.
Camau nesaf at gwblhau
- Hyd yn hyn, nid ydym wedi pennu unrhyw brosiectau penodol lle mae rhanddirymiad yn angenrheidiol.
- Rydym yn parhau i ddefnyddio cynlluniau ynni lleol i bennu’r heriau ar gyfer cyfundrefnau rheoleiddio a chyllido. Y bwriad yw cwblhau’r cynlluniau erbyn mis Mawrth 2024. Byddwn yn cynnal gwaith monitro ac yn paratoi i rannu mewnwelediadau allweddol gydag Ofgem a rhanddeiliaid.