Diweddariad 2 argymhellion chwe mis archwiliad dwfn ynni adnewyddadwy - Strategaeth
Canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
1. Gweledigaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy
Argymhelliad
Ein Gweledigaeth yw i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni o leiaf yn llawn a defnyddio'r ynni dros ben i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Byddwn yn cyflymu camau i leihau'r galw am ynni ac i sicrhau perchnogaeth leol cymaint â phosibl i gadw buddion economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
Ym mis Ionawr 2023, gwnaethon ni ymgynghori ar ein targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy. Rhoddwyd nifer o gynigion ger bron i Lywodraeth Cymru bennu targed ar eu cyfer:
- Sicrhau bod yr holl drydan a ddefnyddiwn mewn blwyddyn yn drydan adnewyddadwy erbyn 2035, a chadw’r lefel honno i’r dyfodol.
- Bod o leiaf 1.5GW o’n capasiti ynni adnewyddadwy mewn dwylo lleol erbyn 2035, heb gynnwys pympiau gwres.
- Bod 5.5GW o’n capasiti ynni adnewyddadwy yn dod o bympiau gwres erbyn 2035. I wireddu hyn, rhaid wrth gynnydd yng nghefnogaeth Llywodraeth y DU a gostyngiad yng nghost y dechnoleg.
Camau nesaf at gwblhau
Mae’r argymhelliad hwn wedi’i gwblhau.
Gan ystyried goblygiadau’n gweledigaeth i’n hymgynghoriad ar dargedau ynni adnewyddadwy Cymru, dyma’r camau a gymerir mewn perthynas â’r argymhelliad hwn:
- Dadansoddi ymatebion i’r ymgynghoriad, sy’n cau ar 18 Ebrill a gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’r targedau;
- Cyhoeddi ein targedau ynni adnewyddadwy newydd erbyn Haf 2023.
2. Cynllun ynni cenedlaethol
Argymhelliad
Byddwn yn cynyddu cynlluniau ynni lleol i greu cynllun ynni cenedlaethol erbyn 2024, gan fapio'r galw am ynni a'r cyflenwad i bob rhan o Gymru yn y dyfodol i nodi bylchau er mwyn ein galluogi i gynllunio ar gyfer system sy'n hyblyg ac yn glyfar - gan baru cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol gyda'r galw am ynni.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
Disgwylir cwblhau’r argymhelliad hwn yn 2024. Bydd y Cynllun Ynni Cenedlaethol (CYC) yn seiliedig ar y Cynlluniau Ynni Ardal Leol. Bydd y CYC yn ystyried hefyd prosiectau Gridiau Ynni Cymru’r Dyfodol, strategaethau ynni rhanbarthol, y strategaeth wres sydd wrthi’n cael ei datblygu a’n targedau ynni.
Prif uchafbwyntiau Cynlluniau Ynni Ardal Leol (LAEP) y cyfnod oedd:
- Penodi cyflenwyr i weithio gyda Prifddinas-ranbarth Caerdydd, Uchelgais Gogledd Cymru a De-orllewin Cymru;
- Sbarduno awdurdodau lleol i weithredu;
- Recriwtio adnoddau rhanbarthol i helpu i ddatblygu’r Cynlluniau Lleol;
- Rhagor o gyfarfodydd y fforwm awdurdodau lleol;
- Rhagor o gyfarfodydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol.
Camau nesaf at gwblhau
Mae ein camau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:
- Penodi cyflenwyr i weithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Uchelgais Gogledd Cymru a De-Orllewin Cymru
- Cydweithio â mwy o randdeiliaid lleol i lywio Cynlluniau Ynni Ardal Leol;
- Monitro i sicrhau bod LAEPs yn cael eu cwblhau’n brydlon;
- Adolygiad technegol o’r LAEPs wrth iddynt gael eu datblygu i sicrhau eu bod yn gyson â’r fethodoleg gymeradwy;
- Diffinio a datblygu’r Cynllun Ynni Cenedlaethol
3. Strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd a newid ymddygiad
Argymhelliad
Bydd ein cynlluniau ymgysylltu cyhoeddus a newid ymddygiad ynghylch Sero Net Cymru yn helpu dinasyddion i weithredu i leihau'r galw, gwella effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni mewn ffordd sy'n cefnogi ein gweledigaeth.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
Dros y 6 mis diwethaf, canolbwyntiwyd ar osod sylfeini’r rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd a fydd yn dechrau yn yr Haf. Dyma rai o’r prif ddarnau gwaith:
- Cyhoeddi Strategaeth ddrafft ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd i ymgynghori arni rhwng Hydref-Rhagfyr 2022;
- Comisiynu arbenigwyr mewn newid ymddygiad i ystyried ystod o dystiolaeth gymdeithasol gan ddefnyddio technegau gwyddorau ymddygiadol i nodi’r prif rwystrau a chymhellion sy’n effeithio ar ymddygiad o ran teithio, ynni’r cartref, bwyd a defnyddio gwyrdd;
- Gosod y sylfeini ar gyfer ymgyrch genedlaethol ‘Gweithredu ar Newid Hinsawdd’ a hyb ddigidol (gwefan);
- Edrych sut ydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r cyhoedd i sicrhau bod ganddynt ran wrth i ni lunio polisïau at y dyfodol. Amcan yr ymarfer hwn yw ystyried cyfleoedd i ddatblygu ‘Wythnos Hinsawdd Cymru’ ac ymgysylltu drwy’r flwyddyn gan roi sylw arbennig i grwpiau ar yr ymylon
Camau nesaf at gwblhau
Bydd ein camau nesaf yn cynnwys:
- Astudio’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Strategaeth ddrafft ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd er mwyn llunio strategaeth derfynol a’i chyhoeddi yn yr Haf;
- Lansio’r ymgyrch genedlaethol newydd, Gweithredu ar Newid Hinsawdd, a’r hyb ddigidol (yn yr Haf ar ôl cyhoeddi’r strategaeth);
- Cydweithio â thimau polisi’r sector i baratoi llinell amser ar gyfer cyflwyno’r polisïau a’r rhaglenni a nodwyd yn Sero Net Cymru fydd yn galluogi pobl i wneud dewisiadau gwyrddach o ran ynni’r cartref, trafnidiaeth, bwyd a defnyddio adnoddau (yn parhau);
- Cyflwyno arolwg tracio chwe-misol cenedlaethol newydd gyda ffocws ar Gymru i barhau i’n helpu i ddeall yn well beth mae pobl yn ei wybod am y newid yn yr hinsawdd, yn ymwybodol ohono, a’u hagweddau ato (disgwylir cynnal rhan 1 yr arolwg yng Ngorffennaf);
- Ystyried canlyniadau’r arolwg o’n trefniadau ymgysylltu a’r cyfle (a’n gallu) i gynnal rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu am yr hinsawdd drwy’r flwyddyn;
- Datblygu fframwaith gwerthuso i sicrhau bod canlyniadau’r rhaglen hon wedi’u cysylltu â’r targedau lleihau allyriadau sydd wedi’u nodi yn ein llwybrau at sero net. I ddechrau yn 2023.
4. Cyngor ar Ynni - Cartrefi Clyd / Strategaeth Wres
Argymhelliad
Rydym am weld gwasanaeth cynghori hawdd ei ddefnyddio i helpu pobl i wella effeithlonrwydd ynni a pherfformiad clyfar eu cartrefi a'u busnesau yn ogystal â chyflenwad parod o gyflenwyr a gosodwyr systemau gwresogi carbon isel yng Nghymru. Byddwn yn cwmpasu camau gweithredu ychwanegol wrth i ni ddatblygu ein Rhaglen Cartrefi Clyd a Strategaeth Wres yn y dyfodol.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
Strategaeth Wres
- Gwnaethom gynnal ein harolwg o’r dystiolaeth sydd wedi’i chyhoeddi a holi’n rhanddeiliaid cyn yr ymgynghoriad. Cadarnhawyd fod angen cyngor a chyflenwyr y gallwn ymddiried ynddynt fel rhan o becyn ehangach o bolisïau ar gyfer rhoi atebion gwresogi carbon isel ar waith.
- Mae cynigion polisi wedi’u datblygu fel rhan o’r paratoadau ar gyfer yr ymgynghoriad ac rydym wedi bod yn asesu blaenoriaethau ac yn trefnu ac yn adolygu ffactorau sy’n dibynnu ar ei gilydd.
Rhaglen Cartrefi Clyd
- Rydym wedi llunio’r Gwersi a Ddysgwyd ac ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar Gartrefi Clyd a byddwn yn eu cyhoeddi yn y Gwanwyn gyda’r datganiad polisi ar gyfer y rhaglen newydd.
- Rydym wedi crynhoi tystiolaeth, gyda chefnogaeth y Sefydliad Ymchwil i Adeiladau (BRE) fel sylfaen ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd nesaf.
Ymgysylltu â’r Cyhoedd
- Gweler y diweddariad am argymhelliad 3.
Camau nesaf at gwblhau
Mae’n camau ar gyfer y 6 mis nesaf yn cynnwys:
Strategaeth Wres
- Cynhelir ymgynghoriad ar y Strategaeth Wres yn Haf 2023;
- Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu bwydo i’r strategaeth derfynol a gyhoeddir ddiwedd 2023.
Rhaglen Cartrefi Clyd
- Byddwn yn gwahodd tendrau ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn yr haf, gan gynnwys gwasanaethau cynghori, ac yn caffael y rhaglen newydd erbyn diwedd y flwyddyn galendr.
Ymgysylltu â’r Cyhoedd
- Gweler y diweddariad am argymhelliad 3