Diweddariad 2 argymhellion chwe mis archwiliad dwfn ynni adnewyddadwy - Gwerth economaidd a chymdeithasol
Canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
18. Seilwaith porthladdoedd a morol (TCE a Llywodraeth y DU)
Argymhelliad
Byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddod â buddsoddiad newydd i borthladdoedd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd i arbenigo a chydweithio, ac i sicrhau bod porthladdoedd Cymru yn barod i fuddsoddi ynddynt. Rydym yn galw ar Ystad y Goron a Llywodraeth y DU i wneud y gorau o werth cyfleoedd datblygu'r gadwyn gyflenwi a'r seilwaith yng Nghymru o'u cylchoedd prydlesu.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
Bydd yr argymhelliad hwn yn parhau’n flaenoriaeth yn enwedig oherwydd y cysylltiad rhwng cyfleoedd Ynni Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOW) a rhyddhau prydlesi ar wely'r môr, a phenderfyniadau yn y dyfodol o ran y broses Contractio ar gyfer Gwahaniaeth (gweler argymhelliad 11). Mae ein blaenoriaethau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:
- Cymorth yn fuan yn y broses trwy neilltuo hyd at £1m o arian cyfatebol i Bort Talbot. Mae’r trafod â Doc Penfro yn parhau;
- Mae model ariannol wedi’i ddatblygu a’i drafod â’r porthladdoedd fydd yn ystyried y risg i refeniw o gofio amseriad a gwelededd y broses ddatblygu tymor hir. Caiff model caboledig ei ddefnyddio i ystyried trafodaethau ac opsiynau posib gyda chyd-gyllidwyr posib – Ystadau’r Goron, UKIB ac UKG.
Camau nesaf at gwblhau
Bydd ein blaenoriaethau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:
- Trafodaethau â Banc Buddsoddi’r DU am fuddsoddiadau posibl – yn yr arfaeth o fewn y 3 – 6 mis nesaf. Yn gysylltiedig â’r pwynt bwled isod;
- Bwrw ymlaen â strategaeth Ynni Gwynt Arnofiol yn y Môr (FLOW) ar gyfer datblygu Port Talbot a Doc Penfro. Mae’r ddau borthladd wedi gwneud cais gyda’r awdurdod lleol am statws porthladd rhydd ac wedi cyfuno’u ceisiadau am arian FLOWMIS (yn aros am y broses/cyhoeddiad terfynol);
- Parhau i ystyried y cyfleoedd i ddenu mwy o brosiectau tyrbinau ar sylfeini yn y gogledd.
19. Cynllun gweithredu sgiliau sero net
Argymhelliad
Wrth i ni ddatblygu cynllun gweithredu sgiliau sero net erbyn gwanwyn 2022 byddwn yn cefnogi mwy o gydweithio mewn diwydiant er mwyn gwneud y gorau o gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
Cafodd y Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net ei gyhoeddi ar 28 Chwefror 2023. Mae’n cynnwys 7 maes gweithredu:
- Deall y sefyllfa ar hyn o bryd o ran sgiliau ym mhob sector allyrru;
- Cyd-ddeall pa sgiliau net sero a geir ledled Cymru;
- Meithrin gweithlu crefftus i wireddu’n hymrwymiad i sero net;
- Cryfhau’r system sgiliau;
- Hybu cyfleoedd i bobl ifanc wireddu’u potensial;
- Gweithio ar draws y llywodraeth ac mewn partneriaethau i wireddu’n ymrwymiad i sgiliau;
- Newid cyfiawn.
Mae’r cynllun ar gael yma: Cynllun gweithredu sgiliau sero net
Camau nesaf at gwblhau
Mae’r argymhelliad hwn wedi’i gwblhau.
20. Rhaglen adnewyddadwy'r diwydiant
Argymhelliad
Gan weithio gyda diwydiant, byddwn yn cwmpasu rhaglen waith i osod cymaint a phosibl o osodiadau ynni adnewyddadwy, hyblygrwydd a storio ar safleoedd busnes a diwydiannol. Bydd y rhaglen yn edrych ar ddulliau o gefnogi ac osgoi risg wrth fuddsoddi.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
Mae prif uchafbwyntiau’r cyfnod yn cynnwys:
- Gwneud Diwydiant Sero Net Cymru (NZIW) yn gwmni corfforedig gyda Bwrdd Cyfarwyddwyr;
- Mae NZIW yn gweithio ar gais i Launchpad, rhaglen a noddir gan Lywodraeth y DU;
- Yn sgil lansio cynllun Clwstwr Diwydiannol De Cymru, gweithio gyda’r diwydiant i ddatblygu ffyrdd i ddatgarboneiddio.
Camau nesaf at gwblhau
Bydd yr argymhelliad hwn yn arwain at raglen waith barhaus ynghylch Diwydiant Sero Net Cymru. Bydd ein blaenoriaethau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:
- Penderfynu sut y caiff y corff ei lywodraethu a chyhoeddi rhaglen o waith disgwyliedig, gan gynnwys gwneud y gorau o gyfleoedd i osod paneli solar ar doeon diwydiannol;
- Parhau i gydweithio i fynd â chynllun Clwstwr Diwydiannol De Cymru yn ei flaen.