Neidio i'r prif gynnwy

Mae disgyblion ledled Cymru wedi bod yn greadigol i ledaenu negeseuon diogelwch lliwgar yn ystod y Diwrnod Aer Glân.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd y dysgwyr yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar ffynonellau llygredd aer a'r effaith y maent yn ei gael ar iechyd.

Roedd Ysgol Uwchradd Bedwas yn un o 40 o ysgolion a gymerodd ran yn y fenter a gyflwynwyd gan Gynllun Addysg Beirianneg Cymru/STEM Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o'r gweithdy, cafodd disgyblion eu herio i ddylunio arwydd ffordd i annog gyrwyr i arafu er mwyn lleihau llygredd nitrogen deuocsid a helpu i wneud yr aer y maent yn ei anadlu'n lanach.

Enillydd y gystadleuaeth oedd disgybl Blwyddyn 7 Ysgol Uwchradd Bedwas, Miley Fletcher gyda safle cydradd ail i Thomas Lukins (Ysgol Uwchradd Bedwas) ac Amelie Norbury (Ysgol Crist y Gair yn Abergele).

Bydd yr arwydd buddugol yn cael ei gynhyrchu a'i osod mewn lleoliadau ledled Cymru lle mae'r terfyn cyflymder amgylcheddol o'r 50au yn cael ei ddefnyddio.

Dywedodd yr enillydd Miley Fletcher:

"Roeddwn i ar ben fy nigon ac yn teimlo'n gyffrous iawn ac yn hapus pan wnes i ddarganfod fy mod i wedi ennill! Roeddwn i eisiau creu dyluniad a oedd yn fyr a bachog, a heb dynnu sylw gyrwyr yn ormodol, ond hefyd yn codi ymwybyddiaeth o aer glanach ar yr un pryd. Rwy'n teimlo bod fy nghynllun yn gwneud hyn ac rwy'n falch iawn o'm llwyddiant"

Ychwanegodd Larissa Lockwood, Cyfarwyddwr Aer Glân yn y Cynllun Gweithredu Byd-eang:

"Rydym wrth ein boddau yn parhau i gefnogi Diwrnod Aer Glân Cymru yn ei chweched blwyddyn ac yn cymeradwyo ysgolion fel Ysgol Uwchradd Bedwas am gymryd camau creadigol o'r fath i ysbrydoli dyfodol gydag awyr glanach."