Heddiw, bu'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn ymweld ag Ysgol Eirias ym Mae Colwyn i glywed barn y disgyblion am y syniad o gyflwyno treth ar ddeunydd plastig untro.
Lluniwyd y rhestr fer ar ôl cael adborth gan y cyhoedd am syniadau ar gyfer trethi newydd wedi i'r Ysgrifennydd Cyllid ddweud y byddai'n profi pwerau Deddf Cymru 2014, sy'n caniatáu i Gymru gynnig syniadau ar gyfer trethi newydd mewn meysydd sydd wedi'u datganoli.
Mae gwaith pellach yn cael ei wneud ar y pedwar syniad – bydd un yn cael ei gynnig i Lywodraeth y DU yn y flwyddyn newydd i brofi system Deddf Cymru.
Yn ystod yr ymweliad ag Ysgol Eirias, bu'r Ysgrifennydd Cyllid yn gwylio ffilm fer a wnaed gan ddisgyblion blwyddyn 10 a oedd yn nodi pam eu bod yn credu bod angen treth ar ddeunydd plastig untro yng Nghymru. Bu hefyd yn trafod y tri syniad treth arall â nhw.
Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet hefyd achub ar y cyfle i lansio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a fydd yn para am bythefnos, gan gynnwys pleidlais ddienw ar restr fer y syniadau ar gyfer y trethi newydd.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
"Mae'r pŵer i gynnig trethi newydd yn un pwysig y gallwn ei ddefnyddio i wella ein cymunedau. Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom ddechrau trafodaeth genedlaethol yn gofyn i bobl gynnig syniadau am drethi Cymreig newydd posibl i Gymru ac fe gawson ni ymateb da.
"Yn y Gyllideb ddrafft, fe wnes i gyhoeddi rhestr fer o bedwar syniad i wneud gwaith pellach arnyn nhw. Roeddwn yn falch o ymweld ag Ysgol Eirias heddiw i wylio ffilm fer a baratowyd gan y disgyblion a oedd yn nodi pam eu bod yn credu bod angen treth Gymreig newydd ar ddeunydd plastig untro ac i drafod y syniadau eraill rydyn ni'n eu hystyried â nhw.
"Roedd y ffilm yn llawn gwybodaeth ac fe gawson ni drafodaeth ddiddorol am y ffordd y mae trethi'n newid ymddygiad er budd cymunedau ledled Cymru. Hoffwn ddiolch i bawb am gymryd amser i baratoi'r ffilm ac am eu croeso.
"Heddiw, fe wnes i hefyd lansio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol Trysorlys Cymru, gan gynnwys pleidlais ddienw ar restr fer y pedwar syniad treth. Rydyn ni'n delio â'n polisi treth mewn ffordd agored a chytbwys ac rydyn ni am adeiladu ar hyn.
"Rydyn ni am glywed barn cynifer o bobl â phosibl ac rwy'n annog pobl a rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru i gymryd rhan, i rannu eu barn a'n helpu i lunio dyfodol y trethi Cymreig."
Dywedodd Tim Williams, athro dosbarth blwyddyn 10 ac athro astudiaethau crefyddol yn Ysgol Eirias: "Fel ysgol, rydyn ni wedi rhoi pwyslais mawr ar addysgu ein pobl ifanc i geisio byw bywydau mwy cynaliadwy. Mae dosbarth 10W hefyd yn teimlo ei bod yn bwysig ceisio lleihau faint o eitemau plastig untro sy'n cael eu taflu ar ein strydoedd ac yn cyrraedd y môr.
"Wrth i Mr Drakeford wahodd cynigion am syniadau newydd ar gyfer Cymru, sylweddolodd y dosbarth fod hwn yn gyfle gwych i Gymru arwain y ffordd o ran byw'n gynaliadwy, a'r gobaith yw y bydd gwledydd eraill yn dilyn ei hesiampl.
"Roedd yn fraint bod yn rhan o'r drafodaeth am y trethi Cymreig newydd cyntaf ers yr Oesoedd Canol."
Am y newyddion diweddaraf dilynwch @TrysorlysCymru