Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 7 Medi i 30 Hydref 2020.

Gwybodaeth am ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion yn ystod y pandemig coronafirws (COVID-19) cyfredol.

Ansawdd

Mae'r wybodaeth hon yn adolygu'r holl ystadegau presenoldeb disgyblion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ers 7 Medi 2020. Gweler y adroddiad ansawdd am wybodaeth bellach.

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Mae'n cynnwys disgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai disgyblion o Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Mae'r wybodaeth yn y datganiad hwn yn ymwneud â disgyblion a oedd yn bresennol yn gorfforol ar dir yr ysgol am o leiaf un sesiwn ysgol bob dydd. Mae disgyblion sy’n dysgu gartref oherwydd COVID-19, gan gynnwys dysgu ar-lein, neu nad ydynt fel arall ar dir yr ysgol, yn cael eu cyfrif fel ‘ddim yn bresennol’ yn y cyd-destun hwn. Mae'r casgliad hwn yn caniatáu inni fesur nifer y disgyblion sy'n gwneud ac nad oes ganddynt gyswllt uniongyrchol â staff a disgyblion eraill yn yr ysgol yn ystod y pandemig hwn.

Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer yr wythnos ddiweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Prif bwyntiau

  • Nid oes unrhyw ddata ar gyfer yr wythnos 26 i 30 Hydref oherwydd gwyliau hanner tymor yr hydref. Mae data ar gyfer yr wythnos 19 i 23 Hydref wedi'i ddiwygio wrth i ddata mwy cyflawn a chyfoes gael ei dderbyn.
  • Roedd cyfartaledd o 84.4% o ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol dros y wythnos 19 Hydref i 23 Hydref.
  • Cynyddodd canran y disgyblion a oedd yn bresennol yn gyson o ddechrau'r tymor ac roedd ar ei uchaf yn yr wythnos yn dechrau 5 Hydref, sef 88%, cyn gostwng yn yr wythnosau yn arwain at hanner tymor.
Image
Mae canran y disgyblion sy'n bresennol bob dydd yn gyson ar oddeutu 87-88 y cant, ar ôl tyfu'n gyflym ar ddechrau mis Medi yn ystod agoriad graddol ysgolion.

Cefndir a chyd-destun

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg gynlluniau ‘yn ôl i’r ysgol’ ar 9 Gorffennaf 2020. Roedd hyn yn cynnwys cyfnod o bythefnos o 1 Medi lle gallai ysgolion gael yr hyblygrwydd i ganolbwyntio ar grwpiau blwyddyn â blaenoriaeth. Y diwrnod cyntaf y disgwylid yr holl ddisgyblion yn ôl yn yr ysgol oedd dydd Llun 14 Medi.

Cyhoeddwyd canllawiau gweithredol i ysgolion o dymor yr hydref ar 13 Gorffennaf ac mae'n cynnwys canllawiau ar gofnodi presenoldeb.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Presenoldeb plant yn ysgolion a gynhelir yng Nghymru: 7 Medi i 30 Hydref 2020 (dros dro) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 18 KB

ODS
18 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.