Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 7 Medi i 18 Rhagfyr 2020.

Ni chyhoeddir y datganiad hwn ar 30 Rhagfyr 2020 na 6 Ionawr 2021. Bydd cyhoeddiad olaf 2020 ar 23 Rhagfyr. Bydd y cyhoeddiad yn ailddechrau ar 13 Ionawr 2021.

Ansawdd

Gweler y adroddiad ansawdd am wybodaeth bellach.

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Mae'n cynnwys disgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai disgyblion o Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Mae'r wybodaeth yn y datganiad hwn yn ymwneud â disgyblion a oedd yn bresennol yn gorfforol ar dir yr ysgol am o leiaf un sesiwn ysgol bob dydd. Mae disgyblion sy’n dysgu gartref oherwydd COVID-19, gan gynnwys dysgu ar-lein, neu nad ydynt fel arall ar dir yr ysgol, yn cael eu cyfrif fel ‘ddim yn bresennol’ yn y cyd-destun hwn. Mae'r casgliad hwn yn caniatáu inni fesur nifer y disgyblion sy'n gwneud ac nad oes ganddynt gyswllt uniongyrchol â staff a disgyblion eraill yn yr ysgol yn ystod y pandemig hwn.

Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Ar 19 Hydref 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog cyfnod atal byr pythefnos dros Gymru, gan ddechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref ac yn gorffen ddydd Llun 9 Tachwedd. Roedd y cyfnod hwn yn cwmpasu'r gwyliau o’r hanner tymor ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru a'r wythnos yn cychwyn ddydd Llun 2 Tachwedd. Yn ystod yr wythnos hon, parhaodd mwyafrif helaeth y disgyblion ym mlynyddoedd 9 ac uwch â'u dysgu o gartref.

Ar 10 Rhagfyr 2020 cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai pob ysgol uwchradd a choleg yng Nghymru yn symud i ddysgu ar-lein am wythnos olaf y tymor cyn y Nadolig. Caeodd llawer o ysgolion cynradd yn ystod wythnos olaf y tymor hefyd. O ganlyniad i hyn, roedd canran y disgyblion a oedd yn bresennol yn yr ysgol am yr wythnos yn dechrau 14 Rhagfyr yn llawer is na'r wythnosau blaenorol.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfartaledd o 19% o ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol dros y wythnos 14 Rhagfyr i 18 Rhagfyr. Gwybodaeth dros dro yw hwn ac fe fydd yn cael ei ddiwygio ar 13 Ionawr.
  • Cynyddodd canran y disgyblion a oedd yn bresennol yn gyson o ddechrau'r tymor ac roedd ar ei uchaf o 88% yn yr wythnos yn dechrau 5 Hydref, cyn gostwng yn yr wythnosau yn arwain at hanner tymor.
  • Ar ôl hanner tymor roedd canran y disgyblion a oedd yn bresennol ar ei uchaf o 90% yn yr wythnos yn dechrau 9 Tachwedd. Hon oedd yr wythnos gyntaf ar ôl hanner tymor yr oedd yn ofynnol i bob disgybl ei mynychu a dyma hefyd ddiwedd y cyfnod atal byr yng Nghymru. Mae'r gyfradd wedi gostwng ers hynny.
  • Mae bechgyn yn llai tebygol o fod yn bresennol yn yr ysgol na merched. Mae hyn yr un peth â'r patrwm a welir yn ein cyhoeddiadau hanesyddol lle mae gan fechgyn gyfraddau presenoldeb is. Mae'r gwahaniaeth fel arfer yn llai nag 1 pwynt canran.
  • Mae disgyblion ysgolion cynradd yn fwy tebygol o fod yn bresennol na disgyblion ysgolion uwchradd
  • Ymhlith disgyblion statudol oed ysgol, disgyblion ym mlwyddyn 11 yw'r lleiaf tebygol o fod yn bresennol yn yr ysgol.
  • Roedd mwyafrif yr holl sesiynau a gollwyd yn ystod yr wythnos rhwng 14 Rhagfyr a 18 Rhagfyr naill ai oherwydd dysgu o bell (cod “[“) neu absenoldeb a gyfarwyddwyd gan yr ysgol (cod “Y”). Mae'r data yn y tabl hwn yn cyfri nifer y sesiynau ysgol hanner diwrnod a gollwyd ac nid yw'n gyfrif o ddisgyblion.
  • Mae Tabl 7 yn dangos bod presenoldeb dyddiol wedi'i gyfrifo i fod yn gymharol â'r hyn a gyhoeddwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Mae'n dangos bod presenoldeb wedi amrywio o 87% i 93% rhwng 9 Tachwedd a 4 Rhagfyr gyda chyfartaledd o 91%, cyn gostwng dros bythefnos olaf y tymor cyn y Nadolig. Dros y flwyddyn academaidd 2018-19 roedd cyfartaledd presenoldeb yn 94%.
Image
Mae canran y disgyblion sy'n bresennol bob dydd fel arfer wedi bod rhwng 80 a 90 y cant ers 14 Medi 2020, cyn gostwng yn ystod pythefnos olaf y tymor cyn y Nadolig.

Cefndir a chyd-destun

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg gynlluniau ‘yn ôl i’r ysgol’ ar 9 Gorffennaf 2020. Roedd hyn yn cynnwys cyfnod o bythefnos o 1 Medi lle gallai ysgolion gael yr hyblygrwydd i ganolbwyntio ar grwpiau blwyddyn â blaenoriaeth. Y diwrnod cyntaf y disgwylid yr holl ddisgyblion yn ôl yn yr ysgol oedd dydd Llun 14 Medi.

Cyhoeddwyd canllawiau gweithredol i ysgolion o dymor yr hydref ar 13 Gorffennaf ac mae'n cynnwys canllawiau ar gofnodi presenoldeb.

Ar ddydd Iau 5 Tachwedd, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad cryno ar achosion o COVID-19 sy'n gysylltiedig ag ysgolion a cholegau. Mae'r data hwn yn gyd-destun defnyddiol i'w osod ochr yn ochr â'r wybodaeth yn y datganiad hwn.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Disgyblion yn bresennol mewn ysgolion a gynhelir: 7 Medi i 18 Rhagfyr 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 42 KB

ODS
42 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.