Gwybodaeth reoli a dynnwyd o systemau ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir a Unedau Cyfeirio Disgyblion o 7 Medi i 16 Hydref 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir
Gwybodaeth am ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion yn ystod y pandemig coronafirws (COVID-19) cyfredol. Bydd yn cael ei gyhoeddi bob dydd Mercher am 9:30am o 21 Hydref ymlaen.
Ansawdd
Mae'r wybodaeth hon yn adolygu'r holl ystadegau presenoldeb disgyblion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ers 7 Medi 2020. Gweler y adroddiad ansawdd am wybodaeth bellach.
Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Mae'n cynnwys disgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai disgyblion o Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Mae'r wybodaeth yn y datganiad hwn yn ymwneud â disgyblion a oedd yn bresennol yn gorfforol ar dir yr ysgol am o leiaf un sesiwn ysgol bob dydd. Mae disgyblion sy’n dysgu gartref oherwydd Covid-19, gan gynnwys dysgu ar-lein, neu nad ydynt fel arall ar dir yr ysgol, yn cael eu cyfrif fel ‘ddim yn bresennol’ yn y cyd-destun hwn. Mae'r casgliad hwn yn caniatáu inni fesur nifer y disgyblion sy'n gwneud ac nad oes ganddynt gyswllt uniongyrchol â staff a disgyblion eraill yn yr ysgol yn ystod y pandemig hwn.
Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer yr wythnos ddiweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.
Prif bwyntiau
- Roedd cyfartaledd o 87.5% o ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol dros y wythnos 12 i 16 Hydref 2020. Gwybodaeth dros dro yw hwn a fe fydd yn cael ei ddiwygio ar 28 Hydref 2020.
- Mae’r data ar gyfer y wythnosau blaenorol yn dangos tuedd i fyny ers dechrau tymor yr Hydref, ac yn cyrraedd 88% yn yr wythnos yn dechrau 5 Hydref 2020.
- Mae’r canran o ddisgyblion yn bresennol rhwng 3 a 6 pwynt canran un uwch na chyhoeddwyd o’r blaen. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod y data diweddaraf hwn yn fwy cyflawn a diweddar.
Cefndir a chyd-destun
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg gynlluniau ‘yn ôl i’r ysgol’ ar 9 Gorffennaf. Roedd hyn yn cynnwys cyfnod o bythefnos o 1 Medi lle gallai ysgolion gael yr hyblygrwydd i ganolbwyntio ar grwpiau blwyddyn â blaenoriaeth. Y diwrnod cyntaf y disgwylid yr holl ddisgyblion yn ôl yn yr ysgol oedd dydd Llun 14 Medi.
Cyhoeddwyd canllawiau gweithredol i ysgolion o dymor yr hydref ar 13 Gorffennaf ac mae'n cynnwys canllawiau ar gofnodi presenoldeb.
Statws Ystadegau Gwladol
Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Presenoldeb plant yn ysgolion a gynhelir yng Nghymru: 7 Medi i 16 Hydref 2020 (dros dro) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 17 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.