Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 7 Medi 2020 i 12 Mawrth 2021.

O 22 Chwefror 2021 dechreuodd ysgolion agor ar gyfer disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen (disgyblion 3 i 7 oed) gyda phresenoldeb y disgyblion hynny yn cael eu cyflwyno'n raddol dros yr wythnos mewn rhai ALlau. Mae ysgolion yng Nghymru yn parhau i fod yn agored i blant sy’n agored i niwed neu blant gweithwyr allweddol o unrhyw oedran. Mae'r holl ddisgyblion eraill ym mlynyddoedd 3 i 13 yn parhau gyda dysgu o bell gartref.

Mae'r ffigurau yn y datganiad hwn yn rhai dros dro ac mae cyhoeddiadau diweddar ynghylch dychwelyd yr ysgolion yn dilyn hanner tymor mis Chewfror yn effeithio arnynt.

Bydd y data o 1 Mawrth ymlaen yn cael ei ddiweddaru yn ein datganiad ar 24 Mawrth 2021.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfartaledd o 35% o ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol dros y wythnos 08 Mawrth i 12 Mawrth. Roedd 88% o ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen ar gyfartaledd yn bresennol dros yr wythnos. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei hadolygu ar 24 Mawrth.
  • Ers 4 Ionawr, mae bechgyn yn llai tebygol o fod yn bresennol yn yr ysgol na merched. Mae hyn yn batrwm gwahanol i’r hyn a welir yn ein cyhoeddiadau hanesyddol lle mae gan fechgyn gyfraddau presenoldeb is. Mae'r gwahaniaeth fel arfer yn llai nag 1.5 pwyntiau canran.
  • Ers 4 Ionawr, ymysg disgyblion oedran ysgol statudol, mae canran uwch o ddisgyblion yn bresennol yn y grwpiau blwyddyn gyda’r disgyblion ieuengaf yn ysgolion cynradd ac uwchradd.
  • Roedd mwyafrif yr holl sesiynau a gollwyd yn ystod yr wythnos rhwng 8 Mawrth i 12 Mawrth 2021 naill ai oherwydd absenoldeb a gyfarwyddwyd gan yr ysgol (cod “Y”). Mae'r data yn y tabl hwn yn cyfri nifer y sesiynau ysgol hanner diwrnod a gollwyd ac nid yw'n gyfrif o ddisgyblion.
  • Mae canran uwch o ddisgyblion yn bresennol yn ystod y cyfnod cyfyngu symud presennol nag ar unrhyw adeg yn ystod y cyfyngiad symud cyntaf rhwng Mawrth a Mehefin 2020. Gellir dod o hyd i ddata o'r cyfnod cyntaf yn y datganiad ar bresenoldeb mewn lleoliadau awdurdod lleol.
Image
Mae canran y disgyblion sy'n bresennol bob dydd fel arfer wedi bod rhwng 80 a 90 y cant ers 14 Medi 2020, cyn gostwng yn ystod pythefnos olaf y tymor cyn y Nadolig. Ers 4 Ionawr 2021 mae ysgolion wedi bod ar gau i'r mwyafrif o ddisgyblion a defnyddir dysgu o bell ar-lein. Dechreuodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen ddychwelyd yn raddol ar 22 Chwefror 2021.

Ansawdd

Gweler y adroddiad ansawdd am wybodaeth bellach.

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Mae'n cynnwys disgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai disgyblion o Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Mae wedi dod i’n sylw nad yw pob ysgol yng Nghymru yn parhau i gofnodi presenoldeb yn electronig ar ôl symud i ddysgu ar-lein. Ar hyn o bryd rydym yn gwerthuso effaith hyn ar y data a gyhoeddwyd. Gall unrhyw ddiwygiadau i'r data yn y dyfodol fod yn fwy arwyddocaol nag sydd wedi digwydd hyd yn hyn.

Mae'r wybodaeth yn y datganiad hwn yn ymwneud â disgyblion a oedd yn bresennol yn gorfforol ar dir yr ysgol am o leiaf un sesiwn ysgol bob dydd. Mae disgyblion sy’n dysgu gartref oherwydd Covid-19, gan gynnwys dysgu ar-lein, neu nad ydynt fel arall ar dir yr ysgol, yn cael eu cyfrif fel ‘ddim yn bresennol’ yn y cyd-destun hwn. Mae'r casgliad hwn yn caniatáu inni fesur nifer y disgyblion sy'n gwneud ac nad oes ganddynt gyswllt uniongyrchol â staff a disgyblion eraill yn yr ysgol yn ystod y pandemig hwn.

Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Cyhoeddiadau eraill a fydd yn effeithio ar ddata hanesyddol

Ar 19 Hydref 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog cyfnod atal byr pythefnos dros Gymru, gan ddechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref ac yn gorffen ddydd Llun 9 Tachwedd. Roedd y cyfnod hwn yn cwmpasu'r gwyliau o’r hanner tymor ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru a'r wythnos yn cychwyn ddydd Llun 2 Tachwedd. Yn ystod yr wythnos hon, parhaodd mwyafrif helaeth y disgyblion ym mlynyddoedd 9 ac uwch â'u dysgu o gartref.

Ar 10 Rhagfyr 2020 cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai pob ysgol uwchradd a choleg yng Nghymru yn symud i ddysgu ar-lein am wythnos olaf y tymor cyn y Nadolig. Caeodd llawer o ysgolion cynradd yn ystod wythnos olaf y tymor hefyd. O ganlyniad i hyn, roedd canran y disgyblion a oedd yn bresennol yn yr ysgol am yr wythnos yn dechrau 14 Rhagfyr 2020 yn llawer is na'r wythnosau blaenorol.

Ar 17 Rhagfyr 2020 cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru ar gynlluniau ar gyfer dychwelyd i'r ysgol yn raddol ym mis Ionawr. Dechreuodd y tymor newydd ar 4 Ionawr 2021 er y bydd llawer o ysgolion wedi trefnu diwrnod HMS y diwrnod hwnnw. Roedd disgwyl i fwyafrif y disgyblion ddychwedlyd i'r ysgol ar 11 Ionawr gyda dychweliad llawn erbyn 18 Ionawr fan bellaf. Diweddarwyd y cynlluniau hyn ar 4 Ionawr pan gyhoeddodd y Gweinidog Addysg y dylai pob ysgol a choleg symud i ddysgu ar-lein tan 18 Ionawr 2021. Yn dilyn hynny, estynnwyd y cyfnod hwn o ddysgu ar-lein tan 12 Chwefror 2021.

Cymharoldeb

Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad, diffiniadau o blant bregus ac amseriad newidiadau i reolau cloi i lawr sy'n cael effaith ar bresenoldeb yn yr ysgol.

Cefndir a chyd-destun

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg gynlluniau ‘yn ôl i’r ysgol’ ar 9 Gorffennaf 2020. Roedd hyn yn cynnwys cyfnod o bythefnos o 1 Medi lle gallai ysgolion gael yr hyblygrwydd i ganolbwyntio ar grwpiau blwyddyn â blaenoriaeth. Y diwrnod cyntaf y disgwylid yr holl ddisgyblion yn ôl yn yr ysgol oedd dydd Llun 14 Medi 2020.

Ysgolion: canllawiau coronafeirws

O ddydd Iau 5 Tachwedd 2020, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad cryno ar achosion o covid-19 sy'n gysylltiedig ag ysgolion a cholegau. Mae'r data hwn yn gyd-destun defnyddiol i'w osod ochr yn ochr â'r wybodaeth yn y datganiad hwn.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Disgyblion yn bresennol mewn ysgolion a gynhelir: 7 Medi 2020 i 12 Mawrth 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 50 KB

ODS
50 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.