Disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol: Medi 2023 i Awst 2024 (diwygiad)
Data ar gyfer disgyblion lle mae awdurdodau lleol yn gwybod eu bod yn derbyn addysg y tu allan i'r ysgol yr gyfer Medi 2023 i Awst 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodyn adolygu
Diwygiwyd yr adroddiad hwn ar 12 Medi 2024, ar ôl ei gyhoeddi ar 27 Awst 2024.
Diwygiadau
Cywiro nifer y disgyblion sy’n hysbys eu bod yn cael eu haddysgu gartref yn ddewisol yng Nghymru yn 2023/24, a roddwyd yn anghywir fel rhif y flwyddyn flaenorol (5,330). Mae bellach wedi'i ddiweddaru i'r nifer cywir ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiweddaraf (6,156). Defnyddiwyd y ffigwr cywir o 6,156 o ddisgyblion yn y daenlen oedd yn cyd-fynd.
Yn Nhabl 5 roedd y data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn anghywir yn y pedair rhes gyntaf. Arweiniodd hyn hefyd at y cymarebau yn seiliedig ar y rhifau hyn fod yn anghywir.
Mae newidiadau wedi'u marcio â (r). Nid yw'r un o'r negeseuon neu'r tueddiadau allweddol wedi newid o ganlyniad i'r diwygiadau hyn.
Cyflwyniad
Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data ar Ddisgyblion sy'n Derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS), gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD). Mae'n cynnwys data yn ôl oedran, rhyw, a'r math o ddarpariaeth.
Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu amser yn ystod ac ar ôl yn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae'r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â'r sefyllfa ym mis Ionawr 2024. Gweler yr adran ansawdd i gael gwybodaeth am effaith y pandemig coronafeirws (COVID-19) ar y casgliad data hwn yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Mae’r Cyfrifiad EOTAS yn cynnwys disgyblion sy’n cael eu rhoi gan awdurdodau lleol mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau), neu fathau eraill o ddarpariaeth amgen y cyfeirir ati fel Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS). Mae'n cyfateb i'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgybl (CYBLD), ond ar gyfer plant sy'n cael eu haddysgu y tu allan i'r ysgol.
Mae'r datganiad hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am blant lle mae’r rhieni wedi rhoi gwybod i awdurdodau lleol eu bod yn cael eu haddysgu gartref. Nid yw'r plant hyn wedi'u cynnwys yng Nghyfrifiad EOTAS, a darperir data yn adran olaf y cyhoeddiad hwn.
Am ddiffiniadau manylach am y meini prawf ar gyfer EOTAS a chategorïau darpariaeth EOTAS gweler diffiniadau a meini prawf.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn aml yn defnyddio nifer y disgyblion ym mhob 1,000 (cyfraddau) i gymharu grwpiau. Mae'r rhif yn cael ei gyfrifo trwy rannu â nifer y disgyblion yn y grŵp EOTAS gan nifer y disgyblion sydd yn yr un grŵp yng nghyfanswm poblogaeth myfyrwyr.
Er enghraifft, os mewn awdurdod lleol yn 2023/24 mae:
- 500 o ddisgyblion EOTAS yn yr awdurdod lleol
- 50,000 o ddisgyblion CYBLD ac EOTAS yn yr un awdurdod lleol
Yna mae 10 disgybl EOTAS ym mhob 1,000 o ddisgyblion yn yr awdurdod lleol hwnnw.
Yng Nghymru, yn 2023/24 mae 5.5 o bob 1,000 o ddisgyblion gyda darpariaeth EOTAS
Mae'r awdurdod lleol yn ein hesiampl ni yn fwy na rhif Cymru, felly mae mwy o ddisgyblion EOTAS yn gymesur yn yr awdurdod lleol hwnnw nag yng Nghymru.
Disgyblion EOTAS
Yn 2023/24 roedd 2,597 o ddisgyblion yn cael rhyw fath o ddarpariaeth addysg y tu allan i’r ysgol. Dyna 5.5 o bob 1,000 disgybl yng Nghymru i lawr o uchafbwynt o 5.6 o bob 1,000 disgybl yn 2010/11 ac i fyny o 5.1 o bob 1,000 disgybl yn 2022/23
Mae 2,279 o ddisgyblion EOTAS yn cael eu haddysgu’n bennaf y tu allan i ysgolion. Dyna 4.9 o bob 1,000 disgybl yng Nghymru, i fyny o 4.0 o bob 1,000 disgybl yn 2022/23 ac y gyfradd uchaf ers i ni ddechrau cyfrifo'r data yn 2009/10
Mae'n ymddangos bod nifer y disgyblion EOTAS yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol yn cynyddu, ar ôl wedi mwy na dyblu’n gymesur ers 2009/10, y gallwch ei weld yn Siart 1. Ers dechrau pandemig coronafeirws (Covid-19), ni fu unrhyw newid yn y duedd hirdymor.
Mae canran y disgyblion EOTAS yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol yn 87.8%, i fyny o 42% yn 2009/10.
Ffigur 1: Cyfradd fesul 1,000 o ddisgyblion yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol, 2009/10 i 2023/24
Disgrifiad o Siart 1: Siart llinell sy'n dangos tuedd tymor hir i fyny yn y gyfradd fesul 1,000 o ddisgyblion o'r rhai a addysgir yn bennaf y tu allan i'r ysgol, 2009/10 i 2023/24. Mae gostyngiad sydyn yn y gyfradd yn 2020 oherwydd y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf yn y Gwanwyn 2020 yn ystod pandemig coronafeirws (Covid-19).
Ffynhonnell: Cyfrifiad EOTAS a CYBLD
Mae llawer o ddisgyblion EOTAS yn dal ar y gofrestr mewn ysgolion a gynhelir. O'r 2,597 o ddisgyblion EOTAS:
- 902 o ddisgyblion EOTAS â statws cofrestru ‘atodol’ mewn ysgolion a gynhelir, sy'n golygu mai eu prif addysg oedd 'heblaw yn yr ysgol'
- Roedd gan 318 o ddisgyblion EOTAS statws cofrestru 'prif' neu 'gyfredol' mewn ysgolion a gynhelir, sy'n golygu bod eu prif addysg mewn ysgol a gynhelir
Mae ffocws y datganiad hwn ar y 2,279 o ddisgyblion EOTAS sy’n derbyn eu prif addysg tu allan i'r ysgol. Mae hyn yn gyfuniad o'r:
- 902 o ddisgyblion â statws cofrestru ‘atodol’ h.y. maent yn treulio peth amser yn yr ysgol
- 1,377 o ddisgyblion yn cael eu holl addysg y tu allan i'r ysgol
Mae disgyblion sydd â statws cofrestru 'prif' neu 'gyfredol' wedi'u cynnwys yng nghyhoeddiad Cyfrifiad yr Ysgolion.
Awdurdodau lleol
Merthyr Tudful oedd â'r gyfradd uchaf o ddisgyblion EOTAS yn 2023/24, gyda 10.4 o bob 1,000 o ddisgyblion yn cael eu prif addysg y tu allan i'r ysgol.
Mae niferoedd EOTAS Sir Benfro wedi cynyddu fwyaf ers 2009/10, yn mynd o gyfradd o 0.5 o bob 1,000 o ddisgyblion i 8.5 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2023/24. Mae'r gyfradd bellach 15 gwaith yn fwy nag yn 2009/10. Mae hyn oherwydd cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n cael eu cofnodi gyda chofrestriad atodol mewn ysgol a gynhelir, yn hytrach na chael eu cofnodi fel statws cofrestru prif neu gyfredol.
Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) / Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Yn 2023/24, mae yna, yn gymesur, llawer mwy o ddisgyblion ag AAA neu ADY yn cael eu haddysgu y tu allan i'r ysgol yn bennaf nag yn y boblogaeth gyffredinol o fyfyrwyr.
Cyfraddau disgyblion sy’n derbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol ar gyfer pob categori o ddarpariaeth AAA neu ADY
Gyda datganiad o AAA
- 56.8 o bob 1,000 o ddisgyblion
Gweithredu gan yr ysgol a mwy
- 48.7 o bob 1,000 o ddisgyblion
Cynllun Datblygu Unigol (CDU) a gynhelir gan yr AALI
- 118.1 o bob 1,000 o ddisgyblion
O'i gymharu â chyfartaledd o 4.9 o bob 1,000 o ddisgyblion ym mhoblogaeth gyffredinol disgyblion. I gael gwybodaeth am gategorïau disgyblion AAA neu ADY, gweler y wybodaeth mewn diffiniadau a meini prawf.
Yn 2023/24 cynyddodd y gyfradd o ddisgyblion sy’n derbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol sydd ag AAA neu ADY o'i gymharu â 2009/10. Roedd cyfradd y disgyblion sy’n cael eu prif addysg y tu allan i’r ysgol o dan 10 o bob 1,000 o ddisgyblion rhwng 2009/10 a 2012/13 ond mae wedi codi’n gyflym yn y tair blynedd diwethaf i gyrraedd 35.3 o bob 1,000 o ddisgyblion erbyn 2023/24.
Yn dilyn cyflwyno diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn raddol o fis Medi 2021, yn 2023/24, Cynllun Datblygu Unigol (CDU) a gynhelir gan awdurdod lleol yw’r ddarpariaeth ADY fwyaf cyffredin ar gyfer disgyblion sy’n derbyn eu prif addysg tu allan i’r ysgol.
Prydau Ysgol Am Ddim (PYD)
Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth.
Bu cyfradd gyson ac uwch o ddisgyblion gyda PYD sy’n derbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol nag yn y boblogaeth gyffredinol. Cyrhaeddodd y gyfradd uchafbwynt yn 2017/18, gyda 11.2 o bob 1,000 o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn PYD yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol, o'i gymharu â 8.4 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2023/24.
Roedd 44.9% o ddisgyblion yn derbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2023/24, o'i gymharu â 20.3% o ddisgyblion yr ysgol (CYBLD) a oedd yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Darpariaeth EOTAS
Gan y gall disgyblion fynychu mwy nag un ddarpariaeth addysgol mewn wythnos, gall rhai disgyblion gael eu cyfrif yn erbyn mwy nag un ddarpariaeth. Felly, mae nifer y cofrestriadau (2,356) yn uwch na nifer y disgyblion yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol (2,279 o ddisgyblion).
Yn 2023/24 roedd 1,052 o gofrestriadau mewn unedau cyfeirio disgyblion, a oedd yn cyfrif am 44.7% o'r holl gofrestriadau addysgol EOTAS. Unedau cyfeirio disgyblion yw'r ddarpariaeth fwyaf cyffredin o hyd i ddisgyblion EOTAS. Mae canran y disgyblion yn UCDau wedi bod yn gymharol gyson ers 2009/10.
20.4 oedd nifer yr oriau o addysg a ddarparwyd i ddisgyblion yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol. Roedd disgyblion oedd wedi cofrestru mewn coleg addysg bellach yn derbyn y nifer fwyaf o oriau o ddarpariaeth ar gyfartaledd, gyda 25.1 awr ar gyfartaledd fesul disgybl.
Ffigur 2: Canran y cofrestriadau disgyblion, yn ôl darpariaeth addysgol, 2023/24
Disgrifiad: Mae Ffigur 2 yn siart bar sy'n dangos bod y nifer fwyaf o gofrestriadau disgyblion (44.7%) mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion, ac yna ysgolion annibynnol (18.4%) a hyfforddiant unigol (16.0%).
Ffynhonnell: Cyfrifiad EOTAS a CYBLD
Ers 2009/10 mae'r defnydd o hyfforddiant unigol ac ysgolion annibynnol wedi cynyddu. Ysgolion Annibynnol yw'r ail ddarpariaeth fwyaf erbyn hyn ar gyfer disgyblion EOTAS yn ystod 2023/24.
Addysg gartref ddewisol
Ym mlwyddyn academaidd 2023/24 roedd yn hysbys bod 6,156 (r) o blant yn derbyn addysg ddewisol yn y cartref yng Nghymru. Nid yw’r nifer hwn wedi’i gynnwys yng nghyfanswm nifer y disgyblion EOTAS yn ddiweddarach yn y datganiad hwn.
Cyfradd y disgyblion sy'n cael addysg gartref dewisol yn 2023/24 yw 13.0 o bob 1,000 o ddisgyblion, i fyny o 1.6 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2009/10, ac mae'r gyfradd wedi cynyddu bob blwyddyn ers hynny. Cynyddodd y gyfradd ym mhob awdurdod lleol.
Ceredigion oedd â'r gyfradd uchaf, sef 26.1 o bob 1,000 o ddisgyblion. Mae Ceredigion wedi adrodd y gyfradd uchaf o blant sy'n cael eu haddysgu gartref ers 2009/10 ar gyfer merched a bechgyn. Yn 2023/24 mae'r gyfradd yng Ngheredigion wedi cyrraedd:
- 26.5 o bob 1,000 o fenywod
- 25.6 o bob 1,000 o wrywod
Roedd y twf cyfrannol uchaf ym Mlaenau Gwent, gyda chynnydd i dros 28 gwaith y gyfradd o ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu gartref gafodd yn 2009/10.
Yr oedran mwyaf cyffredin i ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu gartref yw 15. Yn 2023/24 roedd:
- 38.5 o bob 1,000 o fenywod 15 oed yn cael eu haddysgu gartref
- 29.7 o bob 1,000 o gwrywod 15 oed yn cael eu haddysgu gartref
Rhwng 2009/10 a 2023/24, bu cynnydd yng nghyfraddau addysg gartref dewisol ar draws pob grŵp oedran, gyda'r cynnydd mwyaf yn y grŵp oedran 16 oed. Yn 2023/24 mae'r gyfradd o ddisgyblion 16 oed sy'n cael eu haddysgu gartref wedi cynyddu i 27 gwaith hynny yn 2009/10.
Mae rhieni’n hysbysu eu hawdurdod lleol yn wirfoddol eu bod yn addysgu eu plant gartref (oni bai eu bod wedi tynnu eu plentyn allan o’r ysgol). Mae hyn yn golygu efallai na fydd y data’n cynnwys yr holl blant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref yn ddewisol.
Diffiniadau a meini prawf
EOTAS
Y prif faen prawf ar gyfer eu cynnwys yn y cyfrifiad EOTAS yw disgyblion y mae gan awdurdod lleol yng Nghymru gyfrifoldeb ariannol drostynt ac os na chaiff ei gynnwys yn y cyfrifiad hwn ni fyddai'r casgliad hwn yn cael ei godi drwy CYBLD. Fodd bynnag, gall rhai disgyblion gael eu cynnwys yn y cyfrifiad EOTAS ac ar CYBLD ysgol (ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig a gynhelir).
Bydd y wybodaeth a gesglir yn canolbwyntio ar blant sy’n derbyn addysg a noddir gan yr ALl y tu allan i’r ysgol yn unol â diffiniad Adran 19(1) Deddf Addysg 1996 (deddfwriaeth DU) h.y. y plant hynny sydd o oedran ysgol orfodol sydd, oherwydd salwch, gwaharddiad neu reswm arall, heb dderbyn addysg addas am ryw gyfnod penodol.
Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau)
Dywed Adran 19(1) Deddf Addysg 1996 (deddfwriaeth DU) ei bod yn ofynnol i ALlau wneud trefniadau ar gyfer darparu addysg addas mewn ysgolion neu fel arall ar gyfer plant sydd mewn oed y mae’n rhaid iddynt fynychu ysgol ac sydd, am ba reswm bynnag, boed salwch, wedi’u heithrio o ysgol neu fel arall, yn methu â derbyn addysg addas am unrhyw gyfnod oni bai y gwneir trefniadau addas ar eu cyfer. Dywed Adran 19 (2) (deddfwriaeth DU) y bydd unrhyw ysgol a sefydlwyd i ddarparu addysg ar gyfer plant o’r fath, ac nad yw’n ysgol sirol [cymunedol] neu’n ysgol arbennig, yn cael ei galw yn “Uned Cyfeirio Disgyblion”.
Ysgolion annibynnol
Ysgolion sy'n codi ffioedd ac a all gael eu hariannu hefyd gan unigolion, cwmnïau neu sefydliadau elusennol. Rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru gofrestru gyda Llywodraeth Cymru.
Ysgolion arbennig
Ysgolion arbennig, rhai dydd a rhai preswyl, sy'n darparu addysg i blant ag AAA na allant gael eu haddysgu'n foddhaol mewn ysgolion prif ffrwd.
Anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig
Disgyblion â datganiad
Disgyblion y mae'r awdurdod yn cadw datganiad o anghenion addysgol arbennig ar eu cyfer o dan Ran iv o Ddeddf Addysg 1996. Gall yr ALl gyhoeddi datganiad ar ôl asesu anghenion plentyn.
Gweithredu gan yr Ysgol
Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag anghenion addysgol arbennig ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol.
Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy
Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.
Cynlluniau Datblygu Unigol
Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2021. Gall fod gan ddysgwr naill ai CDU a gynhelir gan ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.
Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgol arbennig (AAA)
Mae gan berson ADY/AAA os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p'un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol neu ddarpariaeth addysgol arbennig. Bydd anghenion dysgwyr ag ADY yn cael eu nodi mewn cynlluniau datblygu unigol (CDU) sy'n gynlluniau statudol a grëwyd o dan y Ddeddf ADY. Efallai y bydd gan ddysgwyr ag AAA Gweithredu gan yr Ysgol, Gweithredu and yr Ysgol a Mwy neu Ddatganiad, a fydd yn dod i ben ym mis Awst 2025 pan fydd y system ADY wedi'i chwblhau.
Newidiadau i ddata anghenion addysgol arbennig yn dilyn Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth i ddiwallu eu hanghenion.
Mae gweithredu'r system ADY ar waith, gyda phlant yn symud o'r system AAA i'r system ADY tan fis Awst 2025. Bydd anghenion dysgwyr ag ADY yn cael eu nodi mewn CDUau a gynhelir gan naill ai ysgol neu awdurdod lleol.
Mae dadansoddiad o'r data, ynghyd ag adborth gan awdurdodau lleol, yn awgrymu bod y gostyngiad mewn dysgwyr ADY/AAA dros y tair blynedd diwethaf oherwydd adolygiad systematig gan ysgolion o'u cofrestrau a'u data ADY/AAA, yn barod ar gyfer ac wrth weithredu'r system ADY. Ni ellir nodi dysgwyr a gefnogir trwy Weithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy (y rhai sydd angen y swm lleiaf o ddarpariaeth addysgol arbennig) fel ADY/AAA yn CYBLD mwyach. Mae hyn naill ai oherwydd bod eu hanghenion yn rhai tymor byr, nid oes angen darpariaeth ychwanegol i, neu yn wahanol i'r hyn a ddarperir ar gyfer dysgwyr eraill, y gellir mynd i'r afael â hwy fel rhan o ddarpariaeth gyfannol.
Gofynnwyd hefyd i ysgolion beidio defnyddio’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ ac i ailasesu categori priodol o angen ar gyfer disgyblion o’r fath. Roedd y categori hwn wedi dod yn un cyffredinol ar gyfer y rhai yr oedd angen cymorth dal i fyny arnynt, gyda mân anghenion a/neu le'r oedd anghenion lluosog yn bodoli, yn lle ei fwriad gwreiddiol, sef dal dysgwyr a oedd yn aros am asesiad. Mae hyn wedi arwain at dynnu rhai disgyblion oddi ar y gofrestr os canfyddir nad oedd ganddynt ADY/AAA. Mae’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ wedi cael ei ddileu o gyfrifiad ysgolion 2023 a 2024.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r niferoedd drwy gydol gweithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y data’n adlewyrchiad cywir o niferoedd a chategorïau’r dysgwyr ag ADY yng Nghymru.
Prydau ysgol am ddim
Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth.
Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM)
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru erbyn 2024. Dechreuodd y broses gyflwyno ym mis Medi 2022. Mae 20 awdurdod lleol bellach wedi cwblhau'r broses gyflwyno ac mae'r ddau awdurdod lleol sy'n weddill ar y trywydd iawn i gwblhau'r broses gyflwyno erbyn mis Medi 2024.
Er bod y broses hon o gyflwyno PYD i’r rhai nad oeddent yn gymwys i’w cael o’r blaen wedi dechrau, nid yw’r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn adlewyrchu cyfanswm nifer y disgyblion sy’n cael PYD ym mis Ionawr 2024. Yn hytrach, mae ond yn cynnwys nifer y disgyblion sy’n gymwys i PYD os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau penodol (fel yr adroddwyd mewn blynyddoedd blaenorol). Gweler y canllaw gwybodaeth prydau ysgol am ddim am fanylion llawn y meini prawf cymhwysedd a'r buddion.
Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim
Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.
Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.
Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.
Gwybodaeth ansawdd a methodoleg
Statws ystadegau swyddogol
Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Cafodd eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Gorffennaf 2010 Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.
Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Hygrededd
Mae'r data yn y datganiad hwn yn ymwneud â disgyblion sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Mae'r data ar gyfer hyn yn deillio o ffurflenni EOTAS a ddarparwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer disgyblion sydd â darpariaeth EOTAS yn ystod wythnos y cyfrifiad, sydd fel arfer ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae'r ffurflenni wedi'u hawdurdodi a'u dilysu gan awdurdodau lleol.
Mae'r broses o gasglu a dilysu data yn cael eu cynnal rhwng mis Ionawr a mis Mai. Mae'r data fel arfer yn cael ei gyhoeddi ym mis Awst.
Cyhoeddir yr ystadegau hyn mewn modd hygyrch, trefnus, a datgan ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi.
Mae'r allbwn hwn yn cadw at y Cod Ymarfer trwy ddatgan ymlaen llaw y dyddiad cyhoeddi trwy'r tudalennau gwe calendr sydd i ddod.
Ansawdd
Mae'r ffigurau cyhoeddedig a ddarperir yn cael eu casglu gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a defnyddio dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u set sgiliau dadansoddol. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (awdurdod Ystadegol y DU) (Saesneg yn unig) ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol.
Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei ddilysu cyn cyhoeddi tablau. Mae’r data yn cael ei chyfuno i ffeil electronig CYBLD a’i gyrru i Gynulliad Cymru trwy DEWI, system rhannu data diogel ar y we, a ddatblygwyd gan Gynulliad Cymru. Mae DEWi yn dilysu’r data mewn nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel ar gyfer creu polisi a chyllido.
Mae’r data cyfrifiad yn y datganiad hwn yn dangos y sefyllfa yn yr wythnos sy’n dechrau ar ddydd Llun 15 Ionawr 2024. Roedd DEWi ar gael i lanwytho ffeiliau ar 16 Ionawr 2024. Wedyn gofynnwyd i awdurdodau lleol ddilysu eu data yn y cyfnod dilysu a bennir.
Ni chwblhawyd y casgliad data yn 2019/20 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Am y rheswm hwn, dim ond 14 awdurdod lleol oedd yn gallu cyflwyno data, felly mae'r data ond yn ymwneud â'r awdurdodau hynny.
Gwerth
Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau:
- dyrannu adnoddau yn Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru a’r Grant Datblygu Disgyblion
- cyngor i weinidogion
- i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn polisïau addysg yng Nghymru, gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
- i hysbysu Estyn yn ystod arolygiadau ysgolion
- maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
- i gynorthwyo ymchwil mewn i gyrhaeddiad addysgol
Mae'r datganiad hwn wedi'i gyhoeddi ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar adran Ystadegau gwefan Llywodraeth Cymru. Mae tablau manylach ar gael ar StatsCymru, gwasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.
Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr. At hynny, cyhoeddir ein holl allbynnau ystadegau ysgolion yn Gymraeg a Saesneg.
Cymharedd
Lloegr
Statistics: school and pupil numbers (Yr Adran Addysg)
Yr Alban
Statistics and research (Llywodraeth yr Alban)
Gogledd Iwerddon
Education statistics (Yr Adran Addysg)
Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Louise White
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR: 75/2024