Data ar gyfer disgyblion lle mae awdurdodau lleol yn gwybod eu bod yn derbyn addysg y tu allan i'r ysgol yr gyfer Medi 2023 i Awst 2024.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol
Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data ar Ddisgyblion sy'n Derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS), gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD). Mae'n cynnwys data yn ôl oedran, rhyw, a'r math o ddarpariaeth.
Nodyn adolygu
Diwygiwyd yr adroddiad hwn ar 12 Medi 2024, ar ôl ei gyhoeddi ar 27 Awst 2024.
Diwygiadau
Cywiro nifer y disgyblion sy’n hysbys eu bod yn cael eu haddysgu gartref yn ddewisol yng Nghymru yn 2023/24, a roddwyd yn anghywir fel rhif y flwyddyn flaenorol (5,330). Mae bellach wedi'i ddiweddaru i'r nifer cywir ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiweddaraf (6,156). Defnyddiwyd y ffigwr cywir o 6,156 o ddisgyblion yn y daenlen oedd yn cyd-fynd.
Yn Nhabl 5 roedd y data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn anghywir yn y pedair rhes gyntaf. Arweiniodd hyn hefyd at y cymarebau yn seiliedig ar y rhifau hyn fod yn anghywir.
Mae newidiadau wedi'u marcio â (r). Nid yw'r un o'r negeseuon neu'r tueddiadau allweddol wedi newid o ganlyniad i'r diwygiadau hyn.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol: Medi 2023 i Awst 2024 (diwygiedig) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 130 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.