Neidio i'r prif gynnwy

Data ar gyfer disgyblion lle mae awdurdodau lleol yn gwybod eu bod yn derbyn addysg y tu allan i'r ysgol yr gyfer Medi 2019 i Awst 2020.

Mae'r data mwyaf diweddar yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â'r sefyllfa ym mis Ionawr 2020. Nid yw'r adroddiad felly'n ymwneud â chyfnod y pandemig coronafirws (COVID-19) ond effeithiwyd ar y casgliad data gan y pandemig fel y disgrifir isod.

Nodyn ar ansawdd y data

Ni chwblhawyd casglu data 2019/20 oherwydd pandemig coronafirws (COVID-19). Am y rheswm hwn, dim ond 14 awdurdod lleol a oedd yn gallu cyflwyno data ac mae'r pennawd hwn yn ymwneud â'r awdurdodau hynny yn unig.Rydym yn cyhoeddi'r datganiad hwn er budd tryloywder.

Nid yw'r data wedi bod trwy'r broses ddilysu lawn eleni, yn benodol nid yw wedi bod yn rhan o'r broses ddilysu fel rhan o Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru sy'n digwydd ym mis Mai bob blwyddyn. Felly gall y data fod o ansawdd is na blynyddoedd blaenorol a dylid trin unrhyw gymariaethau dros amser yn ofalus. Nid oes gennym unrhyw wybodaeth i amcangyfrif beth allai effaith hyn fod ar ansawdd y data.

Yr awdurdodau lleol a oedd yn gallu darparu data oedd: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Bro Morgannwg a Torfaen.

Roedd yr 14 awdurdod lleol a gyflwynodd ddata yn cyfrif am 45% o holl ddisgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol yn 2019. Ymhlith y rhai nad oeddent yn gallu darparu'r data mae rhai awdurdodau a oedd yn 2018/19 â rhai o'r cyfraddau uchaf fesul 1,000 o ddisgyblion.

Prif bwyntiau'r 14 awdurdod hyn

  • Roedd 1,292 o ddisgyblion wedi’u cofnodi eu bod yn cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, gyda 1,028 o’r rhain yn derbyn eu prif addysg y tu allan i’r ysgol.
  • Roedd 2.2 ddisgyblion allan o bob 1,000 yn derbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol yn 2019/20.
  • Roedd 7 allan o bob 10 o ddisgyblion oedd â’u prif addysg heblaw yn yr ysgol yn fechgyn.
  • Unedau Cyfeirio Disgybl sy’n parhau i fod y ddarpariaeth addysgol a ddefnyddir gan amlaf ar gyfer disgyblion sy’n derbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol.
  • Ymysg yr awdurdodau gyda disgyblion yn cael eu haddysgu gartref, roedd 8 disgybl oed 5 i 15 allan o bob 1,000 yn cael eu haddysgu gartref.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.