Neidio i'r prif gynnwy

Rhagarweiniad a chefndir

Comisiynodd Llywodraeth Cymru bartneriaeth academyddion ar draws pedair prifysgol yng Nghymru ynghyd ag ymgynghorwyr arbenigol i baratoi gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y cyfeirir ati fel ‘y Ddeddf’ o hyn ymlaen).

Mae’r Ddeddf yn egluro gweledigaeth Llywodraeth Cymru i greu ‘trawsnewidiadau’ mewn polisi gwasanaeth cymdeithasol, rheoliadau a threfniadau cyflenwi ar draws Cymru. Mae iddi 11 rhan, yn seiliedig ar bum egwyddor sy’n amlinellu’r weledigaeth i greu trawsnewidiadau mewn polisi cyhoeddus, rheoliadau a chyflenwi gwasanaeth. Mae strwythurau, prosesau a chyfres o Godau Ymarfer wedi’u halinio â hi.

Mae’r ddogfen hon yn grynodeb o adroddiad llawn ar safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar y Ddeddf, a gynhaliwyd fel rhan o astudiaeth IMPACT, sef y gwerthusiad cenedlaethol annibynnol o’r Ddeddf. Mae ffilm ragarweiniol ddwyieithog sy'n esbonio strwythur yr astudiaeth ar gael ar YouTube: Ffilm gwerthuso'r Ddeddf.

Mae astudiaeth IMPACT wedi bod yn rhedeg ers mis Tachwedd 2018. Mae’r gwerthusiad yn ystyried gweithrediad a chanlyniadau’r Ddeddf drwy ei phum egwyddor ( a goblygiadau ariannol pob un). Mae’r rhain yn cael eu gwerthuso drwy ystyried y modd y mae’r Ddeddf wedi effeithio ar bum parth ac yn seiliedig ar ddull Gwerthuso  Michael Patton o fynd ati  (2018) sy’n Ffocysu ar Egwyddorion (P-FE), dull; yr ydyn ni’n ei ddefnyddio fel fframwaith ar gyfer yr astudiaeth.

Pum egwyddor y Ddeddf, a phum parth yr astudiaeth

Egwyddorion

  • Llais a rheolaeth
  • Llesiant
  • Cyd-gynhyrchu
  • Gweithio aml-asiantaeth
  • Ataliad ac ymyrraeth gynnar

Parth/meysydd

  • Dinasyddion
  • Teuluoedd a gofalwyr
  • Cymunedau
  • Y gweithlu
  • Sefydliadau

Y parthau yw lle mae egwyddorion y Ddeddf yn bodloni’r bobl neu’r sefydliadau y dylai’r Ddeddf fod yn cael effaith arnynt, ar gyfer unigolion y mae angen gofal a chymorth arnynt, eu gofalwyr ac aelodau’r teulu, ar gyfer y cymunedau y maent yn byw ynddynt, ar gyfer y gweithlu sy'n eu cefnogi, ac ar gyfer y sefydliadau sydd â dyletswyddau a chyfrifoldebau fel yr amlinellir yn y Ddeddf a'r Codau Ymarfer cysylltiedig.

Rhychwant a chylch gorchwyl

Fel mae’r teitl yn awgrymu, yr unig beth mae’r adroddiad yn ei wneud ydy cyfleu safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar y Ddeddf. Ac yn arbennig eu disgwyliadau a’u profiadau o’u gofal a’u cymorth dan nawdd y Ddeddf ers Ebrill 2016.

Dydy’r dystiolaeth a gynigir yn yr adroddiad hwn ddim yn honni bod yn ‘gynrychioliadol’ o ran methodoleg meintiol. Er i ni gael clywed barn 170 o gyfranogwyr, cyfran fechan ydy hyn o gyfanswm nifer defnyddwyr y gwasanaethau a gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Fodd bynnag, nid y nhw ydy'r cyfan o brofiadau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yng Nghymru ac ni fyddai’n synhwyrol i ystyried eu bod nhw yn hynny.

Ond, nid ein bwriad cychwynnol oedd gwneud dim byd mwy na chasglu tystiolaeth fanwl o ddisgwyliadau a phrofiadau’r bobl sydd yn gorfod gweithredu a derbyn canlyniadau’r Ddeddf, y rhai sydd angen gofal a chymorth a’u gofalwyr. Mae’r dystiolaeth a gynigir yma yn bersonol, mae’n lleol ac yn cyfeirio at amgylchiadau a sialensiau eu bywydau.

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried tri mater penodol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr a godwyd ym manyleb gwreiddiol prosiect Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwerthuso sef:

  • i ba raddau maen nhw’n teimlo bod gwasanaethau sy’n gweithio mewn partneriaeth â'i gilydd wedi cael eu hintegreiddio’n llawn a’u symleiddio er mwyn sicrhau y gofal gorau posibl (trafodir hyn ym Mhennod 4)
  • i ba raddau y maen nhw’n teimlo eu bod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau am eu gofal a’u cymorth (trafodir hyn ym Mhennod 5)
  • ansawdd eu bywyd a'u lles (a gwmpesir ym Mhennod 6) (Mae'n bwysig nodi nad ydym yn awgrymu unrhyw gysylltiadau achosol rhwng y 'gweithgareddau' (neu ganlyniadau proses) a chanlyniadau tymor byr i bobl. Mae'r amgylchiadau y tynnwyd y data ohonynt yn llawer rhy gymhleth i wneud rhagdybiaethau 'llinell syth' o achosoldeb)

Cyd-destunau allweddol

Mae hefyd yn bwysig ystyried dau gyd-destun sy’n allweddol ar gyfer deall yr adeg a’r cyfnod yr ysgrifennwyd yr adroddiad hwn.

COVID-19 

Cynhaliwyd y gwaith maes yn ystod cyfnod  pandemig, 14 i 20 mis ar ôl y cyfnod clo cychwynnol (rhwng Mai a Hydref 2021), ac yn ddigon hir ar ôl i gyfnod cyntaf COVID-19 gyrraedd iddo gael effaith sylweddol ar gyfranogwyr. Mae’n amlwg o’u profiadau fod y pandemig wedi amlygu breuder sylfaenol y system ond hefyd amlygodd natur benderfynol a gwytnwch unigolion a theuluoedd i geisio ymdopi ar adeg mor heriol .

Mae’n bwysig ystyried natur a thôn y trafodaethau a'r sgyrsiau a gynhalion ni. Cafodd nifer o'r bobl a weithiodd gyda ni y profiad yn un emosiynol iawn, gan siarad o'r galon am yr anawsterau a achoswyd gan COVID-19, yn ychwanegol at y sialensiau hirdymor y maen nhw wedi’u hwynebu. Roedd y rhain yn bethau anodd i’w clywed, ond yn llawer mwy anodd i’w profi ac i'w datgan, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r bobl hynny a roddodd o’u hamser i rannu eu profiadau.

Pwysau o fewn system y gwasanaethau cymdeithasol 

Mae hefyd yn bwysig bod system y gwasanaethau cymdeithasol (nid y lleiaf oherwydd y sialensiau ychwanegol a achoswyd gan COVID-19, ond hefyd yn gysylltiedig â’r sialensiau y mae’r gweithlu yn eu hwynebu, rhai ohonyn nhw oherwydd Brexit) yn system dan bwysau sylweddol, sefyllfa sydd wedi bodoli ers dipyn.

Ystyriodd ymatebwyr y pwysau ariannol ar y gwasanaethau cymdeithasol a materion y gweithlu megis y pwysau ar weithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal a gweithwyr cymorth. Ceir yr ystyriaethau hyn mewn enghreifftiau lle mae problemau a sialensiau yn y system ehangach wedi effeithio ar brofiadau gofal a chymorth o ddydd i ddydd.

Strwythur dogfennau

Ar y tudalennau nesaf, mae Pennod 2 yn amlinellu’r dull o fynd ati a’r fethodoleg. Mae Pennod 3 a 4 a 5 yn cyflwyno’r canfyddiadau, a’r cyntaf ohonyn nhw yn canolbwyntio ar brofiad defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr o ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol. Yna, ceir dwy bennod ar ddwy o egwyddorion allweddol y Ddeddf – un ar brofiadau o weithio’n aml-asiantaethol a’r ail ar gael llais a rheolaeth. Ym Mhennod 6, ceir trafodaeth ar egwyddor uno’r Ddeddf. Ym  Mhennod 7 ceir y casgliadau o’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn y penodau blaenorol.

Dull o fynd ati a methodoleg

Dull o fynd ati: gwerthuso wedi’i ffocysu ar egwyddorion

Mae’r astudiaeth yn dilyn Gwerthusiad Wedi’i Ffocysu ar Egwyddorion (P-FE) Michael Patton, dull o fynd ati i werthuso mentrau yn seiliedig ar egwyddorion mewn amgylcheddau y mae’n eu disgrifio sy’n datblygu ‘hyd yn oed yn fwy-fwy cymhleth (2018, tud.4).

Mae tri chwestiwn canolog mewn gwerthusiad P-FE (2018, tud.27-29):

  1.  I ba raddau y mynegwyd egwyddorion ystyrlon a rhai y gellir eu gwerthuso?
  2. Os mynegwyd egwyddorion, i ba raddau ac ym mha fodd y glynir atyn nhw yn weithredol?
  3. Os glynwyd atyn nhw, i ba raddau ac ym mha fodd y mae’r egwyddorion yn arwain at y canlyniadau dymunol?

O ystyried y cymhlethdod hwn, y rhesymeg dros ddefnyddio dull P-FE o fynd ati ydy sicrhau bod fframwaith priodol a chadarn yn bodoli er mwyn gallu dadansoddi data sylfaenol ac eilaidd. Mae dull P-FE o fynd ati yn golygu casglu data gwerthuso am y broses o weithredu mentrau sydd wedi’i ffocysu ar egwyddorion a’r canlyniadau. Mae disgwyliadau a phrofiadau y rhai sy’n derbyn gofal a chymorth a’u gofalwyr yn rhan allweddol o’r broses o gasglu’r data a ffocws yr adroddiad hwn.

Casglu data

Defnyddiwyd dulliau cymysg i fynd ati gasglu data, dull â thair haen benodol: holiadur ar-lein dwyieithog Cymry gyfan, casglu data ansoddol drwy gyfweliadau a grwpiau ffocws a Grŵp Facebook caeëdig.

Mae’n bwysig nodi i’r broses o gasglu data ddigwydd yn ystod pandemig COVID-19, rhwng mis Mai a Medi 2021. Amlygodd tystiolaeth anecdotaidd y sefydliadau porthora y broblem o faich posibl ymchwil ar ddarpar gyfranogwyr gyda’r boblogaeth darged yn derbyn nifer uchel o geisiadau i gymryd rhan mewn cyfweliadau ac arolygon dros y 18 mis diwethaf.

Cyn y pandemig, bwriadwyd casglu data ansoddol wyneb yn wyneb yn bennaf. Fodd bynnag, roedd cyfyngiadau‘r cyfnod clo ar adeg cychwyn casglu data yn golygu bod casglu data wyneb yn wyneb wedi’i ohirio ac yn hytrach wedi symud ar-lein neu dros y ffôn. 

Mae Tabl 2.1 yn dangos cyfanswm y nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth cymdeithasol a gofalwyr oedd yn rhan o'r astudiaeth  (n=170).

Tabl 2.1: Cyfanswm nifer defnyddwyr y gwasanaethau a'r gofalwyr yn y maes
Math o gyfranogwr Cyfweliadau / Grwpiau Faceb Grŵp ar 'Facebook' Pro-fforma Cyfanswm
Defnyddiwr gwasanaeth 33 8 6 47
Gofalwr 42 41 18 101
Y ddau 2 15 0 17
Arall 4 0 0 4
Dim ymateb 0 0 1 1
Cyfanswm 81 64 25 170

Dadansoddi data 

Proses iterus oedd dadansoddi data; gan ddefnyddio TA datblygwyd y fframwaith codio gan y tîm awduron ar gyfer yr adroddiad hwn ac yn cynnwys cyfres o drafodaethau i’w hadolygu, iteru a’u mireinio.

Rhannwyd canfyddiadau uchel eu lefel gyda Llywodraeth Cymru a’r SERG ym mis Hydref a Thachwedd 2021 ar gyfer derbyn adborth a sylwadau cyn i’r adroddiad hwn gael ei lunio.

Canfyddiadau: profiadau o ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol

Mae tystiolaeth defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn cynnig syniad i ni am brofiadau pobl o system gofal cymdeithasol sydd o dan bwysau sylweddol (h.y. problemau’r gweithlu a chyfyngiadau ar y gyllideb), mae’r pwysau ar y system cyn gweithredu’r Ddeddf wedi gwaethygu yn ystod pandemig COVID-19. Mae’r syniadau hyn yn amlygu’r sialensiau o weithredu polisi sy’n seiliedig ar egwyddorion (h.y. ‘Y Ddeddf’) yng nghyd-destun lle mae adnoddau hanesyddol a materion arferion sefydliadol yn dod wyneb yn wyneb â phwysau a chyfyngiadau’r cyfnod presennol.

Mae sylwadau treiddgar defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr am rwystrau rhag cyrchu gwasanaethau, ystyriaethau ariannol wrth ddogni  gwasanaeth a goblygiadau trosiant gweithlu ar gyfer dilynant gofal ac ymarfer yn seiliedig ar berthynas egwyddorion. O ystyried data’r gwerthusiad, cafwyd enghreifftiau niferus lle nad oedd uchelgais ac agenda gwelliant y Ddeddf wedi cael eu gwireddu ym mhrofiad ymatebwyr. I nifer o ymatebwyr, ni welwyd unrhyw newid amlwg yn y profiad o ofal a chymorth ac i rai, roedd pethau’n anoddach yn cynnwys a prinder argaeledd ymyriad buan a chymorth ataliad.

Nid oedd gan rai ymatebwyr fawr ddim gwybodaeth am y Ddeddf, a oedd yn golygu nad oeddent yn gwbl ymwybodol o’r hyn sydd gan y Ddeddf i’w ‘gynnig’ cyn iddynt ddechrau cael mynediad at ofal a chymorth. Eraill yn dweud bod cyflenwi gwasanaethau cymdeithasol fel gweithredu mewn hinsawdd o ‘ymarfer ticio blychau’ wrth adrodd yn ôl am y perfformiad ac atebolrwydd. Hefyd, soniwyd am brofiadau o asesiadau gofalwyr ddim yn cyrraedd y safon wrth hwyluso darpariaeth o ofal a chymorth. Nodwyd bylchau a diffygion yn argaeledd gwasanaethau. Soniodd defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr eu bod yn gorfod rheoli dehongliadau amgen o egwyddorion a hawliau o dan y Ddeddf gyda gwrthgyferbyniad rhwng eu barn nhw a barn staff y gwasanaethau cymdeithasol. Y peth trawiadol ydy effaith negyddol y cyfarfodydd gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ar lesiant.

Er nad y stori bennaf, o'r data gwerthuso hyn, cafwyd hefyd gysylltiadau positif gyda'r gwasanaethau cymdeithasol a straeon am welliannau. Roedd hyn yn wir yn achos rhai gofalwyr a nododd ganlyniadau positif mewn asesiadau gofalwr a’r goblygiadau i deimlo eu bod yn cael eu cydnabod, eu cynorthwyo, a’u grymuso. Nodwyd profiadau positif o wasanaethau cymdeithasol yn hyblyg wrth symbylu addasiadau i wasanaethau yn ystod y pandemig, er enghraifft, cyflenwi cymorth ar-lein a chymorth o hirbell. Cafwyd sylwadau gan rai cyfranogwyr am eu profiad o wasanaethau cymdeithasol hyblyg ac ymatebol, ac mae hyn wedi bod yn wahanol ers gweithrediad y Ddeddf. Roedd enghreifftiau o ryngweithio parchus gyda staff gofal cymdeithasol ac ystyriaethau empathig rhai ymatebwyr o’r holl straen y mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn ei brofi.

Mae’r data gwerthuso yn cyfeirio at feysydd lle gellid gwneud gwelliannau ac mae hyn yn cynnwys ym maes hyfforddiant parhaus i staff am y Ddeddf, cyfleu gwybodaeth am y Ddeddf i’r cyhoedd a sicrhau bod y wybodaeth hon yn berthnasol i grŵp amrywiol o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ac mewn ystod o fformatau hygyrch. Roedd yr angen am ddarparu gwybodaeth hygyrch, am gyfathrebu a chymorth yn arbennig o berthnasol ymhlith defnyddwyr gwasanaeth â nam synhwyraidd. Nodwyd bylchau yn y gwasanaeth mewn meysydd megis cymorth ar gyfer unigolion gyda phlant sy’n gadael perthynas gamdriniol, gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant a chymorth ar gyfer pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Ar ben hynny, mae trin materion systematig (adnoddau, staffio, riportio perfformiad sefydliadau) a rheoli canlyniadau trosiant staff ar gyfer ymarfer yn seiliedig ar berthynas, yn feysydd taer sy’n dod i’r amlwg o’r drafodaeth.

Canfyddiadau: profiadau o waith aml-asiantaethol

Mae gweithio’n aml-asiantaethol yn  gosod pwyslais ar bartneriaeth ac integreiddio wrth gyflenwi gwasanaethau ar gyfer unigolion ag anghenion gofal a chymorth. Mae’r Ddeddf yn rhagweld y cyflawnir gwelliannau mewn canlyniadau llesiant ar gyfer pobl yn rhannol drwy well gydlyniad, a chydweithredu gwell rhwng cyrff cyhoeddus yn cynnwys awdurdodau lleol a'r GIG, y trydydd sector a’r sector annibynnol yn gweithio gyda’i gilydd drwy ac ar draws partneriaethau rhanbarthol.

Drwyddi draw, roedd llawer yn cytuno ar bwysigrwydd nid yn unig o asiantaethau yn cydweithio ond hefyd yn gweithio gyda phobl sy’n derbyn gofal a chymorth.

Ac eto, ar draws y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws, profwyd yn fynych ddiffyg gweithio’n aml-asiantaethol o fewn a rhwng AauLl a rhwng gwahanol sectorau. Yn arbennig, soniodd cyfranogwyr yn fynych am arferion gwael o weithio aml-asiantaethol rhwng gwasanaethau cymdeithasol a iechyd.

Ar ben hynny, er gwaethaf rhoi gwerth sylweddol ar gymorth y trydydd sector, y teimlad oedd nad oedd y gwasanaethau hyn yn derbyn y gydnabyddiaeth lawn gan wasanaethau statudol ac mae hyn yn broblem o gofio bod cyfranogwyr wedi dyfynnu nifer o enghreifftiau positif o gymorth y trydydd sector.

Fel y dangoswyd yn y bennod hon, y norm nid yr eithriad oedd absenoldeb gwaith aml-asiantaethol effeithiol yn narpariaeth gofal a chymorth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a glywon ni ganddyn nhw.

Roedd eu tystiolaeth yn ffocysu ar faterion o amrywiadau megis anghyfartaledd y gofal a’r cymorth rhwng AauLl ac asiantaethau eraill, dehongliadau gwahanol o’r Ddeddf, ac oedi yn y broses o rannu gwybodaeth. Nodwyd bod gweithio’n aneffeithiol, cyfathrebu aneffeithiol a rhannu gwybodaeth yn aneffeithiol rhwng ac o fewn AauLl ac o fewn sectorau yn broblemau er niwed i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Er enghraifft, tarfu ar ddilyniant gofal wrth symud rhwng AauLl ac ailadrodd gwybodaeth a phrofiadau i lawer o weithwyr proffesiynol, a hynny’n arwain at deimladau o rwystredigaeth a phryder.

Er y nodwyd rhai profiadau positif o weithio’n aml-asiantaethol, ymhlith yr agweddau a ystyriwyd yn cynorthwyo gwaith aml-asiantaethol effeithiol roedd cyflwyno gweithwyr pontio pwrpasol ar gyfer y rhai sy’n symud rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion, a thimau phwynt sengl mynediad.

Canfyddiadau: profiadau ynglŷn â llais a rheolaeth

Mae cael llais cryf a rheolaeth wirioneddol yn ganolog i’r Ddeddf gan ei fod yn gwneud y gorau o gyfle pawb i gyflawni llesiant a lefel briodol o annibyniaeth. O dan y Ddeddf, mae gan bawb hawl i gael eu clywed fel unigolyn ac fel dinesydd. Mae ymgysylltu â dinasyddion yn thema ganolog yn y Ddeddf ac mae gan eiriolaeth rôl bwysig i’w chwarae wrth ategu gofynion ehangach y Ddeddf o ran llesiant, diogelu ac atal. Gall helpu pobl i fynegi eu barn a gwneud dewisiadau.

Mae’r Ddeddf yn datgan bod yn rhaid i unigolyn allu teimlo ei fod yn bartner gwirioneddol gyfartal yn ei ryngweithio â gweithwyr proffesiynol er mwyn cael llais a rheolaeth. Un o egwyddorion y Ddeddf ydy bod awdurdod lleol yn ymateb mewn ffordd gyd-gynhyrchiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i amgylchiadau penodol pob unigolyn.

Rhaid i unigolion a’u teuluoedd allu cymryd rhan lawn yn y broses o ddewis a chyflawni eu canlyniadau llesiant drwy broses sy’n hygyrch iddyn nhw. Rhaid i'r broses sicrhau bod pobl yn cael eu grymuso i fynegi eu hanghenion a'u bod yn gallu cymryd rhan lawn fel partneriaid cyfartal. Rhaid i hyn gynnwys galluogi unigolyn i nodi a ydy e neu hi am gael rhywun i'w cefnogi wrth bwyso a mesur opsiynau a gwneud penderfyniadau am ganlyniadau eu llesiant.

Nododd y cyfranogwyr ddau brif fater. Fe wnaethon nhw nodi ffyrdd yr oedden nhw weithiau'n gallu, ond yn aml yn methu, arfer eu llais a rheolaeth. Yn ail, roedden nhw'n gallu adnabod mecanweithiau a dulliau gweithredu sy'n fodd o sicrhau llais a rheolaeth. Mae un o’r dulliau allweddol hyn yn un arall o egwyddorion sylfaenol y Ddeddf – sef cyd-gynhyrchu. Ar y cyfan, roedd heriau i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr o ran gwireddu'r rhagolygon a gynigwyd gan yr egwyddor o lais a rheolaeth.

I rai pobl, roedd y gallu i gael eu clywed ac i ddylanwadu yn cael eu gyrru'n bennaf gan waith gweithwyr cymdeithasol unigol yn hytrach na chael eu cynorthwyo gan y ffyrdd y mae systemau'n gweithredu. Fodd bynnag, i fwyafrif yr ymatebwyr, eu profiad nhw oedd llawer mwy o rwystredigaeth, neu drwy fecanweithiau fel Taliadau Uniongyrchol y dywedodd rhai eu bod yn gweithio'n effeithiol i roi mwy o reolaeth iddynt.

Fe wnaethon nhw nodi rhwystrau ynghylch yr agwedd gymharol ‘tocynistaidd’ at wrando; yr anghydbwysedd grym oedd rhyngddyn nhw a'r gweithwyr proffesiynol; yr angen i fynd ar ôl y gwasanaethau cymdeithasol am gefnogaeth a chydnabyddiaeth; ac ynglŷn â'r ansensitifrwydd diwylliannol. Roedd y rhain i gyd yn milwrio yn erbyn y profiad llawn o fod â llais a rheolaeth.

O ran y mecanweithiau ar gyfer sicrhau llais a rheolaeth, nodwyd yr amrediad o ddeddfwriaeth a hawliau sydd ar gael i ddinasyddion Cymru, y broses cyflwyno cwynion, argaeledd Taliadau Uniongyrchol, a rôl cyd-gynhyrchu fel egwyddor o’r Ddeddf fel dulliau o wireddu'r hawl i gael llais a rheolaeth. Mae'n rhaid dweud, fodd bynnag, bod diffygion wedi'u nodi ym mhob un o'r pedwar hyn.

Mae’r Ddeddf yn amlinellu bod gwireddu llais a rheolaeth yn golygu bod yn rhaid i unigolyn allu teimlo ei fod yn bartner gwirioneddol gyfartal yn ei ryngweithio â'r gweithwyr proffesiynol. Mae peth tystiolaeth bod defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn teimlo bod eu profiadau yn nesáu tuag at hyn, ond o ran gallu gweithredu eu llais a rheolaeth mewn gwirionedd, mae hwn, i raddau helaeth, yn parhau i fod ar waith.

Trafodaeth: effeithio ar y llesiant

Ar lawer ystyr, llesiant ydy'r egwyddor uno sydd wrth wraidd y Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn rhoi ffocws ar lesiant pobl sydd angen gofal a chymorth ac ar ofalwyr sydd angen cymorth, ar hawliau, a ar rymuso pobl i gael perthynas newydd gyda'r gwasanaethau cymdeithasol.

Mae llesiant yn sail i’r holl egwyddorion eraill ac yn eu huno, gan gysylltu â’r rôl y gall ymyrraeth gynnar ac atal ei chwarae wrth hyrwyddo llesiant, â sut y gall pobl gael eu grymuso gan wybodaeth, cyngor a chymorth a thrwy gymryd rhan yn y dasg o gynllunio a gweithrediu'r gwasanaethau

Mewn sawl ffordd, fodd bynnag, y pwynt ydy nodi’r hyn y gellir ei ddysgu am roi’r Ddeddf ar waith, a beth arall y gallai fod angen ei wneud i symud yn nes at y dyhead sydd yn y Ddeddf ar gyfer y pum egwyddor, drwy syniadau pobl ar lesiant. Rhennir y bennod yn dair is-adran.

Fel y nodwyd ar ddechrau’r bennod hon, mae’n bwysig cydnabod y rôl ganolog y mae llesiant yn ei chwarae yn y Ddeddf. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr astudiaeth hon wedi nodi rhai effeithiau cadarnhaol i'r llesiant o ran eu hymwneud â’u cyswllt â'r gwasanaethau cymdeithasol, ond nodwyd bod mwy o ffyrdd lle mae eu profiadau wedi arwain at achosi effeithiau negyddol.

Mae’r pandemig yn amlwg wedi chwarae rhan allweddol wrth ffurfio teimladau pobl am eu llesiant – boed fel defnyddwyr gwasanaeth neu ofalwyr. Dydy hynny ddim yn diystyru’r materion sy’n bodoli o fewn y ‘system’ y mae llawer ohonyn nhw wedi sôn amdanyn nhw, ond mae’n cydnabod bod COVID-19, o’u safbwynt nhw, wedi ‘datgelu’ a dod â rhai o’r pwysau sylfaenol i’r amlwg, oedd yn effeithio ar lesiant ac yn rhai oedd yn bodoli cyn y pandemig

Mae’n rhy syml i osod cysylltiadau unionsyth rhwng llesiant hunan-gofnodedig pobl, a’u profiadau gyda'r gwasanaethau cymdeithasol – mae’n llawer mwy cynnil a chymhleth na hynny fel y mae ein fframwaith P-FE a’n dull gweithredu yn ei gydnabod. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod y dystiolaeth a ddarperir yma yn cynnig mewnwelediad ar farn pobl am eu llesiant, a’r rôl y gall y gwasanaethau cymdeithasol ei chwarae wrth geisio ei gynorthwyo a’i wella, fel y rhagwelir gan y Ddeddf.

Casgliadau

Mae oriau lawer iawn o ofal cymdeithasol a chymorth yn cael eu darparu bob dydd ledled Cymru i bobl sydd angen y gofal a’r cymorth hwnnw a’u gofalwyr. Mae’r astudiaeth hon wedi ceisio casglu a deall i ba raddau y mae egwyddorion y Ddeddf yn llywio profiadau’r defnyddwyr gwasanaethau a’r gofalwyr hynny.

Mae llawer o’r gwasanaethau hynny’n cael eu darparu a’u profi yn unol â’r dyheadau a nodir yn y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, mae digon o dystiolaeth drwy'r astudiaeth hon bod profiad defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn llai nag y gallai fod (is-optimaidd). Mae nifer o ffactorau strwythurol arwyddocaol sy’n helpu i egluro hyn, ac nid y lleiaf ohonyn nhw ydy’r pandemig byd-eang, y pwysau cyllidebol a'r galw cynyddol, yr heriau o ran cynaliadwyedd y gweithlu, a ‘newydd-deb’ cymharol y Ddeddf. Gwnaed y pwynt hwn am ‘newydd-deb’ cymharol y Ddeddf wrth ei phasio gan rai defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, ond soniwyd yn helaeth am hyn gan y gweithlu – gweler yr adroddiad Gwerthuso Proses. Mae wedi cael ei gyflwyno fan hyn fel pwynt cyswllt rhwng y ddwy set o ddata.

Atebion i'r cwestiynau allweddol

Wrth nesáu at gasgliadau ar y cam hwn o’r astudiaeth, yn yr adran ganlynol, rydyn ni wedi dwyn ynghyd y tri maes ffocws ar gyfer yr adroddiad hwn ac yna wedi mapio’r rhain yn erbyn y cwestiynau o fframwaith 'P-FE Patton'.

I ba raddau y mae pobl yn teimlo bod gwasanaethau wedi gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd, wedi’u hintegreiddio’n llawn ac wedi’u symleiddio i sicrhau bod y gofal gorau posibl yn cael ei ddarparu iddyn nhw?

(Yn ymwneud â P-FE C2: I ba raddau ac ym mha ffyrdd y glynir at yr egwyddorion yn ymarferol? a C3: I ba raddau ac ym mha ffyrdd y mae'r egwyddorion yn arwain at y canlyniadau a ddymunir?)

Diffyg gweithio aml-asiantaeth effeithiol wrth ddarparu gofal a chymorth oedd y drefn arferol yn hytrach na’r eithriad ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a gymerodd ran yn yr astudiaeth. Mae amrywiadau yn y ffordd y mae asiantaethau’n cydweithio yn bodoli, ac ym marn defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, mae hyn yn aml yn niweidiol iddyn nhw, sy’n golygu nad oes gan rai pobl fynediad at wasanaethau a chymorth y mae eraill yn eu derbyn.

Yn benodol, roedd arferion gwaith gwael rhwng gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn amlwg iawn yn hanesion y cyfranogwyr, ac er gwaethaf y gwerth sylweddol a roddir ar gymorth y trydydd sector, teimlwyd nad oedd y gwasanaethau hyn yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi’n llawn gan wasanaethau statudol.

Gan gydnabod bod yna orgyffwrdd â'r materion isod sy'n ymwneud â llais a rheolaeth, mynegodd defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr awydd i gymryd mwy o ran mewn gwneud penderfyniadau aml-asiantaeth, a chael eu hysbysu drwy wybodaeth ac arweiniad am eu gofal a chymorth. Dydy hyn ddim wedi bod yn brofiad ein cyfranogwyr yn aml – ar y cyfan, soniodd ymatebwyr am ddiffyg cyfranogiad ystyrlon pan fo asiantaethau niferus yn ymwneud â’u gofal.

Mae cyfranogwyr yn eglur eu barn eu bod am i weithwyr proffesiynol gyfleu ac esbonio gwybodaeth iddyn nhw gyda mwy o hyder, yn enwedig pan fo’r gweithwyr proffesiynol hynny’n gweithio mewn partneriaeth agos â’i gilydd.

Nododd ymatebwyr hefyd bwysigrwydd parhad yn y berthynas sydd ganddyn nhw gyda'r gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaethau cymdeithasol a'u sefydliadau partner. Maen nhw wedi nodi'r canlyniadau anodd sy’n dilyn pan fydd yna drosiant yn y staff, a’r effaith negyddol y mae colli perthynas ddibynadwy yn ei chael ar ddiwallu eu hanghenion a pharhau cyfathrebu da.

Felly, o ran gwaith aml-asiantaeth, mae yna lawer i'w wneud o hyd. Mae tystiolaeth gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr bod yr heriau o newid i drefn newydd o weithio o bell, a hynny dan sefyllfa o straen sylweddol a achosir gan y pandemig wedi arafu, ac mewn rhai mannau wedi dad-wneud, rhywfaint o’r cynnydd tuag at gydleoli ac integreiddio timau aml-asiantaeth proffesiynol a oedd yn cael eu creu.

I ba raddau y mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn y penderfyniadau am ofal a chymorth?

(Yn ymwneud â P-FE C2: I ba raddau ac ym mha ffyrdd y glynir at yr egwyddorion yn ymarferol? a C3: I ba raddau ac ym mha ffyrdd y mae'r egwyddorion yn arwain at y canlyniadau a ddymunir?)

Yn nodweddiadol, nododd defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yr heriau o ran gwireddu’r rhagolygon a gynigir gan yr egwyddor o lais a rheolaeth a chael eu cynnwys yn y penderfyniadau am eu gofal a’u cymorth.

Nododd rhai cyfranogwyr fod ganddyn nhw'r gallu i gael eu clywed ac i ddylanwadu, a phan oedd hyn yn digwydd, roedd yn canolbwyntio fel arfer ar y strwythurau da sydd ar waith yn lleol – yn ymwneud â Thaliadau Uniongyrchol a chymryd rheolaeth dros berthynas ym maes cyflogaeth er enghraifft – neu fod hyn oherwydd arferion gwaith cymdeithasol rhagorol.

Fodd bynnag, roedd mwyafrif yr ymatebwyr, yn teimlo eu bod wedi'u llesteirio gan nifer y rhwystrau y gwnaethon nhw eu profi:

  • dulliau gwrando ‘tocynistaidd’
  • anghydbwysedd grym rhyngddyn nhw a'r gweithwyr proffesiynol
  • yr angen i fynd ar ôl y gwasanaethau cymdeithasol am gefnogaeth a chydnabyddiaeth
  • ansensitifrwydd diwylliannol

Gwaethygwyd y materion hyn gan ddiffygion a nodwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr o ran gallu cael mynediad llawn i’r hawliau sydd ar gael i ddinasyddion Cymru, rhai sydd wedi’u hymgorffori mewn deddfwriaeth, cwynion nad ydyn nhw'n cael eu gweithredu'n foddhaol yn eu golwg, heriau yn y modd mae Taliadau Uniongyrchol yn gweithredu, a’r ffyrdd lle nad ydy buddion posibl, sy'n gysylltiedig â chyd-gynhyrchu, wedi'u gwireddu eto.

Ar y cyfan, mae rhai, ond cyfran fach, a ddywedodd fod cael gwrandawiad yn caniatáu iddyn nhw reoli eu gofal a’u cymorth yn y modd yr oedd y Ddeddf yn ragweld. I'r mwyafrif, fodd bynnag, doedd hynny ddim yn wir, ac roedden nhw'n teimlo ymhell o'r weledigaeth a gynigir gan y Ddeddf. Arweiniodd matrics o rwystrau strwythurol, a rhy ychydig o rannu pŵer, er enghraifft ynghylch materion cyd-gynhyrchu, i bobl deimlo nad oedd eu llais yn cael ei glywed. O’r data a gasglwyd ar gyfer yr adroddiad hwn, mae cwestiynau’n codi ynghylch a ydy’r arferion presennol sy’n cefnogi’r egwyddor llais a rheolaeth, ar y cyfan, yn arwain at y canlyniadau a ddymunir.

Pa effaith y mae’r ddeddfwriaeth wedi’i chael ar ansawdd bywyd a llesiant y rhai sy’n cael gofal a chymorth a'r gofalwyr sy’n derbyn cymorth?

(Yn ymwneud â P-FE C3: I ba raddau ac ym mha ffyrdd y mae'r egwyddorion yn arwain at y canlyniadau a ddymunir?)

Mae’n bwysig cydnabod y rôl ganolog y mae llesiant yn ei gael ym ‘mywyd’ y Ddeddf, ac fel yr amlinellwyd ym Mhennod 2, y ffactorau strwythurol a rhyngbersonol cymhleth sy’n dylanwadu ar lesiant. Mae unrhyw newidiadau i lesiant yn cymryd amser hir iawn cyn ymddangos mewn data ar lefel y boblogaeth. Ond, ychydig iawn o effeithiau cadarnhaol llesiant a nodwyd gan gyfranogwyr yn yr astudiaeth hon sy'n gysylltiedig â’u profiadau â'r gwasanaethau cymdeithasol. Fel mewn meysydd eraill, lle digwyddodd yr effeithiau cadarnhaol hyn, roedden nhw'n aml oherwydd gofal a chymorth da sy'n canolbwyntio ar y berthynas, yn cael eu hymarfer gan weithwyr cymdeithasol a gofal cymdeithasol rhagorol.

Ymhlith y ffactorau yr adroddwyd eu bod yn effeithio’n negyddol ar lesiant roedd y diffyg empathi canfyddedig a ddangoswyd i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, gan arwain at gyfres o deimladau annymunol – rhwystredigaeth, trallod, teimlo’n ddiymadferth, unigedd, strés a theimlo'u bod yn faich. Roedd grwpiau cymorth cymheiriaid yn nodedig yn y rôl gadarnhaol y maen nhw wedi’i chwarae, yn ôl pob sôn, i gryfhau a chynnal llesiant defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.

Nodwyd y galw sy’n gysylltiedig ag ymgymryd â pherthynas gofalu hefyd fel ffactor o bwys sy’n effeithio’n negyddol ar lesiant. Dywedwyd bod yr angen cyson i jyglo cyfrifoldebau gofalu ochr yn ochr â phwysau gwaith a theulu yn heriol, ac roedd teimladau o gael eu ‘bocsio i mewn’ yn rhannol oherwydd prinder yn y gweithlu cyflogedig, hefyd yn effeithio ar sut roedd pobl yn teimlo am eu llesiant.

Yn unol ag adrannau eraill y bennod olaf hon, dydy'r effeithiau ar lesiant a brofir gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn yr astudiaeth hon, ddim yn gymesur â’r weledigaeth a nodir yn y Ddeddf. Ar hyn o bryd, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, dydy hi ddim yn bosibl dod i’r casgliad bod egwyddor llesiant, a phopeth sy’n gysylltiedig â llesiant, yn arwain at y canlyniadau y mae'r Ddeddf yn ei ddymuno.

Goblygiadau

Mae'r adran olaf hon yn casglu ynghyd peth o'r dystiolaeth er mwyn ystyried goblygiadau y set o ddata hyn. Rhoddir y safbwyntiau hyn yma i weithredu yn lle argymhellion ffurfiol, gan ei bod rhy gynnar i ddarparu rheiny. Mae'n nhw'n fewnwelediad i'r goblygiadau pwysicaf yn y data hwn.

Isod, darperir deuddeg datganiad a sylwadau ar bob un. Rydyn ni wedi aralleirio datganiadau o ddyfyniadau gan gyfranogwyr yr astudiaeth. Maen nhw'n gyfuniad o safbwyntiau gan ddefnyddwyr a gofalwyr nifer o'r gwasanaethau, ac ni ddylid eu hystyried yn rhai ‘cyffredinol’ – dydyn nhw ddim i gyd yn berthnasol i bawb ym mhob amgylchiad, ond maen nhw'n trafod elfennau o fewn y set ddata. Maen nhw'n adlewyrchu'r dystiolaeth a ddarparwyd yn yr ystyr bod rhai elfennau sy'n bositif, ond gyda llawer hefyd o bethau negyddol.

Mae'r sylwadau sy'n cyd-fynd â'r datganiadau yn cyfeirio nôl at y Ddeddf, yr egwyddorion, ei gweithrediad, ac felly'n cysylltu gyda'r cwestiynau allweddol yn ein dull " P-FE"  o fynd ati.

Safbwyntiau a'r Ddeddf

Datganiad

Sylwadau

Rydw i'n teimlo'n fwy amlwg ar ôl y Ddeddf na chyn hynny. Mae gen i berthynas wahanol gyda'r gwasanaethau cymdeithasol ar ôl y Ddeddf nag oedd gen i cyn iddi ddod. Dydw i ddim yn teimlo bod angen i mi gyfiawnhau popeth fel o'r blaen.

I rai defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, mae gweithredu’r Ddeddf wedi rhoi iddyn nhw'r presenoldeb y buon nhw'n cael trafferth i'w wireddu cyn hynny. Mae angen rhoi mwy o ffocws ar sut y gall hyn ddigwydd i fwy o bobl, yn fwy systematig a chyson.

Mae'r brwydro'n flinedig. Dydw i ddim eisiau bod wedi blino'n lân drwy'r amser. Mae'n rhaid i chi fynd ar ôl pethau drosodd a throsodd cyn i unrhyw beth gael ei wneud. Sut mae cael yr egni i ymladd yn barhaus? Alla i ddim mynd i'r drafferth i ddadlau.

Mae gormod o bobl yn teimlo nad ydy’r sefydliadau y maen nhw'n delio â nhw yn ymateb iddyn nhw na’u hanghenion, gan danseilio unrhyw ymdrechion i gyflawni'r addewid am y llais a’r rheolaeth, ac egwyddorion llesiant. Byddai'r pethau symlaf, megis glynu at yr apwyntiadau neu ateb e-byst yn brydlon, yn gwneud gwahaniaeth mawr i lawer iawn o bobl.

Dydy bywydau pobl ddim yn ffitio i flychau destlus o ganlyniadau.

Ni theimlir bod y strwythurau ynglŷn â gofal cymdeithasol a’r hyn a gynigir i bwy bynnag, ac o dan ba amgylchiadau, yn cynnwys digon o awgrymiadau i adlewyrchu realiti cymhleth ac anniben bywyd bob dydd. Ni ellir yn hawdd grynhoi na chwmpasu canlyniadau llesiant ac mae gweithredu’r Ddeddf wedi dangos bod yna le i wella ar hyn.

Ni ellir gwahanu'r gwasanaeth a ddarperir i'r unigolyn sy'n derbyn gofal oddi wrth yr un sy'n gofalu amdano/i. Os ydy fy mab yn anhapus, rydw innau'n anhapus. Mae gofalwyr di-dâl yn adnabod yr unigolyn sy'n derbyn gofal yn well nag unrhyw un. Fi ydy’r bont sy’n gwneud i'r sefyllfa fod dan reolaeth.

Mae gofalwyr yn rhy aml yn teimlo na allan nhw gael lleisio eu barn, nad oes neb yn gwrando arnyn nhw nac yn gweithredu ar eu sylwadau. Yr hyn mae'r dystiolaeth yn ei amlygu ydi bod angen rhoi blaenoriaeth a gwneud mwy i’w hybu nhw yn y rôl y maen nhw'n ei chwarae i atal anghenion cynyddol a chostau cynyddol, sef egwyddor allweddol sydd wrth wraidd ymarfer gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol o fewn y Ddeddf.

Gan nad ydyn ni mewn argyfwng, rydyn ni'n cael ein hanwybyddu. Mi hoffwn i bobl wrando ar yr hyn rydyn ni'n ei ddweud. Fel gofalwr, mae'n rhaid i chi ganfod y cryfder i ddod o hyd i lais.

Mae’r angen i chi fod yn wydn bob awr a phob dydd  wrth wynebu'r cyfrifoldebau ac mae hynny'n flinedig i lawer iawn o ofalwyr. Byddai'n gryn gysur i wybod a chael eich sicrhau, pan fydd angen iddyn nhw estyn allan, y bydd eu llais yn cael ei glywed ac y bydd yna ymateb i'r cais, fel roedd y Ddeddf yn ei ragweld.

Dydyn ni ddim yn ffitio unrhyw sgript o sut ffurf sydd yna ar deulu mewn angen. Nid ni oedd y templed ac, oherwydd hynny, fe gawson ni brofiad gwael. Dim ond pan wnaethon ni benderfynu gweithio tu allan i'r system y daeth pethau'n haws i ni fel teulu.

Dydy meddwl nad ydy'ch teulu ddim yn ‘ffitio'r templed’ a allai fod ar gael ddim yn cyd-fynd â gweledigaeth nac egwyddorion y Ddeddf, nac ychwaith eich bod yn teimlo y byddai’n well gan rywun hepgor y cymorth y gall gwasanaethau cymdeithasol ei gynnig, yn hytrach na bod o fewn y 'system'.

Chafwyd dim un rhybudd o gwbl cyn rhyddhau o'r ysbyty. Cawsom ein cadw allan o'r cyfarfod tîm aml-ddisgyblaethol lle gwnaed yr holl benderfyniadau allweddol.

Roedd gweithio ar ffurf aml-asiantaeth yn faes a nodwyd fel un oedd yn arbennig o broblematig. Mae’r teimlad o fod ar y tu fas pan fydd cyfarfod aml-asiantaeth yn digwydd, a phenderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud, yn arwydd o berthynas waith sydd yn llai na boddhaol (is-optimaidd). Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bobl fod wrth galon y penderfyniadau amdanyn nhw eu hunain, cylch, ond mae cryn ffordd i fynd cyn caiff hyn ei wireddu.

Y rheswm eu bod yn teimlo mor bell i ffwrdd ydy nad ydy’r egwyddorion a hawliau pobl byth yn cael eu gorfodi. A oes yna digon o ffyrdd o wneud iawn o dan y Ddeddf? Ydy pobl yn gwybod sut i herio pethau?

Mae cryn bryder, er gwaethaf yr addewid o hawliau yn y Ddeddf, nad ydy’r broses ar gyfer cyflawni’r rhain yn gweithio i ddefnyddwyr gwasanaethau na'r gofalwyr. Dydy hi ddim yn eglur sut gallan nhw wireddu eu hawliau yn y Ddeddf na herio'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud.

Petawn ni hefyd wedi gorfod brwydro am gael gofal drwy gyfrwng y Gymraeg fe fydden ni wedi mynd dan y don.

Er mai cyfyngedig, hyd yma, ydy'r dystiolaeth ar y tudalennau blaenorol, mae yna bwynt pwysig i’w wneud ynghylch derbyn gwasanaethau yn newis iaith yr unigolyn. Yr hyn sydd dan sylw ydy a allai hyn effeithio'n bositif ar lesiant pobl, gan ystyried, mewn llawer achos, mai dyma'r 'hyn sy'n bwysig' iddyn nhw.

Rydyn ni'n yn cydnabod mai dim ond mewn un man yn yr adroddiad hwn (paragraff 3.45) y mae’r mater hwn yn codi. Wedi dweud hynny, mae hwn yn faes sydd wrth galon Safonau'r Gymraeg, a Mwy na Geiriau, Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru i gryfhau a datblygu gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac felly’n haeddu sylw.

Mae'r system yn gyson yn codi eich gobeithion, ac yna'n eich siomi. Roedd yn drist gweld sut mae'n gweithio mewn gwirionedd. Rwyf eisiau gonestrwydd yn y sgyrsiau. Dywedwch wrthyn ni beth allwch chi wneud a'r hyn na allwch ei wneud.

Mae cael deialog agored a gonest yn un o’r pethau allweddol y mae pobl yn ddymuno gan y rhai sydd yno i’w cefnogi, fel sydd wedi’i ymgorffori yn y Ddeddf. Yn rhy aml roedd pobl yn nodi eu bod yn teimlo nad oedden nhw'n cael y darlun llawn wrth ddelio â'r system gofal cymdeithasol.

Yn ystod cyfnod y COVID, mae hyn wedi dangos pa mor ynysig ydy pobl. Mae rhwydweithiau cymorth pobl yn eithaf brau. A fydd y Ddeddf yn gallu ymdopi â’r angen na chafodd ei ddiwallu ac sydd wedi ei greu oherwydd COVID?

Mae’r pwysau ychwanegol y mae COVID-19 wedi’i roi ar system oedd eisoes dan straen wedi datgelu peth o’r eiddilwch sylfaenol yn ein cymunedau, ein perthynas a’n gwasanaethau. Mae’n bosibl felly y bydd angen amser cenedlaethol a lleol o ‘adnewyddu’ ar gyfer y Ddeddf – megis bod diben y ddeddfwriaeth yn cael ei ailddatgan i gataleiddio ei gweithrediad ymhellach.

Rwy’n meddwl bod llawer o’r hyn sydd yn y Ddeddf yn ddyhead yn hytrach nag yn gyraeddadwy ar hyn o bryd mewn gwirionedd ac ni ddylai unrhyw ddeddfwriaeth fod yn ddyheadol mewn gwirionedd, nid dyna bwynt deddfwriaeth, yn fy marn i.

Mae’r dystiolaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at ddiffyg cysylltiad a bwlch sydd rhwng disgwyliadau rhai pobl o’r hyn y gallai’r Ddeddf ei chyflawni ar eu cyfer, a’u profiad nad ydy hi’n cyrraedd y canlyniadau dymunol hynny. Ni ddylai hyn fod yn gyflwr cyffredinol ein system gofal cymdeithasol.

Sylwadau clo

Mae'r adroddiad hwn yn creu darlun cymhleth. Er ein bod, yn y ddogfen hon, yn cyflwyno safbwyntiau llawer o bobl nad ydyn nhw wedi cael profiadau cadarnhaol, mae’n hollbwysig nodi na all y data hwn yn ffurfiol ‘gynrychioli’ pob un sy’n derbyn gofal a chymorth. Mae’r hyn y mae’n ei wneud, fodd bynnag, yn awgrymu’n rymus nad ydy’r ‘daith’ tuag at weithredu’r Ddeddf yn llawn wedi’i chwblhau eto.

Mae'n amlwg bod angen i'r system weithio'n fwy effeithiol i wireddu'n llawn botensial yr holl egwyddorion gan weithio gyda'i gilydd mewn cytgord. O ystyried yr heriau ychwanegol a ddaeth yn sgil y pandemig, mae hi wedi bod yn bwysicach nag erioed i lynu at yr egwyddorion. Yn yr un modd, dydyn nhw erioed wedi bod â chymaint o ddylanwad – er gwaethaf y pwysau aruthrol a ddaeth yn sgil COVID-19, mae’r egwyddorion yn parhau i deimlo’n berthnasol ac yn bwysig i ddefnyddwyr gwasanaethau ac i'r gofalwyr.

Fodd bynnag, mae rhai defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn mynd yn gynyddol ddiamynedd ac am gael gweld newidiadau. Mae cydnabod a gwerthfawrogi hyn bellach yn allweddol i’r gwaith o ymgorffori'r Ddeddf a’i hegwyddorion ymhellach.

Manylion cyswllt

Awduron: Mark Llewellyn, Sarah Wallace and Sion Tetlow (Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol de Cymru); Fiona Verity (Coleg Gwyddorau Dynol a Iechyd, Prifysgol Abertawe )

Barn yr ymchwilwyr yw'r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Joseph Wilton
E-bost: research.healthandsocialservices@gov.wales

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil gymdeithasol: 16/2022
ISBN digidol: 978-1-80391-735-1

Image
GSR logo