Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau ar gyfer cam nesaf y rhaglen yn mynd yn eu blaenau - adeiladu ar lwyddiant Cyflymu Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan fusnesau, cartrefi a chymunedau gyfle i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar gam nesaf cyflwyno'r cynllun band eang cyflym iawn yng Nghymru, meddai Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth heddiw.  

Mae'r ymgynghoriad, a gyhoeddwyd heddiw, yn rhoi amlinelliad o'r safleoedd sy'n methu cael mynediad i fand eang cyflym iawn, a ble nad oes gan gwmnïau telegyfathrebu gynlluniau i'w cyrraedd yn y dair mlynedd nesaf.   Mae hyn yn dilyn Adolygiad o'r Farchnad Agored a thrafodaethau gyda'r diwydiant i sefydlu, fesul safle, ble fydd cam nesaf y cynllun.  

Mae prosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu'n foddhaol.  Ar ddiwedd Mawrth roedd 645,000 o safleoedd ledled Cymru wedi cael mynediad i ffibr cyflym o ganlyniad i'r rhaglen. Mae BT wedi cadarnhau eu bod yn disgwyl darparu cyflymder lawrlwytho o 30Mbps i oddeutu 690,000 o safleoedd cyn i'r rhaglen ddod i ben ar ddiwedd Rhagfyr 2017.  

Bydd yr ymgynghoriad yn llywio cam nesaf y cynllun sydd i ddigwydd ddechrau 2018 er mwyn cyrraedd yr ychydig safleoedd olaf anodd eu cyrraedd.  Mae wedi nodi rhestr o dros 98,000 o safleoedd.  Bydd y cynllun yn derbyn cymorth cyllid y sector cyhoeddus o oddeutu £80 miliwn.

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: 

"Dwi'n awyddus i glywed barn y diwydiant telathrebu a phreswylwyr a perchnogion busnes am a ddylai unrhyw safleoedd eraill gael eu cynnwys neu a ddylai unrhyw safle ar y rhestr gael ei eithrio.

"Bydd yr ymgynghoriad yn helpu inni fireinio ymhellach y rhestr o safleoedd sydd heb eu cysylltu.  Po fwyaf o ymatebion a gawn, po fwyaf cynhwysfawr fydd y rhestr.

"Os oes gan gymunedau ddiddordeb datrys eu problemau eu hunain, hoffwn glywed ganddynt.  Os oes gan rhywun farn ynghylch sut y dylem drefnu'r caffael, hoffwn eu clywed.  Os oes safbwyntiau ynghylch sut y dylem flaenoriaethu neu dargedu'r cyllid, rwyf am eu clywed. 

"Rydym eisoes wedi trawsnewid y sefyllfa yng Nghymru drwy Cyflymu Cymru.  Mae adroddiad diweddaraf Ofcom yn dangos bod gan Gymru y cysylltiadau band eang cyflym iawn gorau ymysg y gwledydd datganoledig, gyda dros wyth allan o ddeg safle wedi eu cysylltu.  Mae hyn yn cymharu ag ychydig dros hanner yn 2014.  

"Ond nid yw'r gwaith yn dod i ben pan fydd Cyflymu Cymru yn dod i ben.  Rydym am gyrraedd yr ychydig o safleoedd sy'n weddill.  Bydd rhagor o drafod gyda'r diwydiant a phrif randdeiliaid dros yr haf i fireinio'r dull caffael gyda'r bwriad o wahodd tendrau ffurfiol i ddarparu'r prosiect newydd ym mis Medi, gyda'r prosiect newydd ar ddechrau 2018.     

"Rwyf wedi ymrwymo i gyflawni ein huchelgeisiau yn Symud Cymru Ymlaen ac i gynnig band eang dibynadwy i bob safle yng Nghymru."