Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ), sydd wedi bod ar waith ers 11 Tachwedd 2020, yn cael ei ddirymu.

Darllen manylion

Rhan o:
Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Dirymu Parth Atal Ffliw Adar , math o ffeil: , maint ffeil: 290 KB

290 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Manylion

Mae'r penderfyniad yn deillio o asesiad risg o'r tebygolrwydd y bydd ffliw adar yn ymledu. Roedd hyn yn dangos llai o risg.

Bydd yr AIPZ yn cael ei godi ledled Cymru o hanner dydd ar 15 Mai 2021. Mae hyn yn unol ag erthygl 4 (1) (b) o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 ("y Gorchymyn").

Caniateir i gynulliadau adar ailddechrau hefyd o 15 Mai. Fodd bynnag, rhaid i fioddiogelwch cadarn barhau. Darllenwch fwy am fioddiogelwch ac atal clefydau mewn adar caeth.

Mae codi'r mesurau wedi'i ddatgan gan Weinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd.