Neidio i'r prif gynnwy

Mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi ymweld ag Ysgol Pencae yng Nghaerdydd i dynnu sylw at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynhwyswyr diodydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ysgol yn Llandaf yn un o nifer o eco-ysgolion yng Nghymru, ac mae ei heco-bwyllgor wedi bod wrthi'n ceisio cynyddu dealltwriaeth o wastraff a lleihau'r defnydd o blastig drwy fentrau fel y 'Dydd Gwener di-blastig' wythnosol.

Os bydd Cynllun Dychwelyd Ernes yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, byddai disgwyl i siopwyr dalu ernes ar gynhwyswyr plastig, gwydr a metel (ac eithrio cynhwyswyr llaeth) a fyddai'n cael ei had-dalu ar ôl eu dychwelyd.

Roedd y Dirprwy Weinidog wedi annog yr eco-bwyllgor i ymateb i'r ymgynghoriad sydd wedi'i grynhoi a'i gyhoeddi i bob eco-ysgol yng Nghymru.

Dywedodd Hannah Blythyn:

"Ro'n i wedi mwynhau cyfarfod â'r disgyblion ysbrydoledig yn Ysgol Pencae.  Ro'n nhw wedi cynnig eu barn am sut y gallwn ni leihau ein gwastraff plastig a gwella cyfraddau ailgylchu yng Nghymru, a chawson ni drafodaethau defnyddiol am ddefnyddio plastig a chynlluniau dychwelyd ernes.

"Os gallwn ni wneud gwahardd plastig untro ac ailddefnyddio neu ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl yn rhywbeth sy'n ail natur i'r genhedlaeth nesaf, byddwn ni’n gwneud camau breision wrth wella ein hamgylchedd. O ystyried y drafodaeth heddiw, mae'r dyfodol mewn dwylo diogel."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhan o ymgynghoriad arall yn y DU ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd pacio. Mae hwnnw'n anelu at sicrhau bod cynhyrchwyr yn ysgwyddo costau rheoli gwastraff y cynhyrchion y maent yn eu cyflwyno i'r farchnad, yn unol ag egwyddor 'y llygrwr sy'n talu'. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn ymgynghori ar dreth ar gynhyrchu a mewnforio deunydd pacio plastig nad yw'n cynnwys o leiaf 30% o blastig wedi'i ailgylchu.

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:

“Mae gwastraff plastig a deunydd pacio gwastraff yn faterion pwysig i bawb, nid dim ond i'n plant. Bob blwyddyn yn y DU rydyn ni'n cynhyrchu tua 11 miliwn o dunelli o wastraff pacio, ac mae 2.3 miliwn o dunnelli o hynny'n wastraff pacio plastig.

“Yng Nghymru, rydyn ni ar flaen y gad mewn perthynas ag ailgylchu. Ond rydyn ni am wneud mwy, a chymryd camau i leihau maint y deunydd pacio yr ydyn ni'n ei ddefnyddio, gan gymell gwell gynlluniau ar gyfer cynhyrchion a deunydd pacio, er mwyn eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu'n hawdd. Gallai hynny ysgogi cyfleoedd economaidd i Gymru a chefnogi ein nod i fod yn economi fwy cylchol."

"Rwy am annog pawb i ddarllen yr ymgyngoriadau ac ymateb iddyn nhw, er mwyn sicrhau bod llais Cymru'n cael ei chlywed ar y materion hyn."