Neidio i'r prif gynnwy

Ddoe, cyfarfu penaethiaid Conwy â’r Gweinidog Addysg i drafod sut mae ysgolion yr awdurdod wedi elwa ar gael cymorth swyddogion cymorth busnes.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae swyddogion cymorth busnes, sydd wedi'u hariannu fel rhan o gynllun peilot Rheolwyr Busnes Ysgolion a'r Grant Ysgolion Bach a Gwledig, yn ymgymryd â rhai o'r gwaith gweinyddol a threfnu y byddai penaethiaid fel arfer yn ei wneud.

Mae hynny'n caniatáu i benaethiaid rheoli'u llwyth gwaith yn well, gan roi mwy o amser iddynt ganolbwyntio ar arwain addysgu a dysgu, codi safonau a gwella perfformiadau disgyblion mewn ysgolion.

Cynhaliwyd y cyfarfod yn Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst,  lle mae’r 3 swyddog cefnogi busnes sydd yng ngofal clwstwr Ysgolion Dyffryn Conwy wedi’u lleoli.

Blwyddyn ar ôl iddyn nhw ddechrau yn eu swyddi, mae'r swyddogion cefnogi busnes yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r 21 o ysgolion yn y clwstwr yn barod. 

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Kirsty Williams:

"Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gwrdd â'r rheolwyr cefnogi busnes a'r penaethiaid  i glywed am effaith y rhaglen ar yr ysgolion.

"Mae'n galonogol gweld sut mae Conwy wedi defnyddio'r grant i roi cefnogaeth weinyddol ychwanegol i ryddhau amser penaethiaid ysgolion cynradd er mwyn canolbwyntio ar arwain a rheoli.

"Rwy hefyd yn hapus iawn i weld bod 70% o benaethiaid wedi ymuno â'r prosiect.  Maen nwh wedi adrodd bod llwyth gwaith tasgau gweinyddol wedi lleihau a bod hyn wedi arwain at fwy o gydweithio rhwng ysgolion cynradd."

Dywedodd Delyth Williams, Rheolwr Busnes yn Ysgol Dyffryn Conwy:

"Mae'r cynllun yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ysgolion."

"Mae Swyddogion Cefnogi Busnes wedi helpu i ni ddefnyddio mwy o'n hamser ar arwain ysgolion oherwydd eu bod yn gallu ymgymryd â'r tasgau gweinyddol uwch."

"Mae hynny, nid yn unig wedi helpu i godi safonau a gwella perfformiad y dysgwyr, ond mae hefyd wedi bod o gymorth mawr wrth gyfrannu tuag at gynaliadwyedd ein hysgolion bach a gwledig."

"Mae'r manteision o gael Swyddogion Cefnogi Busnes yn mynd law yn llaw â dull gweithredu 'model y clwstwr' sydd wedi cael ei fabwysiadu gan ysgolion yng Nghonwy.  Mae'n annog a chefnogi gweithio ysgol-i-ysgol, gan alluogi penaethiaid i rannu arferion da a chydweithio er mwyn cynyddu capasiti a rhannu arbenigedd."