Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn yr ydym yn ei wneud i nodi unrhyw risgiau i ddiogelwch y cyhoedd o tomenni glo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae tomenni glo yn waddol o orffennol glofaol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymunedau’n ddiogel.

Ym mis Chwefror 2020, gwelwyd rhagor o stormydd gaeafol gyda glawiad eithafol o ganlyniad i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Arweiniodd hyn at dirlithriad ar domen lo nas defnyddir yn Tylorstown, Rhondda Cynon Taf.

Mae gennym domenni glo yma yng Nghymru o ganlyniad i’n hanes glofaol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymunedau’n ddiogel.

Mewn ymateb i’r tirlithriad yn Tylorstown sefydlodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU Dasglu Diogelwch Tomenni Glo ar y cyd. Nod y Tasglu oedd asesu statws presennol tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru.

Rhaglen waith

Mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn cyflawni rhaglen waith. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys archwilio a chynnal a chadw tomenni glo. Mae hefyd yn cynnwys datblygu polisi a deddfwriaeth newydd.

Categorïau tomenni glo

Mae tomenni glo nas defnyddir yn cael categorïau dros dro. Mae’r categorïau’n dangos pa domenni y gallai fod angen eu harchwilio'n amlach er mwyn asesu draenio a sefydlogrwydd.

Mae’r categorïau’n ystyried llawer o wahanol ffactorau sy’n cael eu hasesu gan arbenigwyr technegol. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys:

  • Maint a geometreg
  • Peryglon posibl
  • Derbynleoedd posibl
  • Hanes y safle
  • Unrhyw seilwaith cysylltiedig
  • Gofynion archwilio a monitro

Categori D

Tomen â’r potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd – i’w harchwilio o leiaf ddwywaith y flwyddyn

Categori C

Tomen â’r potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd – i’w harchwilio o leiaf unwaith y flwyddyn

Categori B    

Tomen nad yw’n debygol o effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd

Categori A

Tomen y mae’n annhebygol iawn y bydd yn effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd

Categori R    

Tomen y mae’n annhebygol iawn y bydd yn effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd. Mae’n bosibl ei fod wedi cael ei symud neu fod rhywbeth wedi’i adeiladu drosti

Archwiliadau a gwaith cynnal a chadw

Mae llawer o waith wedi cael ei wneud ers Chwefror 2020 i nodi statws pob tomen ac i gynnal gwaith cynnal a chadw.

Gofynnwyd i’r Awdurdod Glo archwilio tomenni glo Categori C unwaith y flwyddyn a Chategori D ddwywaith y flwyddyn. Yn 2023 dechreuodd yr Awdurdod Glo broses o archwilio pob tomen Categori B. Mae’r gwaith hwn yn helpu i nodi unrhyw waith cynnal a chadw sy ei angen.

Mae awdurdodau lleol yn cynnal y gwaith cynnal a chadw sy’n cael ei nodi gan yr archwiliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £44.4 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer cynnal a chadw tomenni glo dros flynyddoedd ariannol 2022-23, 2023-24 a 2024-25.   

Treialon technoleg

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu treialon technoleg mewn tomenni glo gradd uwch addas. Nod y rhain yw nodi technolegau a allai gyfrannu at reoli tomenni glo nas defnyddir yn ddiogel ac yn effeithiol. 

Mae'r treialon yn cwmpasu mwy na 70 o safleoedd yng Nghymru. Byddwn yn adolygu canlyniadau'r treialon wrth iddynt gael eu cwblhau.

Data tomenni glo

Mae bellach gennym ddealltwriaeth well o nifer a lleoliad tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru a phwy sy’n berchen arnynt. 

Gwnaethom gyhoeddi mapiau’n cynnwys lleoliad tomenni nas defnyddir yng Nghategorïau  C a D ar 14 Tachwedd 2023. 

Gwnaethom gyhoeddi mapiau’n cynnwys lleoliad tomenni nas defnyddir yng Nghategorïau A, B ac R ar 11 Mawrth 2024.

Gweld lleoliadau tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru

Tabl 1: Tomenni glo segur yng Nghymru
Awdurdod LleolCategori DCategori 
C
Categori 
B
Categori 
A
Categori 
R
Cyfanswm
 
Castell-nedd
Port Talbot
132816138530617
Rhondda Cynon
Taf
29501079348327
Wrecsam032110785216
Caerffili74466818206
Abertawe053712542209
Torfaen530814910175
Sir Gâr0 1585853170
Blaenau Gwent51338639128
Merthyr Tudful154431311122
Pen-y-bont ar Ogwr63637946179
Sir y Fflint001940665
Sir Benfro01654061
Powys0 1206330
Sir Fynwy21078027
Caerdydd1148024
Ynys Môn0037010
Cyfanswm cyffredinol y categori8326770612093012566
  1. Nid oes gan Geredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Casnewydd na Bro Morgannwg gofnod o domenni glo nas defnyddir. 
  2. Mae'n bosibl y bydd y ffigurau'n newid o ganlyniad i arolygiadau ac asesiadau parhaus.

Diwygio polisïau a deddfwriaeth

Mae diogelwch tomenni glo wedi’i ddatganoli i Gymru. Y ddeddfwriaeth ar gyfer tomenni glo nas defnyddir yw Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969. Mae hon yn dyddio’n ôl i’r adeg pan oedd y diwydiant glo yn weithredol.

Yn 2020, gofynnodd Gweinidogion Cymru i Gomisiwn y Gyfraith  adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol ar domenni glo nas defnyddir.

Roedd yn cynnwys ymgynghoriad o fis Mehefin i fis Medi 2021. Cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ganlyniadau'r ymgynghoriad a'i argymhellion ym mis Mawrth 2022.

Roedd yr adroddiad yn nodi'n glir y diffygion o ran y gyfundrefn bresennol.  Roedd yn cynnig fframwaith rheoleiddio modern ar gyfer tomenni nas defnyddir.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynigion ar gyfer trefn newydd ar 11 Mai 2022 yn y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru). Mae'r cynigion yn adeiladu ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 4 Awst 2022 a gwnaethom gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ym mis Tachwedd 2022.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb dros dro i adolygiad Comisiwn y Gyfraith ym mis Medi 2022, a'i hymateb manwl ym mis Mawrth 2023. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y rhan fwyaf o argymhellion Comisiwn y Gyfraith, neu eu derbyn ar ffurf wedi'u haddasu. Mae'r ymateb yn rhoi trosolwg o ddull arfaethedig Llywodraeth Cymru, a'i hymateb i bob un o'r argymhellion. 

Yn amodol ar gytundeb Gweinidogion, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil ar Ddiogelwch Tomenni nas defnyddir yn nhrydedd flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth.

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer perchnogion tir

Os ydych yn bod gennych domen glo nas defnyddir darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer perchnogion tir.  

Darllen pellach