Neidio i'r prif gynnwy

Mae Carl Sargeant wedi pwysleisio mai diogelwch a thawelwch meddwl trigolion sy'n byw mewn blociau o fflatiau sydd â chladin o ddefnydd alwminiwm cyfansawdd (ACM) yw ei flaenoriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad am y camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chymryd ers trychineb Tŵr Grenfell, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn awyddus i fynd i'r afael â phryderon dealladwy tenantiaid cyn gynted ag y bo modd. 

Amlinellodd yr ystod o fesurau sydd wedi'u rhoi ar waith yn Abertawe ers gwybod am ganlyniadau aflwyddiannus y profion ar gladin ACM mewn pedwar o'i blociau o fflatiau. Mae'r rhain yn cynnwys asesu risg tân, sicrhau bod trigolion yn deall yn iawn yr hyn sydd angen ei wneud mewn argyfwng os bydd tân, a darparu wardeniaid tân ar y safle i dawelu meddwl tenantiaid.

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â'r trigolion yn Abertawe ddoe, er mwyn deall profiad a safbwyntiau'r rhai hynny sy'n byw mewn eiddo sydd wedi'i effeithio.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Ces i rai trafodaethau cadarnhaol a threiddgar iawn â thrigolion ddoe. A bydd y rheini o fudd wrth ddatblygu'r camau nesaf wrth inni symud ymlaen. Clywais yn uniongyrchol gan denantiaid am eu pryderon ynghylch diogelwch defnydd y cladin. Ro'n i wedi gallu egluro'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod blociau uchel o fflatiau yn ddiogel. Roedd y trigolion hynny wedi ei gwneud yn glir eu bod yn gwerthfawrogi'r cyngor a gafodd ei roi iddynt gan y Cyngor.

"Mae'n amlwg bod angen cael cydweithrediad agos amrywiaeth o asiantaethau a gwasanaethau ar gyfer y sefyllfa hon. Diogelwch a thawelwch meddwl trigolion yw blaenoriaeth bennaf pob sefydliad sy'n ymwneud â'r mater hwn, ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni'n cydweithio'n effeithiol â'n gilydd. Ar y cyd ag eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i ymateb mewn ffordd bwyllog a chymesur, sy'n cydnabod pwysigrwydd diogelwch a thawelwch meddwl tenantiaid."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn hanfodol y dylai camau gweithredu'r Llywodraeth gael eu seilio ar y cyngor proffesiynol gorau posibl.

"Mae ein Gwasanaethau Tân ac Achub yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth gefnogi landlordiaid ac wrth sicrhau bod pob cam priodol a rhesymol yn cael eu cymryd i ddiogelu tenantiaid. Mae eu ffordd broffesiynol a phwyllog o fynd ati i reoli risgiau a diogelu rhag tân yn hanfodol", meddai.