Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn manylu ar ganfyddiadau ymchwil fu’n edrych ar ymddygiad diogelwch tân trigolion adeiladau aml-feddiannaeth.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r canfyddiadau o ymchwil i ymddygiad trigolion mewn adeiladau a gwmpesir yn rhaglen diwygio Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru. Bu’r ymchwil ar waith rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Mawrth 2024. Cynhaliwyd arolwg ar-lein o 1,562 o drigolion adeiladau aml-feddiannaeth yng Nghymru, yna cynhaliwyd 24 o gyfweliadau ansoddol manwl, gyda thrigolion a ddewiswyd o blith ymatebwyr yr arolwg. Gwnaethpwyd gwaith dadansoddi yn ôl segmentau er mwyn dosbarthu trigolion i grwpiau, yn seiliedig ar eu barn a’u hymddygiad.

Canfu’r ymchwil bod trigolion yn llawer mwy tebygol o ymddwyn mewn modd negyddol o ran diogelwch tân yn eu cartref eu hunain, o’i gymharu â mewn gofod cymunedol. Roedd hyn yn cynnwys gwneud pethau fel gwresogi eu cartref gyda gwresogydd annibynnol ar ei draed ei hun neu ddefnyddio mwy nag un cebl estyniad yn yr un soced.

Wrth edrych ar synhwyro tân, dywedodd 92% o drigolion fod ganddynt larwm/synhwyrydd mwg yn eu cartref, ond dywedodd 23% nad oeddynt wedi ei brofi eu hunain.

Dywedodd y trigolion a adroddodd fod ganddynt berthynas dda gyda’u  landlord neu reolwr eu hadeilad, eu bod yn teimlo eu bod yn hawdd eu gweld ac yn hawdd cysylltu â nhw. Mae hyn o’i gymharu â’r rhai a ddywedodd mai perthynas wael oedd ganddynt, fu’n sôn am offer diogelwch tân annigonol, rhesymau gwael am gyfyngiadau’n ymwneud â diogelwch tân, a diffyg ymatebolrwydd.

Roedd trigolion yn tueddu i fod yn awyddus i weld negeseuon cyffredinol iawn ar bosteri, ond i gael gwybodaeth neu gyfarwyddiadau penodol drwy gyfathrebu uniongyrchol ar y sianel gyfathrebu o’u dewis. O ran ymddiried yn y negeseuon a gyfathrebwyd, roedd trigolion yn teimlo eu bod yn fwyaf tebygol o weithredu ar negeseuon gan y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Mae’r astudiaeth yn cyfeirio at y gwahanol strategaethau sydd eu hangen i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân yn ddibynnol ar y math o breswylydd ac yn enwedig eu cymhelliant cyffredinol i gymryd cyfrifoldeb personol. Mae’r gwaith segmentu yn amlygu’r cam hanfodol, cyn cynghori ar ymddygiadau diogelwch tân, o ddwyn perswâd ar leiafrif sylweddol o drigolion fod ganddynt rôl i’w chwarae o gwbl.

Adroddiadau

Diogelwch tân mewn adeiladau aml-feddiannaeth: ymchwil trigolion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Becca McEwan

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.