Neidio i'r prif gynnwy

Llawlyfrau data ac offeryn archwilio yn seiliedig ar ddigwyddiadau yr adroddwyd amdanynt gan ddarparwyr y GIG yng Nghymru i’r System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu ar gyfer Medi 2021.

Defnyddir y set data hon i fesur lefelau adrodd gan sefydliadau’r GIG gan gynnwys pa mor rheolaidd a phrydlon y bydd yn cael ei adrodd. Nid yw’n addas i gymharu rhwng byrddau iechyd neu i wneud newidiadau dros amser oherwydd y gwahaniaeth rhwng pa bryd y digwyddodd rhywbeth a pha bryd y cafodd ei adrodd.

Dylid defnyddio’r set ddata ochr yn ochr â gwybodaeth ac arbenigedd. Mae sefydliadau yn cael eu hannog i adrodd digwyddiadau er mwyn helpu’r GIG dysgu ohonynt ac i ddarparu gwelliannau i ddiogelwch cleifion.

Mae'r cyhoeddiadau misol yn wybodaeth reoli ac nid ydynt yn cael eu cyfrif fel ystadegau swyddogol.

Mae sefydliadau'n llwytho digwyddiadau diogelwch cleifion i NRLS pan allant; nid oes gofyniad penodol iddynt wneud hyn yn fisol. Ni ddarparodd BILl Hywel Dda, BILl Powys ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre ddata ar gyfer mis Awst 2021.

Hysbysiad terfynu

Mae'r datganiad hwn wedi’i derfynu. Nid oes disgwyl i sefydliadau'r GIG bellach lanlwytho data digwyddiadau i'r System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu (NRLS).

Oherwydd bod yr NRLS yn cael ei ddatgomisiynu ddiwedd mis Mawrth 2022 gan GIG Lloegr / Gwella, penderfynwyd i sefydliadau'r GIG yng Nghymru roi'r gorau i lanlwytho data i NRLS ar gyfer digwyddiadau a adroddwyd ar neu ar ôl 1 Medi 2021 ac i ganolbwyntio ar weithredu’r System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru (OfWCMS) newydd.

Mae gofynion ac anghenion y data diogelwch cleifion hwn yn y dyfodol yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd.

Byddem yn croesawu unrhyw ymholiadau neu adborth ar ddefnydd cyfredol o'r data hwn. Cysylltwch â ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Diogelwch cleifion (digwyddiadau misol yn seiliedig ar pryd y rhoddwyd gwybod amdanynt): Medi 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 197 KB

XLSX
Saesneg yn unig
197 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.