Sut i ddiogelu staff, plant a phobl ifanc yn ddiogel wrth fynychu darpariaeth cynllun chwarae a gwaith chwarae mynediad agored.
Cynnwys
Pwy ddylai ddefnyddio’r canllawiau hyn?
- Darparwyr Gwaith Chwarae Mynediad Agored sydd wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
- Darparwyr gwaith chwarae wedi’i staffio sydd heb gofrestru ac sy’n gweithredu am lai na 2 awr y dydd neu yn unol â’r eithriadau a nodir yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Eithriadau) (Cymru) 2010 (fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016) a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant i blant hyd at 12 oed.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i bob un o’r 4 lefel rhybudd. Gweler Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefelau Rhybudd yng Nghymru a chanllawiau ar y lefelau rhybudd i gael rhagor o wybodaeth.
Rhaid darllen y canllawiau hyn wrth ochr y canllawiau Mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant sy’n darparu rhagor o wybodaeth y mae’n rhaid i bob lleoliad gofal plant a gwaith chwarae eu hystyried. Nid yw’r cyfeiriadau at warchodwyr plant a nanis yn berthnasol. Gallwch hefyd gyfeirio at y canllawiau gwasanaethau gwaith ieuenctid.
Cyflwyniad
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer darpariaeth Gwaith Chwarae Mynediad Agored yn darparu cyd-destun ychwanegol i’w ddefnyddio wrth ochr y canllawiau gofal plant.
Bydd angen i ddarparwyr ystyried sut byddant yn sicrhau y bydd y ddarpariaeth yn parhau yn unol â’r fframwaith cyfyngiadau lleol neu unrhyw newid i’r lefel rhybudd.
Darpariaeth gwaith chwarae mynediad agored
Yn y canllawiau statudol Cymru: gwlad lle mae cyfle i chwarae mae Gwaith Chwarae Mynediad Agored wedi’u staffio yn cael ei ddiffinio fel darpariaeth barhaus neu fyrdymor, a leolir mewn amryw o leoliadau ag adeiladau neu hebddynt.
Er bod y term Mynediad Agored yn berthnasol i ddarpariaeth gofrestredig i blant o dan 12 oed, mae darpariaeth o’r fath yn darparu ar gyfer plant o oedrannau amrywiol fel arfer, gan gynnwys rhai dros 12 oed. Pwrpas y ddarpariaeth yw darparu cyfleoedd chwarae wedi’u staffio i blant yn absenoldeb eu rhieni. Nid oes cyfyngiadau ar symudiad y plant mewn darpariaeth Gwaith Chwarae Mynediad Agored, ac eithrio am resymau diogelwch, ac nid ydynt yn cael eu hatal rhag mynd a dod fel y dymunant. Mae gan blant ryddid i ddewis ym mha fath o weithgareddau chwarae maent yn cymryd rhan a gyda phwy maent yn chwarae.
Fodd bynnag, mae COVID-19 wedi gosod cyfyngiadau cyffredinol ar blant o bob oed ac oedolion, a dylid cadw hyn mewn cof. Rhaid i blant dros 11 oed gadw at yr un gofynion ag oedolion o ran gwisgo gorchuddion wyneb pan fo angen, a chadw pellter corfforol. Rhaid i blant o bob oed hunanynysu os bydd angen gwneud hynny.
Dylid ystyried y mesurau a nodir yn y canllawiau hyn ochr yn ochr â’r gofynion sydd yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
Asesu risg COVID-19
Rhaid i bob darpariaeth gynnal asesiad risg a ddylai ymdrin yn uniongyrchol â’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws er mwyn ei gwneud hi’n bosibl rhoi mesurau synhwyrol ar waith i reoli’r risgiau hynny. Rhaid adolygu’r asesiad risg yn rheolaidd. Hefyd, dylid cynnal asesiadau risg unigol ar gyfer aelodau o staff sy’n wynebu risg uwch neu sy’n eithriadol o agored i niwed. Ceir rhagor o wybodaeth am asesiadau risg ac asesiadau gweithle yn adran Asesiadau Risg y canllawiau ar fesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant.
Asesiad Risgiau a Manteision
O ran gweithgareddau plant, y broses sy’n cael ei hargymell gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yw cynnal Asesiad Risgiau a Manteision. Mae asesiadau o’r risgiau a’r manteision yn ategu’r asesiadau risg cyffredinol a’r asesiadau o’r gweithle sy’n cael eu trafod yn adran Asesiadau Risg COVID-19 yn y canllawiau hyn.
Dylid cynnal asesiad ysgrifenedig ar gyfer pob ardal lle mae plant yn chwarae, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) meysydd chwarae a chyfarpar meysydd chwarae, gan ystyried y coronafeirws. Dylid hefyd cynnal asesiadau ysgrifenedig ar gyfer gweithgareddau wedi’u cynllunio sy’n cynnwys elfen sylweddol o risg (ee defnyddio offer, tymereddau uchel, uchderau sylweddol y gellir cwympo ohonynt). Dylai asesiad risgiau a manteision ystyried manteision y gweithgaredd ochr yn ochr â’r risgiau. Mae’n werth hyfforddi staff ar asesiadau risgiau a manteision deinamig hefyd. Mae plant yn greadigol wrth chwarae ac nid oes modd cynllunio ar gyfer pob math o chwarae. Gall staff reoli hyn drwy asesiad risgiau a manteision deinamig – gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u barn broffesiynol i ymateb yn briodol i weithgareddau heb eu cynllunio.
Hefyd mae angen i weithwyr proffesiynol wneud yn siŵr bod digon o staff â chymwysterau cymorth cyntaf a thystysgrifau hylendid bwyd lle bo hynny’n berthnasol, a bod gweithdrefnau ar waith ar gyfer gweithwyr unigol, codi a thrin, a gweithio ar uchder.
Mae gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ddyletswydd gofal tuag at y plant hynny. Mae’r ddyletswydd gofal yn effeithio ar y penderfyniadau maent yn eu gwneud ynghylch cymarebau staff a gofynion goruchwylio. O ran darpariaethau Gwaith Chwarae Mynediad Agored sydd heb gofrestru, bydd angen adolygu cymarebau staff. Dylai asesiadau risgiau a manteision dynnu sylw at ardaloedd allweddol eraill lle mae angen goruchwylio. Dylai hyn gynnwys ystyriaethau o ran rheoli niferoedd, fel giatiau a mynedfeydd, lle dylid cael goruchwyliaeth. Rhaid i ddarparwyr hefyd gyfeirio at adran Atal: rheoli haint y canllawiau ar fesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant.
I gael rhagor o gyngor am asesiadau risgiau a manteision gwaith chwarae, cysylltwch â Chwarae Cymru, yr elusen chwarae plant.
Rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru
Os ydynt wedi cofrestru, dylai darparwyr ddefnyddio eu cyfrif ar-lein gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i roi gwybod i’r Arolygiaeth pan fyddant yn ailagor, neu pan fydd unrhyw achos o’r coronafeirws sydd wedi’i gadarnhau ymysg y plant a’r staff sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Defnyddio lle yn yr awyr agored
Dylai plant dreulio cymaint o amser â phosibl yn yr awyr agored gan y gall hyn gyfyngu ar drosglwyddo a’i gwneud yn haws cadw pellter rhwng y grwpiau.
I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau wedi’u trefnu i blant, gan gynnwys darpariaeth gwaith chwarae wedi’i staffio, a beth a ganiateir ar bob lefel rhybudd, cyfeiriwch at y Canllawiau ar adael eich cartref a gweld pobl eraill