Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r DU wedi ymadael â’r UE. Ond mae dal angen ichi baratoi.

Ymadawodd y DU â’r UE ar 31 Ionawr 2020.

Ers y refferendwm ar yr UE yn 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn glir mai ei bwriad yw diogelu dyfodol Cymru o dan ba amgylchiadau bynnag y mae Brexit yn eu creu. Mae’n amlwg bellach, gan fod y DU wedi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, er nad yw hynny ar y telerau y byddem yn eu dymuno, fod rhaid inni droi ein sylw at y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gan Lywodraeth y DU fandad i seilio perthynas y DU yn y dyfodol ar y Datganiad Gwleidyddol y cytunodd yr UE iddo ym mis Hydref 2019. Fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd ein cysylltiadau â’r UE, rydym yn credu bod angen i’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, mewn nifer o feysydd pwysig, fod yn agosach ac yn ddyfnach na’r hyn a nodir yn y Datganiad Gwleidyddol. 

Dyma flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y berthynas â’r UE yn y dyfodol

Cytundeb masnach ag Ewrop yw’r flaenoriaeth

Rhaid inni flaenoriaethu cytundeb â’r UE dros negodiadau eraill o ystyried y cysylltiadau dwfn sydd eisoes yn bodoli o ran masnach a’r economi (ac amddiffyniadau amgylcheddol a chymdeithasol ar y cyd).

Pontio hyblyg

Mae angen hyblygrwydd a realaeth arnom o ran hyd y cyfnod pontio er mwyn caniatáu amser ar gyfer cytundeb masnach eang a dwfn.

Dim rhwystrau na thâp coch i fusnesau Cymru

Rhaid inni gael mynediad llawn at farchnad yr UE heb dariffau a rhaid sicrhau cyn lleied â phosibl o rwystrau heblaw am dariffau.

Rhaid i Gymru gael llais

Mae angen proses sy’n rhoi dylanwad gwirioneddol i’r Gweinyddiaethau Datganoledig ar y berthynas â’r UE yn y dyfodol. Mae bygythiad i Undeb y Deyrnas Unedig os nad yw Llywodraeth y DU yn dangos y gall y DU gynnal polisi masnach wrth barchu datganoli.

Mynediad at raglenni’r UE

Parhau i gyfranogi yn rhaglenni pwysig yr UE, megis Erasmus+ a Horizon Ewrop, hyd yn oed os nad yw gweddill y DU, neu rannau ohoni, yn dewis gwneud hynny.

System fudo sy’n gweithio i Gymru

A gweddill y DU, gan gysylltu mudo yn agosach â chyflogaeth a gwarchod hawliau pobl sy’n ymgartrefu yn y DU.

Ers mis Ionawr 2017, rydym wedi cyhoeddi papurau polisi ynghylch cyllid, masnach, mudo, buddsoddi rhanbarthol a datganoli. Mae’r dogfennau llawn ar gael isod.

Os oes arnoch angen ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: PontioEwropeaidd@llyw.cymru