Neidio i'r prif gynnwy

O heddiw ymlaen, bydd pobl y mae eu cartrefi wedi dioddef o lifogydd yn ystod y stormydd Ciara a Dennis yn derbyn hyd at £1000 gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd pob cartref ar ledled Cymru sydd wedi dioddef o lifogydd yn derbyn £500. Bydd £500 ychwanegol yn cael ei roi i’r rhai heb yswiriant tŷ. Bydd pobl yn derbyn taliad cychwynnol o fewn 24 awr. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i'r rhai sydd wedi eu heffeithio i siarad thiimau cymorth brys awdurdodau lleol yn y lle cyntaf, er mwyn sicrhau bod y system mor gyflym ac effeithiol â phosibl.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Wrth gyfarfod pobl o gymunedau sydd wedi dioddef o lifogydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, fe welais i drosof i fy hun y tristwch a’r straen mae pobl yn ei brofi. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu nhw yn ystod y cyfnod eithriadol anodd yma. Hefyd fe welais i’r pwysau ychwanegol sydd ar bobl os nad oedd ganddyn nhw yswiriant tŷ, neu os nad oedd eu polisïau yswiriant yn gwarchod rhag llifogydd. I helpu’r bobl hynny, rydyn ni’n darparu arian ychwanegol i bobl allu cael yswiriant tŷ.

“Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gronfa argyfwng gwerth £10m i helpu gydag effaith uniongyrchol y llifogydd, ond mae cost y difrod i’r seilwaith a’r buddsoddiad sydd ei angen er mwyn rhoi sylw i argyfwng yr hinsawdd yn mynd ymhell y tu hwnt.

“Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i bobl Cymru hefyd. Ar ôl wythnos o ddistawrwydd yn wyneb yr argyfwng hwn, mae angen brys i Lywodraeth y DU egluro sut fath o gymorth tymor-hir sydd ar gael i gymunedau.”  

Mae cefnogaeth ar gael i fusnesau a effeithiwyd gan y stormydd Ciara a Dennis o Fusnes Cymru.