Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad a nod yr astudiaeth

Ar ôl cydnabod yr angen i sicrhau bod cymunedau ymfudol yng Nghymru yn gallu deall eu hawliau a'u gwasanaethau, comisiynodd Llywodraeth Cymru Alma Economics i archwilio i gyfleoedd a chanlyniadau dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru a nodi meysydd ar gyfer gwella integreiddio. Mae'r ymchwil hwn yn rhan o brosiect Hawliau Dinasyddion yr UE (EUCR), sy'n ceisio annog dinasyddion yr UE i aros yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau bod dinasyddion yr UE yn gallu cael gafael ar gyngor priodol a'u bod yn cael eu hamddiffyn rhag camfanteisio ac eithrio.

Oherwydd yr ymchwil cyfyngedig ar integreiddio dinasyddion yr UE yng Nghymru, roedd angen gwneud gwaith ychwanegol i ddeall yr anghydraddoldebau a'r rhwystrau i integreiddio ymfudwyr o'r UE yn y gymuned Gymreig.

2. Ymagwedd a dulliau

Mae'r astudiaeth gyfredol yn defnyddio dadansoddiad meintiol o ddangosyddion allweddol i werthuso integreiddio poblogaeth a anwyd yn yr UE-27 sy'n byw yng Nghymru, gan gwmpasu pedwar categori eang:

  • cyflogaeth
  • tai
  • iechyd a budd-daliadau
  • sgiliau iaith a hunaniaeth genedlaethol

Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys ymchwil ansoddol gyda dinasyddion yr UE, swyddogion llywodraeth leol a sefydliadau sy'n darparu cefnogaeth a gwasanaethau i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru. Nod y dadansoddiad ansoddol yw archwilio'r broses integreiddio ehangach, gan ystyried meysydd y tu hwnt i'r rhai a ddadansoddwyd yn yr adran feintiol, ac archwilio'r cysondeb rhwng data cyhoeddedig a phrofiadau byw sampl o unigolion a anwyd yng ngwledydd yr UE-27 sy'n byw yng Nghymru.

3. Prif ganfyddiadau

Diffyg mynediad at wybodaeth am wasanaethau cyhoeddus

Mae'r ymchwil wedi nodi mai'r rhwystr mwyaf cyffredin i gyfle cyfartal/ canlyniadau i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru yw diffyg gwybodaeth hygyrch. Gall peidio â chael gwybodaeth briodol atal dinasyddion yr UE rhag integreiddio'n llwyddiannus (fel y'i mesurir gan Ddangosyddion y Swyddfa Gartref ar gyfer Integreiddio), megis methu â chofrestru gyda meddyg teulu neu wneud cais am fudd-daliadau y maent yn gymwys i’w cael. Mae arweinwyr cymunedol yng nghymunedau'r UE yn chwarae rhan bwysig o ran helpu pobl i gael gwybodaeth gywir, ac yn bwysicaf oll, i integreiddio.

Mae dinasyddion yr UE yn aml yn or-gymwys

Mae dinasyddion yr UE, yn enwedig y rheini o wledydd yr UE-8[1] a'r UE-2[2], wedi'u crynhoi mewn swyddi y maent yn or-gymwysedig ar eu cyfer. Un esboniad am hyn yw nad yw cyflogwyr yn deall cymwysterau o wledydd UE-8 ac UE-2, efallai oherwydd y diffyg ymwybyddiaeth ynghylch trosi cymwysterau.

[1] Mae gwledydd UE-8 yn cynnwys y rhai a ddaeth i mewn i’r UE yn 2004, gan gynnwys Gweriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Slofacia, a Slofenia.

[2] Mae gwledydd UE-2 yn cynnwys Bwlgaria a Rwmania

Rhwystrau iaith

Disgrifiodd rhanddeiliaid allweddol nad yw llawer o unigolion o wledydd UE-8 ac UE-2 yn hyfedr wrth siarad Saesneg, hyd yn oed ar ôl byw yng Nghymru am gyfnod estynedig. Yn aml nid oes gan y grŵp hwn, sy'n anghymesur mewn swyddi sgiliau isel, amser i fynychu cyrsiau iaith Saesneg gan eu bod yn aml yn gweithio oriau hir. Mae gan anallu i gyfathrebu'n hyfedr yn Saesneg nifer o oblygiadau i ddinasyddion yr UE yng Nghymru, gan gynnwys cyfyngu ar eu cyfleoedd yn y farchnad lafur, eu mynediad at ofal iechyd, a'u dealltwriaeth o'r system fudd-daliadau.

4. Argymhellion a chasgliadau polisi

Daw'r ymchwil i'r casgliad y dylai gweithredoedd polisi ganolbwyntio ar holl ddinasyddion UE-27 sy'n byw yng Nghymru. Er ei bod yn bwysig darparu cefnogaeth i'r rheini o holl genhedloedd UE-27, mae angen dwys am fesurau cymorth ychwanegol sy'n targedu’n benodol y mewnfudwyr hynny a gyrhaeddodd yn ddiweddar, yn ogystal â phobl o wledydd UE-8 a'r UE-2 sy'n byw yng Nghymru.

Helpu dinasyddion yr UE sy’n ymgartrefu yng Nghymru i deimlo bod croeso iddynt

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgyrch i’w croesawu, yn debyg i’r ymgyrch ‘London is Open’, i anfon y neges bod dinasyddion yr UE yn cael eu croesawu a’u gwerthfawrogi yng Nghymru. Rydym yn argymell bod yr ymgyrch i'w croesawu yn anelu at dargedu'r sbectrwm lawn o ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, o fewnfudwyr tymor hir sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru i rai a gyrhaeddodd yn gymharol ddiweddar. Gallai'r ymgyrch fod â'r nod ychwanegol o annog teimlad cadarnhaol ymhlith poblogaeth Cymru tuag at ddinasyddion yr UE trwy amlinellu eu cyfraniadau i Gymru. Gan mai amcan yr ymgyrch yw cyrraedd pobl o sawl demograffeg, dylid ddefnyddio dull eang gan gynnwys hysbysfyrddau, negeseuon radio/teledu a chyfryngau cymdeithasol.

Gwell mynediad at wybodaeth

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried adeiladu porth ar-lein i ddarparu i) trosolwg byr, a ii) dolenni i wefannau swyddogol ar bob agwedd ar integreiddio i ddinasyddion yr UE. Dylai'r porth fod yn siop un stop ar gyfer gwybodaeth i newydd-ddyfodiaid i Gymru. Gellid strwythuro'r porth o amgylch Dangosyddion Integreiddio'r Swyddfa Gartref, e.e. budd-daliadau, gofal iechyd, addysg, hawliau a chyfrifoldebau. I bob maes, gallai'r porth gynnwys esboniad cryno ynghylch sut mae pob gwasanaeth yn gweithio yng Nghymru yn holl ieithoedd yr UE.

Mwy o gefnogaeth a rôl fwy gweithredol i sefydliadau sy'n gweithio i wella integreiddio

Mae nifer o sefydliadau yn gweithredu yng Nghymru gyda'r nod o gefnogi pobl o'r UE sy'n ymgartrefu yng Nghymru, fel Settled a Chyngor ar Bopeth. Er mwyn gwella eu gwasanaethau i gefnogi cyfle cyfartal i ddinasyddion yr UE, gallai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid i'r sefydliadau hyn yn cael ei ddarparu yn y tymor hir er mwyn i) cefnogi pob maes integreiddio, a ii) hyfforddi a chyflogi arweinwyr cymunedol ar sail barhaol/tymor hir. Dylai'r arweinwyr hyn fod yn adnabyddus i'w cymunedau a dylai eu cymunedau ymddiried ynddynt - gan eu rhoi mewn sefyllfa dda i gynnig gwybodaeth a chefnogaeth i annog cynhwysiant a chydlyniant cymdeithasol yn y cymunedau hyn.

Mynediad i’r farchnad lafur

Dylid darparu gwybodaeth i ddinasyddion yr UE, yn enwedig y rheini o wledydd yr UE-8 ac UE-2, ar sut y gellir cydnabod eu cymwysterau yng Nghymru (dylid cynnwys y wybodaeth hon ar y porth). Gallai Llywodraeth Cymru gynhyrchu adnoddau i helpu cyflogwyr ddod yn fwy ymwybodol o gymwysterau gwledydd yr UE. Gallai'r adnoddau hyn fod ar ffurf dogfennau cyfeirio sy'n benodol i'r diwydiant, sy'n egluro cymwysterau holl wledydd yr UE a'r hyn sy'n cyfateb iddynt yn y DU. Yn ogystal, mae angen darparu cyngor gyrfa, gan gynnwys gwybodaeth am gymwysterau sy'n ofynnol ym marchnad lafur Cymru a chyfleoedd hyfforddiant galwedigaethol, gan dargedu unigolion o wledydd UE-8 a'r UE-2.

Gwella sgiliau ieithyddol

O ystyried bod gwybodaeth o'r iaith Saesneg yn hanfodol ar gyfer integreiddio i'r gymuned, byddai darpariaeth ychwanegol o wersi Saesneg yn fuddiol, yn enwedig i unigolion a anwyd yng ngwledydd UE-8 ac UE-2. Gellid cyflwyno dosbarthiadau naill ai yn y gymuned neu yn y gweithle. Gan fod llawer o ymfudwyr o'r UE yn treulio llawer o amser yn y gwaith, gellid rhoi cymhellion i gyflogwyr ddarparu gwersi Saesneg yn y gweithle.

5. Manylion cyswllt

Adroddiad Ymchwil Llawn: Alma Economics; 2020. Dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru - Integreiddio cymunedol, cyfle cyfartal a chydraddoldeb canlyniad. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad GSR 77/2020.

Safbwyntiau’r ymchwilwyr sydd yn yr adroddiad hwn ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag:

Trish Bloomer
Is-adran Cymunedau
Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
F10 3NQ

E-bost: ymchwilcyfiawndercymdeithasol@llyw.cymru

Image
GSR logo

ISBN Digidol 978-1-80082-584-0