Neidio i'r prif gynnwy

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, ymateb i Gyllideb Hydref Llywodraeth y DU heddiw drwy ddweud nad oes unrhyw dystiolaeth ynddi bod y cyfnod o gyni wedi dod i ben.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cyllideb yr Hydref gan Lywodraeth y DU yn cynnwys oddeutu £68.4m o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Cymru rhwng 2018-19 a 2020-21, gyda chyllid refeniw ychwanegol o £486m ar gyfer y cyfnod o 2018-19 i 2019-20. Mae hyn yn cynnwys y cyllid canlyniadol ar gyfer y GIG, oedd wedi’i gyhoeddi’n barod.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

“Ychydig wythnosau yn ôl, honnodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig bod polisi cyni diffygiol y llywodraeth Geidwadol hon ar ben. Mae’r dystiolaeth yn y Gyllideb hon yn dangos nad yw hynny’n wir.

“Ychydig iawn mae’r Gyllideb yn ei gynnig i Gymru fel arall – heblaw cadarnhad o’r swm canlyniadol ar gyfer cyllid 70 mlwyddiant y GIG, yr oeddem yn ei ddisgwyl yn barod, ynghyd ag ychydig friwsion eraill o’r bwrdd.

“Ar ei gorau, nid yw’r gyllideb hon yn galluogi inni wneud dim mwy na sefyll yn ein hunfan wrth aros am ganlyniadau’r negodiadau Brexit. Mae’n destun siom fawr o safbwynt Cymru.”

Beirniadodd yr Ysgrifennydd Cyllid Lywodraeth y DU hefyd am fethu â buddsoddi digon mewn seilwaith i gefnogi’r economi yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

“Byddai unrhyw un sy’n edrych yn synhwyrol ar economi’r Deyrnas Unedig yn mynd ati i fuddsoddi yn ein seilwaith er mwyn paratoi ar y dyfodol. Er hynny dim ond £2.6m o gynnydd fydd yn ein cyllideb gyfalaf yng Nghymru yn 2019-20.

“Mae’r Canghellor wedi sôn heddiw am addewid o fwy o gyllid yn sgil cytundeb da ar Brexit.

“Fel Ysgrifennydd Cyllid, alla’ i ddim cynllunio ar sail addewid o jam yfory – rhaid i mi gael ffigurau dibynadwy o’m blaen i weithio gyda nhw.

“Yr hyn sy’n amlwg o’r Gyllideb heddiw yw nad oes sicrwydd am ddim byd os na fydd Llywodraeth y DU yn llwyddo i gael cytundeb ar Brexit.”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad am gyllid ar gyfer Bargen Dwf i’r Gogledd, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol iawn ers tro i fargen dwf ar gyfer y Gogledd ac wedi bod yn ymwneud yn rhagweithiol â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ar y cyd â Llywodraeth y DU, i sicrhau bargen sy’n iawn i bobl, cymunedau a busnesau’r Gogledd.

“Mae cyhoeddiad unochrog Llywodraeth y DU heddiw yn ein siomi, gan nad yw’n bodloni’r disgwyliadau, o bell ffordd, o ran yr hyn yr oeddem ni a phobl y Gogledd wedi bod yn gweithio’n galed tuag ato. Rydyn ni’n parhau’n hollol ymrwymedig i sicrhau’r fargen dwf hon, a allai fod yn drawsnewidiol, a byddwn yn dal ati i weithio i sicrahu’r pecyn a’r cyfeiriad cywir i’r Gogledd, gan gytuno cyn gynted â phosib ar benawdau telerau ar gyfer bargen.”