Ymateb y Gweinidog Cyllid i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU.
“Nid Datganiad yr Hydref gawson ni gan y Canghellor heddiw – rhoddodd inni restr hirfaith o raglenni peilot byrdymor, ambell brosiect dethol a rhagor o gyni,” meddai Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn ei hymateb.
Nid yw Canghellor y trethi uchel, gwariant isel wedi darparu'r anadl einioes sydd ei angen ar frys ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ni fydd rhoi sicrwydd ynghylch chwyddiant ac ymarfer ad-drefnu trethi arall eto fyth yn cynnal ein hysgolion a'n hysbytai.
“Mae ein cyllideb yn 2024-2025 nawr £3bn yn is nag y byddai wedi bod pe bai wedi tyfu yn gyson â'r economi ers 2010.”
Wrth iddi siarad ar ôl Datganiad yr Hydref, aeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ymlaen i ddweud:
“Mae'r Canghellor wedi methu â chydnabod y pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru ac ar draws y DU. Mae hyn yn golygu y bydd rhagor o benderfyniadau anhygoel o anodd o'n blaenau.
“Mae'r GIG a’r awdurdodau lleol yn wynebu heriau dwys o safbwynt gofal cymdeithasol, addysg a digartrefedd. Bydd y pwysau parhaus ar eu cyllidebau yn cael effaith sylweddol ar gynaliadwyedd ein hysgolion, ein hysbytai a’n gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill yn y dyfodol.
“Ni fydd y toriad mewn Yswiriant Gwladol o fudd i’r rhan fwyaf o drethdalwyr gan fod trothwyon treth incwm yn parhau i fod wedi’u rhewi, gan lusgo miloedd o bobl i mewn i daliadau treth uwch – codiad treth llechwraidd. Yn y cyfamser, mae trychineb ar ddwylo Llywodraeth y DU o ran gwasanaethau cyhoeddus, wrth i'r toriad yn yr Yswiriant Gwladol sugno biliynau oddi wrth y GIG, ysgolion a gofal cymdeithasol.
“Er gwaethaf holl sôn y Canghellor am dorri trethi, mae llwybr treth y DU ar y trywydd i gyrraedd ei lefel uchaf ers y rhyfel.
“Ychydig iawn sydd yn y datganiad hwn i Gymru. Cyn y Datganiad heddiw, galwais ar y Canghellor i ddarparu cyfraniad cymhedrol tuag at gefnogi ein gwaith hanfodol ar ddiogelwch rhag tomenni glo. Gofynnais hefyd am i HS2 gael ei ailgategoreiddio’n brosiect ar gyfer Lloegr yn unig, ac am i Gymru gael y £270m na welwyd gennym hyd yn hyn. Mae'r Canghellor wedi methu â gweithredu ar unrhyw un o'r ceisiadau hyn.
“Byddwn yn dadansoddi'n ofalus fanylion cyhoeddiadau heddiw wrth i ni barhau i baratoi ar gyfer ein Cyllideb ddrafft. Bydd Datganiad yr Hydref heddiw yn gwneud proses anodd yn anoddach fyth, gan nad yw'n gwneud dim i leddfu'r pwysau aruthrol ar ein cyllideb ac ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”