Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i leisio'u barn am y cynlluniau i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru, cyn i'r ymgynghoriad ddod i ben ddydd Llun 2 Ebrill 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cynlluniau'n rhan o becyn ehangach o gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru'n eu rhoi ar waith – i gefnogi plant i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac i gefnogi eu rhieni i'w magu yn y ffordd orau y gallan nhw. 

Ar hyn o bryd, mae yn erbyn y gyfraith i riant neu ofalwr gosbi eu plentyn yn gorfforol oni bai y bo hynny'n cael ei ystyried yn 'gosb resymol'. 

Ni fyddai'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn golygu creu trosedd newydd. Yn hytrach, mae'n diddymu amddiffyniad 'cosb resymol' mewn perthynas â throseddau sy'n bodoli eisoes, sef ymosod a churo. 

Byddai'n golygu na fyddai oedolyn sy'n gofalu am blentyn bellach yn gallu, o dan y gyfraith, ddefnyddio cosb gorfforol yn erbyn y plentyn hwnnw. 

Mae'r Gweinidogion am gyflymu'r tueddiadau sydd i'w gweld o ran y ffordd y mae rhieni yng Nghymru'n disgyblu eu plant a'u cefnogi i fod yn hyderus i ddewis a defnyddio dulliau disgyblu mwy cadarnhaol. 

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant:

“Mae gan Lywodraeth Cymru hanes profedig o weithio i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl i fywyd, ac o hyrwyddo hawliau plant. Dyna pham rydyn ni'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i'w gwneud hi'n eglur bod cosbi plentyn yn gorfforol bellach yn annerbyniol yng Nghymru. 

“Mae angen disgyblaeth ar blant er mwyn iddyn nhw ddeall beth sy'n iawn a beth sydd ddim yn iawn, a sut i ymddwyn. Mae ddiddymu'r amddiffyniad yn ei gwneud yn glir nad yw cosbi plentyn yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru.

“Rwy'n ymwybodol bod barn yn amrywio ar y mater hwn; felly mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bawb ddweud eu dweud er mwyn inni geisio mynd i'r afael â'r pryderon wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth.

“Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Llun 2 Ebrill – felly rwy'n annog cymaint o bobl ag sy'n bosibl i gymryd rhan.”