Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwy na £3.3m wedi cael ei ymrwymo gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi mislif mewn cymunedau ac i hybu urddas y mislif yn ysgolion a cholegau ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd ymgyrchwyr ifanc, oedd yn croesawu’r cyllid newydd ar gyfer 2020: “Dim ond sicrhau nad yw mislif merch yn ei hatal hi rhag llwyddo mewn bywyd yw hyn.”

Bydd pob coleg ac ysgol gynradd ac uwchradd ledled y wlad yn elwa o gronfa gwerth £3.1m, sy’n galluogi darparu cynhyrchion mislif am ddim i bob dysgwr sydd eu hangen.

Hefyd bydd pob awdurdod lleol yn cael dyraniad o’r gronfa gwerth £220,000 i’w cynorthwyo gyda darparu cynhyrchion mislif am ddim i ferched a genethod sy’n methu eu fforddio fel arall, gan sicrhau eu bod ar gael mewn lleoliadau cymunedol fel llyfrgelloedd a Hybiau.

Mae tlodi mislif yn cyfeirio at ddiffyg mynediad at gynhyrchion mislif oherwydd cyfyngiadau ariannol, ac mae urddas y mislif yn ymwneud â rhoi sylw i dlodi mislif a hefyd sicrhau bod cynhyrchion ar gael am ddim ac yn hygyrch i ferched a genethod yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol â phosib.

Mae Amber Treharne, 16 oed, a Rebecca Lewis, 15 oed, yn aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin sy’n codi ymwybyddiaeth o urddas y mislif yn eu sir ac yn chwilio am y ffyrdd gorau o gefnogi merched a genethod ifanc. 

Dywedodd Amber:

“Fe ddechreuodd hyn yn ôl yn 2018 pan wnaeth aelod o Gyngor Ieuenctid y DU o’n sir ni, Tom, gynnal y papur pleidleisio Gwneud Eich Marc. Daeth yn amlwg bod tlodi mislif yn bwnc amlwg iawn. Fe gawsom ni i gyd sioc mewn gwirionedd o ddeall bod merched ifanc yn y sir yn colli addysg ac nad oedd 1 o bob 10 merch 14 i 21 oed yn y DU yn gallu fforddio cynhyrchion mislif, felly fel cyngor ieuenctid fe wnaethon ni benderfynu sefydlu ymgyrch tlodi mislif.

“Ym mhob ysgol rydyn ni wedi bod yn dosbarthu bocsys gyda phecynnau am ddim o dampons a thyweli mislif y gall merched ifanc eu defnyddio ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod ysgol.

“Nod ein gwaith ni yw codi ymwybyddiaeth a hybu’r neges nad yw’n iawn i chi orfod colli eich addysg neu golli’r gwaith am nad oes gennych chi gynhyrchion mislif digonol. Sicrhau nad yw mislif merch yn ei hatal hi rhag llwyddo mewn bywyd yw’r nod.”

Mae’r Cyngor Ieuenctid wedi uno gyda’r Body Shop leol yng nghanol tref Caerfyrddin i sicrhau bod merched a genethod yn gallu cael cynhyrchion mislif am ddim bob dydd, nid dim ond pan maent yn yr ysgol.

Dywedodd Rebecca:

“Mae’n drist iawn bod stigma a bod merched ifanc yn teimlo embaras am fynd i ofyn am help, felly drwy sefydlu hyn mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid ac yn Body Shop, gall merched ifanc gael gafael ar y cynhyrchion heb orfod wynebu’r stigma rhagor.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda mynd i’r afael â thlodi mislif yn 2019 a bydd y cyhoeddiad yma am £3.1m o gyllid ar gyfer 2020-21 yn golygu y gallwn ni barhau i sicrhau urddas y mislif i bob menyw a merch yng Nghymru drwy ddarparu cynhyrchion a chyfleusterau priodol.

“Mae’n galonogol gweld pobl ifanc yn herio’r mater yma ac yn gweithio yn eu hysgolion a’u cymunedau i drechu’r stigma a’r tabŵ sy’n dal i fodoli heddiw yn anffodus.”