Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth, wedi cyhoeddi na fydd unrhyw waith sydd yn arwain at gau lonydd yn ystod y dydd ar yr A55 rhwng C11 a'r ffin â Lloegr tan o leiaf fis Medi 2019.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Ken Skates fod newyddion heddiw yn tystio i holl waith caled swyddogion, asiantwyr a chontractwyr Llywodraeth Cymru sydd eisoes wedi sicrhau nad yw unrhyw lonydd wedi cael eu cau yn ystod y dydd at ddiben cynnal gwaith gwella ers diwedd mis Hydref 2018.

Y tro diwethaf y bu'n rhaid cau rhai lonydd oedd adeg cynnal y gwaith hanfodol ar gerbytffordd y gorllewin er mwyn atgyweirio Pont Kneeshaw Lupton yn Llanddulas. Cyn y gwaith yma roedd 532 diwrnod wedi mynd heibio ers i lonydd gael eu cau yn ystod y dydd ar yr A55 rhwng Cyffordd 11 a ffin Lloegr, sef yn ystod mis Ebrill 2017.

Bydd gwaith brys yn dal i gael ei wneud pryd bynnag a ble bynnag y bydd ei angen, er mwyn sicrhau bod defnyddwyr y ffordd yn ddiogel.

Dywedodd Ken Skates: 

“Golyga cyhoeddiad heddiw na fydd unrhyw lonydd ar y rhan hon o'r A55 wedi cael eu cau yn ystod y dydd am bron i flwyddyn. Mae hyn yn tystio i ymrwymiad clir Llywodraeth Cymru o safbwynt sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar y ffordd allweddol hon. 

“Bydd y cyhoedd ac yn wir economi Gogledd Cymru yn parhau i elwa'n fawr ar y camau pwysig rydym ni, fel llywodraeth gyfrifol, wedi'u cymryd. Mae hefyd yn dangos sut rydym yn cynllunio'n ofalus er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o broblemau ar ein rhwydwaith ffyrdd. Bydd hyn yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i ni ymadael â'r UE. Hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion, asiantwyr a'r contractwyr sy'n gweithio'n ddiflino er mwyn sicrhau y gall gwaith gael ei wneud yn ystod y nos tra bo'r ffordd yn dawel a bod cyn lleied â phosibl o darfu ar y ffordd yn ystod y dydd, pan fydd miloedd o gerbydau yn ei defnyddio. 

“Rwy'n llwyr ymwybodol o bwysigrwydd ffordd yr A55 i Ogledd Cymru ac yn wir i bobl sy'n teithio i fyny ac i lawr Cymru ac o amgylch y DU, Iwerddon ac Ewrop ac rydym wedi buddsoddi'n sylweddol ynddi er mwyn ei gwneud yn ffordd fwy diogel a chydnerth ac er mwyn cynnig profiad teithio positif.  Rydym yn parhau'n ymrwymedig i wella seilwaith trafnidiaeth Gogledd Cymru hyd yn oed yn fwy ac mae gwerth £600 miliwn o fuddsoddiad eisoes ar y gweill ar gyfer yr A55, yr A494 a'r A483. 

“Cafodd y gwaith gwella hanfodol ar ochr orllewinol yr A55 ger Llanddulas ei gwblhau cyn pryd a hoffwn ddiolch unwaith eto i holl ddefnyddwyr y ffordd am eu hamynedd tra bo'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau. Mae rhaglen eleni o waith hanfodol wrthi'n cael ei datblygu a bydd swyddogion yn gwneud pob ymdrech i sicrhau y bydd y gwaith yma'n tarfu cyn lleied â phosibl ar deithwyr.

“Weithiau nid oes modd osgoi gwneud gwaith yn ystod y dydd ond mae newyddion heddiw yn dangos ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod unrhyw waith sydd ar y gweill ar yr A55 yn cael ei gwblhau dros nos neu oddi tano lonydd deuol cul lle y bo'n bosibl.”