Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal: trafodaeth y bwrdd Ionawr 2023
Diweddariad Ionawr 2023 am waith y Bwrdd Rhaglen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Ein huchelgais yw newid y system gyfan, ac wrth wraidd hynny, hoffwn weld rhagor o blant a phobl ifanc yn gallu byw gyda’u teuluoedd, ac yn eu cymunedau cartref, gyda llai’n gorfod derbyn gofal. Hoffem hefyd sicrhau bod y cyfnod y mae plant mewn gofal mor fyr â phosibl.
Rydym yn ymrwymedig i gadw teuluoedd gyda’u gilydd. Ein gweledigaeth yw ailgynllunio sut rydym yn gofalu am blant a phobl ifanc fel y gallwn wneud y gorau gallwn ni ar gyfer ein pobl ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau. Gwneir hyn drwy ddarparu gwasanaethau lleol, sydd wedi’u cynllunio’n lleol ac sy’n atebol yn lleol.
Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ceir ymrwymiad amlwg i ‘ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal’ fel elfen allweddol o’r agenda radical hon.
Bydd ein cynigion yn canolbwyntio i ddechrau ar y ddarpariaeth breifat o ofal preswyl i blant, ochr yn ochr â gofal maeth sector annibynnol.
Sefydlwyd y Bwrdd Rhaglen amlasiantaeth i barhau â’r gwaith technegol a datblygu i gefnogi ein hopsiynau deddfwriaethol, i lywio ein dull gweithredu yn y dyfodol ac i gyflawni sefydlogrwydd yn y farchnad.
Crynodeb o drafodaeth y Bwrdd Rhaglen – 6 Rhagfyr 2022
Cynnydd
Mae’r ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth ar ofal cymdeithasol a gofal iechyd parhaus wedi cau.
Rydym wedi cael ychydig dros 200 o ymatebion i gyd, gyda 151 o'r rhain yn ymwneud â chynigion deddfwriaethol i gefnogi'r agenda o ddileu elw. Bydd cyngor ar y prif negeseuon sy'n deillio o'r ymgynghoriad yn cael ei roi i Weinidogion yn fuan a bydd ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth.
Bydd Bwrdd Goruchwylio Gweinidogol yn cael ei sefydlu i gryfhau arweinyddiaeth a chyfeiriad gwleidyddol, ochr yn ochr â Grŵp Cyflawni newydd a fydd yn canolbwyntio ar gyflawni a monitro cynnydd.
- Bydd y Bwrdd Rhaglen Dileu Elw o Ofal yn parhau a bydd yn adrodd i'r Bwrdd Goruchwylio Gweinidogol.
- Rydym wrthi'n paratoi Map Trywydd i lywio gwaith y Grŵp Cyflawni.
- Bydd y Bwrdd Goruchwylio Gweinidogol, a gaiff ei gadeirio gan y Prif Weinidog yn cwrdd am y tro cyntaf ym mis Mawrth/Ebrill.
Cynhaliwyd Uwchgynhadledd plant sydd wedi cael profiad o ofal ar 3 Rhagfyr ac roedd pum Gweinidog a thros ddeugain o bobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal yn bresennol. Bydd datganiad, sy'n nodi'r camau arfaethedig, yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2023.
Datblygwyd drafft terfynol o'r Siarter Rhianta Corfforaethol a dylai aelodau'r Grŵp Gweithredu Rhianta Corfforaethol ei gymeradwyo ym mis Ionawr. Ar ôl i Weinidogion ei gymeradwyo, caiff cyfres o ddigwyddiadau a sesiynau ymgysylltu eu cynnal gyda'r sector cyhoeddus yn gynnar yn 2023, gan gynnwys y sector iechyd, addysg a thai.
Mae dadansoddiad ar y gweill i Strategaethau Comisiynu Lleoliadau'r Awdurdodau Lleol a chaiff adborth ei roi i Awdurdodau Lleol yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.
Mae Gweinidogion bellach wedi cytuno ar gyllid gwerth £68 miliwn i Awdurdodau Lleol ar gyfer dileu elw a diwygio radical dros y tair blynedd nesaf.
Ffrwd gwaith cam 2
Mae 3 ffrwd gwaith newydd wedi eu sefydlu i gyfrannu at y bwrdd rhaglen.
- Ffrwd Gwaith 1 - Ehangu a datblygu darpariaeth newydd Awdurdodau Lleol/Rhanbarthol.
- Ffrwd Gwaith 2 - Ehangu a Datblygu darpariaeth nid er elw newydd.
- Ffrwd Gwaith 3 - Pontio'r sector annibynnol/preifat.
Gwnaeth Ffrwd Gwaith 1 gwrdd am y tro cyntaf ym mis Tachwedd, gyda chyfarfodydd cychwynnol wedi’u trefnu ar gyfer Ffrwd Gwaith 2 a 3 ym mis Ionawr.
Effaith a risgiau
Mae'r Gofrestr Risg a'r Asesiad Effaith Integredig wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r ystod o gamau lliniaru sydd ar waith. Mae'r ddwy yn parhau i fod yn ddogfennau gweithredol a chânt eu diweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu sefyllfaoedd sy'n datblygu. Bydd yr ymatebion a geir i'r ymgynghoriad deddfwriaethol sylfaenol hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y ddwy ddogfen.