Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal: trafodaeth y bwrdd Hydref 2024
Diweddariad Hydref 2024 am waith y bwrdd rhaglen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y cefndir
Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Ein huchelgais yw newid y system gyfan ac, wrth ei gwraidd, rydym am weld mwy o blant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i fyw gyda’u teuluoedd ac yn eu cymdogaethau a bod llawer llai angen mynd i ofal. Rydym hefyd am sicrhau bod pobl ifanc yn treulio cyn lleied o amser mewn gofal ag sy’n bosibl.
Rydym wedi ymrwymo i gadw teuluoedd gyda’i gilydd. Ailgynllunio’r ffordd rydym yn gofalu am blant a phobl ifanc er mwyn gallu gwneud y gorau dros ein pobl ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau drwy ddarparu gwasanaethau yn lleol, sydd hefyd wedi’u cynllunio’n lleol ac sy’n atebol yn lleol, yw ein gweledigaeth.
Mae ein cynigion yn canolbwyntio, i ddechrau, ar ofal preswyl i blant sy’n cael ei ddarparu’n breifat, ochr yn ochr â gofal maeth a llety diogel y sector annibynnol.
Mae Bwrdd Rhaglen amlasiantaeth wedi’i sefydlu i fwrw ati â’r gwaith technegol a datblygu angenrheidiol i gefnogi ein hopsiynau deddfwriaethol, i ffurfio ein dull gweithredu ar gyfer y dyfodol ac i sefydlogi’r farchnad.
Crynodeb o drafodaeth Bwrdd y Rhaglen: 10 Hydref 2024
Y cynnydd o ran y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru):
- Roedd sesiynau craffu cyfnod 1 wedi dod i ben a disgwyliwyd adroddiadau gan y tri phwyllgor erbyn 11 Hydref. Byddai’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn arwain dadl ar egwyddorion cyffredinol y bil ar 22 Hydref.
- Yn amodol ar ganlyniad y bleidlais ar 22 Hydref, byddai cyfnod 2 (y cyfnod diwygio) yn dechrau wedi hynny gan barhau tan ganol mis Rhagfyr cyn y cyfnod diwygio pellach, cyfnod 3.
- Ers cyfarfod blaenorol Bwrdd y Rhaglen, mae’r gweinidog wedi ysgrifennu i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn gofyn am strategaethau comisiynu lleoliadau wedi’u diweddaru gan bob awdurdod lleol ac am amlinelliad o’u cynlluniau cyllido ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymatebion a dderbyniwyd hyd yma wedi bod yn ddefnyddiol i ddylanwadau ar ystyriaethau cyllidebol Llywodraeth Cymru er mwyn dileu elw ar gyfer blynyddoedd ariannol y dyfodol.
- Roedd cyfres o gyfarfodydd hefyd yn cael eu cynnal gyda phob awdurdod yn unigol i drafod eu cynlluniau er mwyn dileu elw a’u hanghenion cyllid tebygol.
- Mae’r cynlluniau ar gyfer gweithredu yn parhau i gael eu hystyried ac mae cynlluniau ar y gweill hefyd i Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru) ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol.
Cynllun y rhaglen genedlaethol a chynllun gweithredu cenedlaethol yr awdurdodau lleol:
Roedd swyddogion wedi llunio templed drafft ar gyfer cynllun y rhaglen genedlaethol a fyddai’n cael ei gyd-berchenogi gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd y Rhaglen – rhannwyd y templed hwn cyn y cyfarfod.
Roedd y cynllun yn nodi manylion lefel uchel ynghylch y cerrig milltir, y camau gweithredu a’r amserlenni y disgwylir iddynt gael eu datblygu.
I gyd-fynd â chynllun y rhaglen genedlaethol, byddai cynllun gweithredu cenedlaethol yr awdurdodau lleol. Y bwriad yw y bydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru yn cefnogi datblygiad y cynllun cenedlaethol hwn a bydd yn ymgorffori rhai cynlluniau ar lefel leol.
Cytunodd yr aelodau ar yr egwyddor o ddatblygu cynllun y rhaglen genedlaethol a fydd yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd y Rhaglen. Fodd bynnag, pwysleisiodd yr aelodau hefyd y byddai angen cynlluniau manwl pellach.
Cofrestr risgiau a chofnod o wersi a ddysgwyd:
Yng nghyfarfod blaenorol Bwrdd y Rhaglen, roedd swyddogion wedi tynnu sylw at newidiadau a wnaed i’r gofrestr risgiau. Adolygwyd y gofrestr unwaith eto i sicrhau ei bod yn adlewyrchu’r pryderon a godwyd drwy sesiynau craffu’r pwyllgor.
Roedd templed o’r cofnod o wersi a ddysgwyd wedi’i rannu â’r aelodau cyn cyfarfod y bwrdd. Diben y ddogfen hon oedd adlewyrchu lle y gellid dysgu gwersi wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Cynigiwyd y dylid rhannu’r gofrestr risgiau ag aelodau’r ffrydiau gwaith cyn y cyfarfodydd ffrydiau gwaith ac y gellid bwydo unrhyw risgiau sy’n benodol i feysydd arbennig wedi hynny i Fwrdd y Rhaglen drwy gadeiryddion y ffrydiau gwaith.
Cytunwyd yn gyffredinol fod y gofrestr risg gryno wedi’i diweddaru yn llawer haws i’w hadolygu a’i hystyried.
Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch y sgôr risg bresennol a roddir i sefydlogrwydd y farchnad ac roeddent yn teimlo y dylai’r sgôr fod yn uwch er mwyn adlewyrchu’r risgiau posibl yn y maes hwn.
Ni wnaed unrhyw sylwadau ar y cofnod o wersi a ddysgwyd ac felly cytunwyd ar y templed a rannwyd fel dogfen i’w hadolygu a’i diweddaru’n rheolaidd.
Cyfathrebu:
Dosbarthwyd dwy ddogfen ar ffurf drafft cyn y cyfarfod hwn er mwyn i’r aelodau eu hystyried a rhannu eu barn arnynt. Roedd y dogfennau hynny fel a ganlyn:
- dogfen gyfathrebu wedi’i theilwra ar gyfer plant a phobl ifanc, sy’n rhan o gyfres o ddeunyddiau cyfathrebu wedi’u targedu at grwpiau penodol a ddatblygir fel rhan o’r gwaith hwn
- canllaw ‘hawdd ei ddeall’ i’r bil, a oedd wedi’i ddatblygu yn sgil trafodaethau ynghylch dehongli a deall y bil
Nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu deunyddiau cyfathrebu eraill ar gyfer gofalwyr maeth a gweithwyr gofal preswyl. Byddai’r deunyddiau cyfathrebu hyn ar gael cyn i unrhyw ddeunyddiau cyfathrebu gael eu rhyddhau ar gyfer plant a phobl ifanc. O ganlyniad, byddai gan y rheini sy’n cefnogi plant a phobl ifanc yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i’w cefnogi ac i ateb unrhyw gwestiynau y gall fod ganddynt.
Teimlai’r aelodau y byddai angen mireinio’r ddwy ddogfen a rannwyd ymhellach cyn eu cylchredeg ymhlith eraill, a chytunwyd y byddai unrhyw sylwadau neu adborth penodol yn cael eu rhannu a’u hymgorffori.
Diweddariadau ar ffrydiau gwaith cyfnod 3:
Roedd cyfarfodydd ffrydiau gwaith wedi parhau o dan ‘gyfnod 3’, a chyfunwyd y ffrwd waith 1 a’r ffrwd waith 4 blaenorol yn un grŵp. I raddau helaeth, mae ffrydiau gwaith 2 a 3 yn aros yr un peth heblaw bod yr aelodaeth a’r rhaglenni gwaith wedi’u hadolygu ychydig.
Lluniwyd adroddiadau etifeddiaeth a dogfennau cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer pob ffrwd waith i’w trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.