Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae ein Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n disgrifio ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Ein huchelgais yw newid y system gyfan, ac yn ganolog i hynny rydym am weld mwy o blant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i fyw gyda’u teuluoedd ac yn eu bröydd eu hunain, gyda llawer llai yn gorfod derbyn gofal. Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau bod cyfnod gofal pobl ifanc mor fyr â phosibl.

Rydym wedi ymrwymo i gadw teuluoedd gyda’i gilydd. Ein huchelgais yw ail-gynllunio’r model a ddefnyddir i ofalu am blant a phobl ifanc, er mwyn inni allu gwneud y peth gorau ar eu cyfer nhw, a hefyd eu teuluoedd a’u cymunedau. Gwneir hyn drwy ddarparu gwasanaethau lleol, sydd wedi eu cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal’ fel elfen allweddol o’r agenda radical hon.

Mae ein cynigion yn canolbwyntio i ddechrau ar y gofal preswyl i blant sy’n ddarpariaeth breifat, ochr yn ochr â’r sector gofal maeth annibynnol.

Cafodd Bwrdd Rhaglen amlasiantaeth ei sefydlu i fwrw ymlaen â’r gwaith technegol a datblygu, er mwyn cefnogi ein hopsiynau deddfwriaethol, llywio ein dull gweithredu yn y dyfodol, a sicrhau sefydlogrwydd yn y farchnad.

Crynodeb o drafodaeth y Bwrdd Rhaglen – 29 Mehefin 2023

Cynnydd

Cafodd yr uwchgynhadledd gyntaf i’r rheini sy’n gadael gofal ei chynnal ar 3 Rhagfyr 2022, sef digwyddiad ar gyfer Gweinidogion Cymru a 50 o lysgenhadon a oedd wedi cael profiad o ofal.

Canlyniad yr uwchgynhadledd oedd datganiad a oedd yn disgrifio cydweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant. Cafodd y datganiad hwn ei arwyddo gan y Prif Weinidog a 4 cynrychiolydd o blith y llysgenhadon ifanc ar 10 Mai 2023.

Byddai’r Siarter Rhianta Corfforaethol yn cael ei chyhoeddi ar 29 Mehefin, a byddai Llywodraeth Cymru yn gwahodd cyrff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i ymuno ar sail wirfoddol, gan ddod yn “rhieni corfforaethol”. Byddai’r Siarter yn cael ei hanfon at aelodau’r Bwrdd.

Ar 25 Ebrill, rhoddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ymddiheuriad ffurfiol ar ran Llywodraeth Cymru am arferion mabwysiadu yn y gorffennol, sef yn y 50au, y 60au a’r 70au. Mae swyddogion bellach yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cymorth priodol ar gael pa fo angen.

Cafodd statws cyflogwr Cyfeillgar i Faethu ei ddyfarnu i Lywodraeth Cymru gan y Rhwydwaith Maethu.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Trosolwg Gweinidogol ar 4 Mai 2023 o dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog.

Cafodd y crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Bil Gofal Cymdeithasol arfaethedig, a oedd yn cynnwys pennod ar Ddileu Elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, ei gyhoeddi ar 22 Mehefin 2023. Mae’r crynodeb ar gael yma.

Fe wnaeth y Prif Weinidog ddatganiad ar 27 Mehefin 2023 ar gynlluniau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â deddfwriaeth yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol. Cadarnhaodd y cynlluniau ar gyfer Bil Gofal Cymdeithasol.

Ffrydiau gwaith cam 2

Mae’r tair ffrwd waith a sefydlwyd o dan Fwrdd y Rhaglen yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd er mwyn nodi camau y dylid eu cymryd i weithredu’r agenda, a rhoi cyngor i’r Bwrdd.

Cafodd dau is-grŵp eu creu o dan Ffrwd Waith 1 (ehangu a datblygu darpariaeth newydd awdurdodau lleol/rhanbarthol), gan ganolbwyntio ar y materion allweddol presennol sy’n ymwneud â gwasanaethau sy’n gweithredu heb fod yn gofrestredig, ac adeiladu Gweithlu Preswyl Awdurdodau Lleol.

Hefyd, mae is-grŵp yn cael ei greu o dan Ffrwd Waith 3 (pontio’r sector annibynnol/preifat) a fydd yn ystyried materion sy’n ymwneud ag asedau.

Effeithiau a risgiau

Mae’r Gofrestr Risgiau a’r Asesiad Effaith Integredig wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu rhai o’r prif bwyntiau a gododd o’r ymarfer ymgynghori, a bydd y rhain yn cael eu hadolygu’n barhaus.

Cyfathrebu

Nodwyd bod angen diweddaru’r cynllun cyfathrebu gan sicrhau ei fod yn barod i’w weithredu, gan fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi’r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer 2024.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn datblygu’r cynllun cyfathrebu ymhellach yn ystod y misoedd nesaf er mwyn sicrhau bod y negeseuon yn glir ac yn gyson.