Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Y cefndir

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Ein huchelgais yw newid y system gyfan, gyda’r nod o weld mwy o blant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i fyw gyda’u teuluoedd ac yn eu cymdogaethau, gan leihau'r nifer y mae angen iddynt gael eu lleoli o fewn y system ofal. Rydym am sicrhau bod y cyfnodau y mae pobl ifanc yn eu treulio mewn gofal mor fyr â phosibl.

Rydym wedi ymrwymo i gadw teuluoedd gyda’i gilydd. Ein gweledigaeth yw ailgynllunio ein ffordd o ofalu am blant a phobl ifanc er mwyn inni allu gwneud y peth gorau dros ein pobl ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau, drwy wasanaethau sy’n cael eu darparu a’u cynllunio’n lleol, ac sydd hefyd yn atebol yn lleol.

Mae ein cynigion yn canolbwyntio i ddechrau ar y gofal preswyl i blant a ddarperir yn breifat, ochr yn ochr â gofal maeth a llety diogel a ddarperir gan y sector annibynnol.

Mae Bwrdd Rhaglen amlasiantaeth wedi’i sefydlu i fwrw ymlaen â’r gwaith technegol a datblygu i gefnogi ein hopsiynau deddfwriaethol, llywio ein dull gweithredu ar gyfer y dyfodol, a sicrhau sefydlogrwydd yn y farchnad.

Crynodeb o drafodaethau Bwrdd y Rhaglen: 19 Chwefror 2025

Hynt y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

  • Cafodd egwyddorion cyffredinol y bil eu trafod a'u cytuno gan y Senedd ar 22 Hydref. Cwblhaodd y bil ei broses graffu cyfod 2 ar 28 Tachwedd, a chwblhaodd ei broses graffu cyfnod 3 ar 28 Ionawr eleni.
  • Yn y ddau gyfnod, cytunwyd ar holl welliannau'r Llywodraeth, ac ni chytunwyd ar unrhyw welliannau nad oeddent yn welliannau'r Llywodraeth.
  • Gosodwyd memorandwm esboniadol diwygiedig ac asesiad effaith rheoleiddiol yn dilyn cyfnod 2. Pasiwyd y bil gan y Senedd yn dilyn y ddadl cyfnod 4 ar 4 Chwefror 2025.
  • Roedd y bil bellach mewn pedair wythnos o 'gyfnod hysbysu', a'r gobaith oedd y byddai'r bil yn cael Cydsyniad Brenhinol ddiwedd mis Mawrth 2025. Byddai'r Seremoni Selio wedyn yn gweld y bil yn dod yn ddeddf.

Nid oedd unrhyw gwestiynau na sylwadau wedi eu codi ar hyn o bryd, a hysbyswyd yr Aelodau y gallent weld y bil fel y'i pasiwyd.

Cyfathrebu wedi'i dargedu gan Lywodraeth Cymru

Rhoddwyd diweddariad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y negeseuon canlynol a oedd yn cael eu datblygu a'u cwblhau er mwyn eu rhannu wrth i'r bil gael Cydsyniad Brenhinol, pan fo hynny'n hysbys.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Yn dilyn ystod eang o adborth a sylwadau, cafodd y fersiwn gyfathrebu hon ei mireinio a'i rhannu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod hwn.

Cyfathrebu â'r gweithlu gofal preswyl i blant

Roedd grŵp llai o dan ffrwd waith 1 wedi ystyried hyn yn fanwl, a rhannwyd fersiwn derfynol arfaethedig o'r testun er mwyn i'r aelodau ei hystyried.

Cyfathrebu â gofalwyr maeth

Roedd diweddariad cyfathrebu drafft ar gyfer gofalwyr maeth wedi cael ei rannu gyda grŵp bach o'r rhai sy'n ymwneud â'r maes hwn, er mwyn cael adborth cyn iddo gael ei gylchredeg yn ehangach ymysg aelodau Bwrdd y Rhaglen.

Roedd y digwyddiadau ymgysylltu eraill y bwriedir eu cynnal yn cynnwys gweithdai/sesiynau gwybodaeth tebyg ar gyfer darparwyr preifat. Byddai'r rhain yn cael eu cynnal yn Wrecsam a Chaerdydd ddechrau mis Ebrill.

Diben y sesiynau hyn fyddai ymdrin â rhai o'r cwestiynau allweddol y mae darparwyr preifat wedi eu codi ynghylch y ddeddfwriaeth.

Hefyd, byddai cynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal Cymru yn bresennol i ddarparu gwybodaeth am y camau ymarferol y byddai angen i ddarparwyr eu cymryd o safbwynt cofrestru.

Cofrestr risgiau a chofnod o wersi a ddysgwyd

Ar ôl cytuno yng nghyfarfod diwethaf Bwrdd y Rhaglen i rannu'r gofrestr risgiau gyda phob ffrwd waith cyn cyfarfodydd, cafwyd adborth a gwnaed argymhellion gan ffrwd waith 1 a 2 i ddiwygio nifer o'r sgoriau risg weddilliol a chamau gweithredu lliniaru a neilltuwyd. Cytunodd Bwrdd y Rhaglen ar yr argymhellion hyn, a chafodd y gofrestr risgiau ei chadarnhau.

Adroddiad gwybodaeth am y farchnad

Roedd Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad wedi ei baratoi gan Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru a'i rannu â'r aelodau cyn y cyfarfod.

Nododd yr adroddiad na welwyd fawr o symud na llawer o newidiadau ar ôl cwblhau'r bil.

Fodd bynnag, nodwyd yr angen i barhau yn arbennig o effro i newidiadau yn ystod y misoedd nesaf wrth i'r bil ddod yn ddeddf.