Neidio i'r prif gynnwy

Briff cyffredinol

Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal. Mae hwn yn un o nifer o ymrwymiadau i gyflawni gweledigaeth newydd ar gyfer gofal cymdeithasol plant, sy'n canolbwyntio ar werthoedd ac anghenion. Mae'n ymwneud â newid yn sylfaenol y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau i blant a'u teuluoedd drwy wasanaethau yn y gymuned sy'n diogelu ac yn hyrwyddo llesiant y person ifanc.

Ein nod yw bod llai o blant a phobl ifanc yn dod i mewn i ofal. I'r bobl ifanc hynny sy'n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol, hoffem sefydlu dull system gyfan er mwyn sicrhau eu bod yn parhau yn agos at eu cartref, yn gallu parhau i fod yn rhan o'u cymuned, a bod unrhyw gyfnod mewn gofal mor fyr â phosibl. Mae hyn oll yn gyson â diwallu eu hanghenion yn y modd gorau a chyflawni canlyniadau gwell.

Mae dileu elw o ofal yn ymwneud â throsglwyddo i fodel gofal nid-er-elw yng Nghymru. Ein nod yw sicrhau nad yw arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn llety ar gyfer plant â phrofiad o fod mewn gofal yn cael ei dynnu allan fel elw, ond yn hytrach, bod unrhyw arian dros ben yn cael ei ailfuddsoddi mewn gwasanaethau plant er mwyn cyflawni canlyniadau gwell, gwasanaethau cynaliadwy, a datblygiad proffesiynol y rhai sy'n gofalu am blant.

Mae llais y plentyn a budd pennaf plant a phobl ifanc yn hollbwysig. Yn rhannol, mae ein hymrwymiad yn ymateb i'r hyn y mae plant a phobl ifanc eu hunain wedi'i ddweud wrthym. Maent yn erbyn cael gofal gan sefydliadau preifat sy’n gwneud elw o’u profiadau nhw o fod mewn gofal, yn ogystal â phan fo buddiannau masnachol yn effeithio ar y modd y maent yn cael gofal.

Nid yw cyflawni'r ymrwymiad hwn yn golygu y bydd un darparwr yn cael ei ddisodli gan ddarparwr arall. Mae'n ymwneud ag ailgydbwyso ffurf, math a graddfa'r ddarpariaeth a byddwn yn ystyried y cydbwysedd rhwng gofal preswyl, gofal maeth, gofal gan berthynas a gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig. Bydd hyn yn cynnwys modelau gofal, cymorth cofleidiol a modelau perchnogaeth yn rhan o'n gweledigaeth ehangach ar gyfer gwasanaethau plant er mwyn sicrhau eu bod yn seiliedig ar anghenion, yn integredig, yn lleol ac yn fforddiadwy.

Rydym yn sylweddoli bod hyn yn ymrwymiad cymhleth i gyflawni newidiadau mawr. Rydym wedi sefydlu rhaglen waith gadarn ar y cyd â phartneriaid ar draws y sector i gyflawni'r rhain mewn modd sy'n lleihau unrhyw darfu, yn lliniaru risgiau ac yn diogelu lles a llesiant y rhai mewn gofal.

Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi ansefydlogi lleoliadau plant a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r sector i drawsnewid yn ofalus ein ffordd orau o ofalu am blant yng Nghymru.

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Mae Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a osodwyd gerbron y Senedd ar 20 Mai, yn amlinellu'r newidiadau deddfwriaethol a fydd yn ofynnol i helpu'r gwaith o gyflawni'n hymrwymiad i ddileu elw.

Bydd y bil yn cyfyngu ar y modd y caiff elw ei wneud gan wasanaethau cartrefi gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant, gwasanaethau llety diogel (mae hwn yn newid sydd wedi'i wneud ers ymgynghori at ddibenion paratoi at y dyfodol) a gwasanaethau maethu. Cyfeirir at y gwasanaethau hyn fel 'gwasanaethau plant o dan gyfyngiad'.

Bydd y bil hefyd yn gosod gofyniad ar ddarparwyr cofrestredig gwasanaethau o dan gyfyngiad (ac eithrio awdurdod lleol) i fod yn “endid nid-er-elw”. Diffinnir endid nid-er-elw fel a ganlyn:

(a) cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau
(b) sefydliad elusennol corfforedig
(c) cymdeithas gofrestredig elusennol
(d) cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau

Bydd hefyd yn ofynnol i endid nid-er-elw feddu ar amcanion neu ddibenion sy'n ymwneud yn bennaf â llesiant plant. Bydd rheoliadau hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu unrhyw ‘les cyhoeddus’ arall y mae rhaid i amcanion neu ddibenion endid nid-er-elw ymwneud yn bennaf ag ef.

Er mwyn sicrhau nad yw'r polisi yn cael ei danseilio gan arferion sy'n mynd yn groes i'w ysbryd a'i fwriad, bydd y bil hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu a yw darparwr yn berson addas a phriodol i gael ei gofrestru, ystyried taliadau afresymol neu anghymesur neu drefniadau ariannol a wneir gan endid nid-er-elw er budd person sy'n gysylltiedig â'r endid.

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar fywydau plant mewn lleoliadau gofal preswyl a maeth presennol, bydd trefniadau trosiannol yn caniatáu i ddarparwr cofrestredig er elw gwasanaeth plant o dan gyfyngiad barhau i weithredu ar ôl i'r darpariaethau ddod i rym, yn ddarostyngedig i amodau a osodir drwy reoliadau. Bydd gan Weinidogion Cymru bŵer, a arferir drwy reoliadau, i ddod â chofrestriad darparwyr er elw i ben ar adeg briodol.

Bydd y bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod digon o lety a ddarperir gan endidau nid-er-elw naill ai o fewn ei ardal neu'n agos ati. Yn ogystal, bydd gofyn i awdurdod lleol baratoi cynllun digonolrwydd blynyddol sy'n amlinellu (ymhlith materion eraill) sut y bydd yn cymryd camau tuag at leihau, ac at ddileu yn y pen draw, ddibyniaeth ar ddarparwyr er elw, lle bo hynny'n bosibl. Bydd y cynllun hwn yn amodol ar gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru a rhaid iddo gael ei gyhoeddi.

Bydd y bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol leoli plentyn mewn llety a ddarperir gan endid nid-er-elw oni bai ei fod o'r farn bod hynny'n anghyson â llesiant y plentyn. Ar adegau o'r fath, caiff awdurdod lleol leoli'r plentyn mewn lleoliad "atodol" (er elw). Fodd bynnag, bydd yn ofynnol cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Bydd gofynion cymeradwyo tebyg a fydd yn gymwys i leoliadau darparwyr yn Lloegr (ac eithrio lleoliadau â llety sy'n cael eu darparu gan awdurdod lleol, nad oes angen caniatâd ar eu cyfer).

Cwestiyniau cyffredin

Cwestiwn: Beth yw'r amserlenni ar gyfer rhoi'r newidiadau arfaethedig ar waith?

Y bwriad yw dod â darpariaethau perthnasol y bil i rym fel y bydd rhaid i ddarparwyr newydd sy'n cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru gael statws nid-er-elw o 1 Ebrill 2026 ymlaen.

Bydd darparwyr “er elw” presennol yn ddarostyngedig i gyfyngiadau ychwanegol o 1 Ebrill 2027 ymlaen, sydd i’w nodi mewn rheoliadau. Bydd y rhain yn caniatáu i ddarparwr cofrestredig er elw gwasanaeth plant o dan gyfyngiad barhau i weithredu, yn ddarostyngedig i ofynion ac amodau. Gall hyn gynnwys gosod amodau sy’n golygu bod darparwyr sy'n ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn cael eu cyfyngu i ddarparu lleoedd yn unig i blant y cymeradwywyd eu lleoliad gan Weinidogion Cymru o dan adran 81B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu osod amodau i gyfyngu ar yr amgylchiadau pan gaiff darparwyr o'r fath dderbyn lleoliadau gan awdurdodau lleol yn Lloegr (er enghraifft, i amgylchiadau lle mae angen lleoli brodyr a chwiorydd gyda'i gilydd).

Bydd diwedd y cyfnod pan fedr darparwyr er elw presennol weithredu hefyd yn cael ei nodi mewn rheoliadau dilynol. Bydd hyn yn cael ei bennu gan ystod o ffactorau, gan gynnwys hynt y broses o ddisodli darpariaethau er elw â darpariaethau nid-er-elw a’r amser y gellir osgoi neu leihau i’r eithaf y tarfu ar leoliadau i blant a darparwyr gwasanaethau.

Cwestiwn: A oes diffiniad o nid-er-elw?

Ystyr 'nid-er-elw' yw math o berchnogaeth a rheolaeth lle bydd unrhyw arian dros ben, ar ôl costau gweithredol a chostau eraill y cytunwyd arnynt, yn cael ei ailfuddsoddi yn y gwasanaeth neu'n cael ei gadw fel cronfa wrth gefn at ddibenion elusennol.

Diffinnir endid nid-er-elw fel a ganlyn:

(a) cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau
(b) sefydliad elusennol corfforedig
(c) cymdeithas gofrestredig elusennol
(d) cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau

Cwestiwn: A fu ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth arfaethedig?

Ym mis Awst 2022, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol i atgyfnerthu'r ymrwymiad i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal. Gallwch weld crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yma.

Cwestiwn: Pwy ydych chi wedi ymgysylltu â nhw i ddatblygu'r darpariaethau ym Mil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)?

Gan ystyried maint y gwaith sydd ei angen i gyflawni'r ymrwymiad, sefydlwyd Bwrdd Rhaglen, o dan gadeiryddiaeth Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae cynrychiolwyr o gartrefi gofal plant yn y sector preifat a sefydliadau maethu, yn ogystal â chynrychiolwyr o ddarparwyr sector cyhoeddus a'r trydydd sector, wedi dod ynghyd i weithio gyda'r llywodraeth, comisiynwyr gwasanaethau, Arolygiaeth Gofal Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, undebau llafur a Voices from Care.

Diben y bwrdd yw helpu i lunio a monitro'r gwaith darparu a gweithredu ac i asesu a lliniaru risgiau i lywio ein dull gweithredu a sicrhau sefydlogrwydd y farchnad. Bydd y Bwrdd Rhaglen yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd.

Rydym hefyd wedi sefydlu 4 ffrwd waith newydd i randdeiliaid o dan y Bwrdd Rhaglen i sbarduno cynnydd. Maent yn ymdrin â'r canlynol:

  • ehangu a datblygu darpariaeth awdurdod lleol / rhanbarthol newydd (gan gynnwys ystyried sut i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â gweithredu heb gofrestru a phwysau ar unwaith)
  • ehangu a datblygu darpariaeth nid-er-elw newydd
  • pontio'r sector annibynnol / preifat
  • cynllunio pontio ar gyfer plant a phobl ifanc unigol

Cwestiwn: Faint fydd hyn yn ei gostio?

Rydym yn buddsoddi £68 miliwn ychwanegol yn y sector yn ystod 2022 i 2025 i helpu awdurdodau lleol i feithrin capasiti mewnol ar gyfer darpariaeth gofal preswyl a maeth nid-er-elw, helpu i symud plant o ofal preswyl os yw hynny'n briodol, a darparu gwasanaethau wedi'u lleoli a'u cynllunio'n lleol, gan gynnwys darpariaeth arbenigol ar gyfer plant ag anghenion mwy cymhleth.

Er bod Llywodraeth Cymru yn wynebu sefyllfa ariannol heriol ac aneglur ar gyfer 2025 i 2026 a thu hwnt, rhagwelir y bydd Gweinidogion Cymru am wneud rhywfaint o ddarpariaeth ariannol i sicrhau cefnogaeth barhaus i'r agenda hon.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i lunio ar gyfer y bil hwn ac mae'n nodi'r goblygiadau ariannol dros gyfnod arfarnu o 10 mlynedd, sef rhwng 2025 i 2026 a 2034 i 2035. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn asesu costau a manteision dau brif opsiwn: busnes fel arfer a chyflwyno darpariaethau'r bil.

Yn gyffredinol, bydd amcangyfrifon costau cychwynnol ar gyfer y broses bontio yn gostwng dros gyfnod o dair blynedd (rhwng 2025 i 2026 a 2027 i 2028). Bydd maint y rhain yn amrywio yn ôl nifer y darparwyr a fydd yn dewis parhau i ddarparu gwasanaethau. Rydym yn amcangyfrif y bydd costau'r broses bontio i awdurdodau lleol rhwng £185.7 miliwn a £245.5 miliwn yn ystod y cyfnod hwnnw. Byddai'r mwyafrif yn gostau cyfalaf rhwng oddeutu £107.1 miliwn a £142.8 miliwn.

Mae'r rhain yn fuddsoddiadau sylweddol ond byddant o fudd yn y tymor hir. Rydym yn rhag-weld y bydd yr arbedion hynny yn cyfateb i rhwng £184 miliwn a £253.9 miliwn rhwng 2025 i 2026 a 2034 i 2035.

Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi, er y bu’n rhaid tybio bod y lleoliadau yn rhai tebyg am debyg er mwyn gwneud y cyfrifiadau cost hyn, na fyddem yn disgwyl i hyn ddigwydd gan fod y polisi dileu elw yn bodoli mewn cyd-destun ehangach o annog y sector i symud oddi wrth ddibyniaeth ar leoliadau preswyl a thuag at ffyrdd eraill o ddiwallu anghenion plant.

Mae hyn yn golygu y gallai’r gofynion ar gyfer lleoliadau gofal preswyl i blant yn y dyfodol fod yn llai na’r hyn a ragwelwyd, ac o ganlyniad y bydd y costau ar gyfer sefydlu’r ddarpariaeth yn llai nag yn y sefyllfa uchod.

Cwestiwn. A oes unrhyw gynlluniau i estyn y cynigion i wasanaethau gofal cymdeithasol eraill?

Bydd angen inni bwyso a mesur profiadau ac effaith ein diwygiadau cyn penderfynu a ddylid eu hestyn i wasanaethau gofal cymdeithasol eraill i blant.

Nid oes unrhyw gynlluniau i wneud newidiadau i drefniadau gofal a chymorth i oedolion. Mae gwahaniaethau sylfaenol, materol, strwythurol ac eraill rhwng gofal cymdeithasol plant a gofal cymdeithasol oedolion sy'n golygu ei bod yn angenrheidiol trin y ddwy ran o'r sector yn wahanol.