Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau recriwtio er mwyn canfod talent a sgiliau ar gyfer dros 100 o swyddi newydd sydd ar eu ffordd i Dde-ddwyrain Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd y Prif Weinidog fod y gwaith o sefydlu'r ganolfan newydd hon, a fydd yn costio £30m, yn yr arfaeth fis Gorffennaf diwethaf. Mae'r ganolfan yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac mae disgwyl iddi greu 300 o swyddi sgiliau uchel sy'n talu'n dda. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhan o ymgyrch recriwtio leol i helpu i lenwi'r haen gyntaf o’r swyddi gwag sy'n cael eu creu.

Dyma fanylion 3 digwyddiad recriwtio cychwynnol gan CAF, sy’n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, Coleg Gwent, Canolfan Waith Casnewydd, Gyrfa Cymru a'r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd. Anogir pobl i ddod i’r digwyddiadau:

  • 1 Mawrth 2018 – Coleg Gwent (Campws Dinas Casnewydd): 12:00pm – 7:00pm
  • 7 Mawrth 2018 – Canolfan Waith Casnewydd (Charles Street): 10:00am – 1:00pm
  • 8 Mawrth 2018 – Gyrfa Cymru, Ystrad Mynach (Canolfan Hamdden Sue Noake) 10:00am-2:30pm

Mae'r ganolfan gydosod newydd yn cael ei chynllunio fel y gall CAF adeiladu ystod o drenau gwahanol, gan gynnwys trenau diesel aml-uned (DMUs), trenau trydan aml-uned (EMUs), tramiau a threnau cyflym iawn. Bydd y digwyddiadau yn hysbysebu nifer fawr o gyfleoedd am waith amrywiol gyda’r cwmni, megis: technegwyr, peirianwyr, arbenigwyr logisteg a gweithredwyr cynhyrchu a phrofi. Bydd hefyd gwaith ym maes cyfathrebu, y gyflogres, cyllid, logisteg a chaffael. 

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Mae'r ffaith bod Casnewydd wedi gallu denu'r ganolfan newydd yma, er gwaetha'r gystadleuaeth gref gan dros 100 o leoliadau eraill yn y DU, yn bluen fawr yn het ein heconomi. Bydd hyn yn hwb arall i'n sector gweithgynhyrchu sydd eisoes yn sector sylweddol iawn. Bydd y swyddi sydd ar gael yn hwb anferth i'r economi leol  ac rwy'n annog cymaint o bobl â phosibl i ddod i'r digwyddiadau hyn, gan fod y cyfleoedd mor amrywiol.”

Dywedodd Richard Garner, Cyfarwyddwr CAF yn y DU: “Fel busnes deinamig, sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n tyfu'n gyflym, rydym yn falch iawn ein bod yn dod o hyd i'r dalent orau. Byddwn yn ymroi i ddatblygu'n gweithwyr er mwyn iddynt gynnal lefel uchel o arbenigedd a phroffesiynoldeb”.

“Ein cred yw mae ein pobl yw ein cryfder mwyaf. Mae pawb sy'n gweithio i ni yn cyfrannu at lwyddiant y cwmni. Rydym yn chwilio am bobl dalentog i ymuno â'r tîm. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion brwdfrydig ac awyddus sy'n ysu am gyfrifoldeb ac yn edrych am yrfa werthfawr a heriol.  Ar ôl eich gwaith caled a'ch ymroddiad, gallwch ymuno â brand byd-eang mewn cyfnod cyffrous yn ein hanes. Cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau ymhellach mewn amgylchedd gwaith cydweithredol a chefnogol.”

Bydd y ganolfan newydd, y cyntaf yng Nghymru yn galluogi'r cwmni i gydosod, profi a chomisiynu cerbydau newydd. Bydd y capasiti yno i ymgymryd â phrosiectau gweithgynhyrchu yn y dyfodol yn ogystal â gwneud gwaith cynnal a chadw a thrin cerbydau.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y digwyddiad recriwtio hwn, e-bostiwch careers@cafrail.co.uk