Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Roedd Cynllun Rheoli’r Coronafeirws diwygiedig (Mawrth 2021) yn caniatáu cynnal a gwerthuso nifer o ddigwyddiadau peilot wrth i Gymru symud i lefelau rhybudd is. Mae hyn yn dilyn rhaglen digwyddiadau peilot Cam 1 a oedd wedi’i chyfyngu i hyd at 100 yn bresennol yn gynnar yn hydref 2020 (tri digwyddiad ym meysydd chwaraeon moduro, triathlon a theatr awyr agored).

Roedd rhaglen digwyddiadau peilot Cam 2 yn canolbwyntio ar ailagor sectorau gyda’r nod o ddylanwadu ar brosesau, gweithdrefnau a chanllawiau a fyddai’n cefnogi’r broses o ddechrau cyflwyno digwyddiadau’n ddiogel yng Nghymru eto, a hynny ar sail capasiti sy’n cynyddu’n raddol.  Byddai rheoli rhaglen digwyddiadau peilot ddiogel a llwyddiannus yn dylanwadu ar ddychwelyd torfeydd mwy i stadia, theatrau a lleoliadau eraill yn raddol.

Mae’r rhaglen wedi rhedeg ochr yn ochr â’r Event Research Programme (ERP) yn Lloegr, ond nid i’r un graddau nac at yr un dibenion ymchwil. Fodd bynnag, y nodau cyffredin oedd nodi’r risgiau sy’n gysylltiedig â chynulleidfaoedd yn dychwelyd i leoliadau mewn gwahanol gyd-destunau a phrofi mesurau lliniaru posibl, gan gynnwys gwahanol ddulliau o gadw pellter cymdeithasol a phrotocolau prawf wrth gyrraedd.  Rydym wedi ymgysylltu â thîm yr ERP i rannu gwybodaeth ac mae’r ddwy raglen wedi dod i rai casgliadau cyffredin, er enghraifft o ran mannau cyfyng a’r heriau mewn cysylltiad â threfniadau profi.  

Roedd Digwyddiadau Cymru wedi gweithio gyda’r diwydiant digwyddiadau a phartneriaid lleol gan gynnwys lleoliadau, perchnogion digwyddiadau ac awdurdodau lleol i ddatblygu rhaglen dreigl o ddarpar ddigwyddiadau a fyddai’n ei gwneud hi’n bosibl profi’r canllawiau; yn helpu i nodi problemau, heriau a chyfleoedd; yn ei gwneud hi’n bosibl arsylwi ar risgiau ymylol fel teithio a chymysgu cyn ac ar ôl y digwyddiad; yn gyfle i brofi gweithrediad mesurau lliniaru fel profion COVID cyflym (llif unffordd) lle bo’n briodol, ac ati. Gwahoddwyd trefnwyr digwyddiadau i gyflwyno cynigion ar gyfer digwyddiad peilot – naill ai o’u portffolio presennol neu brosiect newydd, a dewiswyd o restr dreigl o ddarpar ddigwyddiadau.

Dewiswyd digwyddiadau i gynrychioli amrywiol fathau o ddigwyddiadau – dan do/awyr agored, chwaraeon/theatr, nifer y rhai a fyddai’n bresennol, presenoldeb arfaethedig pob un o’r mesurau lliniaru (ee profi, masgiau, cadw pellter cymdeithasol ac ati).  Cafodd lleoliadau/digwyddiadau ledled Cymru eu hystyried fel rhan o raglen dreigl o gyfleoedd ond cafodd rhai eu diystyru o ganlyniad i faterion gweithredol, fel Venue Cymru a Gŵyl Gomedi Machynlleth.  Dyma’r rhaglen derfynol o ddigwyddiadau peilot ac roeddem yn ddiolchgar iawn am gymorth a chydweithrediad pawb a gymerodd ran:

  • Gweddïau Eid – 13 Mai 2021, Castell Caerdydd (eistedd yn yr awyr agored, targedu cael 500 yn bresennol, 150 yno yn y pen draw)
  • Gŵyl Tafwyl – 15 Mai 2021, Castell Caerdydd (eistedd yn yr awyr agored, targedu cael 500 yn bresennol, 494 yno yn y pen draw)
  • Gêm ail-gyfle Clwb Pêl-droed Casnewydd – 18 Mai 2021, Rodney Parade, Casnewydd (mewn stadiwm, eistedd, 950 yn bresennol)
  • Digwyddiad Busnes Celtic Manor Resort – 20 Mai 2021, Celtic Manor Resort, Casnewydd (dan do, eistedd, targedu cael 100 yn bresennol, 86 yno yn y pen draw)
  • Gêm ail-gyfle Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe – 22 Mai 2021, Stadiwm Liberty, Abertawe (mewn stadiwm, eistedd, targedu cael 3,500 yn bresennol, 2,627 yno yn y pen draw)
  • Perfformiad ‘We Love Bees’ i’r teulu yn Theatr Brycheiniog – 3-4 Mehefin 2021, Aberhonddu (awyr agored, eistedd, targedu cael 250 yn bresennol, 100 yno yn y pen draw)
  • Gêm griced Morgannwg v Swydd Gaerhirfryn: 3-6 Mehefin 2021, Gerddi Sophia, Caerdydd (mewn stadiwm, eistedd, targedu cael 1,000 yn bresennol, 241 yno yn y pen draw)
  • Gêm bêl-droed Cymru v Albania – 5 Mehefin 2021, Stadiwm Dinas Caerdydd (mewn stadiwm, eistedd, targedu cael 6,500 yno, 3,607 yno yn y pen draw)
  • Triathlon Cymru – 12 Mehefin 2021, Abergwaun, Sir Benfro (awyr agored, targedu cael 500 o gystadleuwyr, 381 o gystadleuwyr yn y pen draw)

Mae adroddiadau ar ddigwyddiadau unigol gan y trefnwyr ac arsylwyr wedi dylanwadu ar y crynodeb hwn o’r canfyddiadau. Ar ben hynny, arsylwyd ar ymddygiad mewn nifer o ddigwyddiadau peilot. Roedd yr arsylwyr yn monitro ymddygiad cwsmeriaid ac i ba raddau yr oeddent yn cydymffurfio â’r mesurau lliniaru COVID-19 a oedd ar waith (ee cadw pellter cymdeithasol, defnyddio masgiau wyneb, hylendid dwylo) er mwyn asesu sut roedd y canlynol yn effeithio arnynt:

  • Cynllun rheoli’r digwyddiad (ee cynllun rheoli’r rhai sy’n bresennol, rhannu’r rhai sy’n bresennol yn garfannau)
  • Dyluniad amgylcheddol (ee ymyriadau COVID-ddiogel penodol: marciau ar y llawr, rhwystrau ffisegol, systemau unffordd)
  • Cyd-destun yn y lleoliad (ee mynedfeydd ac allanfeydd, consesiynau, toiledau, ‘mannau cyfyng’ ffisegol)
  • Dylanwadau staff a phobl (ee ymddygiad stiwardiaid/staff, hyfforddiant, normau cymdeithasol)
  • Amser (ee cynefino/ymgyfarwyddo, blinder, rhyddhau rhag ataliad)

Er nad ymchwil oedd diben y digwyddiadau peilot, mae partneriaid iechyd y cyhoedd a diogelu iechyd wedi gwneud y pwynt y gall arsylwi parhaus ar ymddygiad mewn digwyddiadau helpu i nodi sefyllfaoedd risg penodol lle mae angen gwneud ymdrech ychwanegol – ymddygiad pobl wrth giwio, er enghraifft. Yn ogystal â hynny, gall ffactorau eraill fel data ar ansawdd aer dan do ddarparu dealltwriaeth ehangach a darlun mwy cywir o risg, yn enwedig pan fyddwn yn ystyried y gwahanol risgiau rhwng digwyddiadau dan do ac awyr agored, ac mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd awyru da. Felly, roedd arsylwi ar ymddygiad (Tafwyl a Celtic Manor) a rhywfaint o fonitro CO2 mewn un digwyddiad dan do (Celtic Manor) yn rhan o’r rhaglen beilot.  

I gefnogi’r gwaith o ddarparu’r digwyddiadau peilot, roedd lefel uchel o ymgysylltu â chyfranogwyr/y rhai a fyddai’n bresennol cyn digwyddiadau, lefelau uchel o stiwardio rhagweithiol a lefelau uchel o ymgysylltu ag awdurdodau lleol/y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch/Bwrdd Iechyd Lleol/Llywodraeth Cymru, gan gynnwys sefydlu bwrdd prosiect Llywodraeth Cymru i helpu i roi cyngor ynghylch cynllunio a darparu pob digwyddiad. Roedd y bwrdd prosiect yn cynnwys cyd-weithwyr o dimau iechyd y cyhoedd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Crynodeb

Roedd cyfanswm o 8,636 o bobl yn bresennol ar draws y naw digwyddiad. Roedd bron pob un o’r digwyddiadau wedi methu cyrraedd y targed o ran capasiti. Gellir priodoli hyn i nifer o ffactorau logistaidd ac ymddygiadol, gan gynnwys natur fyr-rybudd y digwyddiadau, y gweithdrefnau profi sy’n anghyfarwydd i bobl ac yn cael eu hystyried yn ormod o faich, tywydd gwael, a nerfusrwydd cyffredinol ynglŷn â dychwelyd i amgylchedd digwyddiadau.  Bydd hyder defnyddwyr yn fater allweddol o hyn allan.

Diolch i ymdrechion aruthrol trefnwyr y digwyddiadau a rhanddeiliaid eraill, mae’n ymddangos bod yr holl ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal mewn modd mor ddiogel â phosib ac wedi cydymffurfio â’r canllawiau a/neu’r mesurau lliniaru yr oedd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch wedi cytuno arnynt. Mae’n anodd dweud yn sicr ond nid oes tystiolaeth sy’n awgrymu bod unrhyw gynnydd sydyn mewn cyfraddau heintio ar ôl y digwyddiadau.

Roedd pob digwyddiad wedi cydymffurfio’n dda â’r mesurau lliniaru a oedd ar waith yno, fel profi cyn y digwyddiad, cadw’r pellter cymdeithasol gofynnol, aros mewn grwpiau o chwech, gwisgo masgiau wyneb ac ati. Er enghraifft, yn un o’r digwyddiadau, gwnaeth profi cyn y digwyddiad arwain at ganlyniad positif i werthwr bwyd cyn y digwyddiad, gan atal trosglwyddiad posibl yn ystod y digwyddiad. Mae’r ymddygiadau olaf a nodwyd yn ddibynnol iawn ar yr amgylchiadau ac roedd cydymffurfedd, fel gwisgo masgiau, wedi lleihau gydag amser mewn rhai digwyddiadau.  

Mae’n anodd dweud yn sicr ond nid oes tystiolaeth sy’n awgrymu bod unrhyw frigiad wedi deillio o’r digwyddiadau a gynhaliwyd. Cynhaliwyd y digwyddiadau hyn yn erbyn cefndir o gyfraddau cymharol isel o COVID-19 yn y gymuned. Cafodd pawb a fyddai’n bresennol eu hatgoffa o’r angen i gadw llygad am symptomau ac i beidio â dod pe bai rhai’n dod i’r amlwg. Felly dylid dehongli unrhyw ganfyddiadau ynghylch y risg o drosglwyddo yn ofalus. Er bod profi cyn y digwyddiad yn broses sgrinio i atal unigolion wedi’u heintio rhag dod i ddigwyddiadau, dim ond pump o’r naw digwyddiad oedd wedi profi cyn y digwyddiad. 

O ran y digwyddiadau llai o faint cychwynnol (Gweddïau Eid, Tafwyl, gêm ail-gyfle Casnewydd a digwyddiad busnes Celtic Manor), yn y 14 diwrnod canlynol nid oedd y gwasanaethau profi ac olrhain wedi nodi unrhyw achos a gadarnhawyd a oedd wedi bod i ddigwyddiad prawf. Ar gyfer gêm ail-gyfle Abertawe, ffurfiwyd cysylltiad rhwng y nifer uchaf erioed o bobl a oedd yn bresennol drwy ddata gwyliadwriaeth arferol ar achosion a gadarnhawyd, a dim ond un achos a nodwyd yn y 14 diwrnod ar ôl y digwyddiad. Nid oes modd gwybod a oedd yr achos hwn wedi cael ei heintio yn y digwyddiad.

I sicrhau llwyddiant roedd lefelau uchel o ymgysylltu rhwng cyfranogwyr/y rhai a fyddai’n bresennol cyn digwyddiadau, lefelau uchel o stiwardio rhagweithiol (ond mae pryderon ynglŷn ag argaeledd a chost stiwardiaid ar ôl COVID) a lefelau uchel o ymgysylltu ag awdurdodau lleol/y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch/Byrddau Iechyd Lleol/Llywodraeth Cymru.  Roedd hyn yn angenrheidiol er mwyn gallu gwneud yr ymdrech fwyaf i gefnogi llwyddiant. Mae’n anodd gweld sut bydd y lefelau ymgysylltu hyn yn gynaliadwy yn y dyfodol wrth i gapasiti dyfu i lefelau sy’n fasnachol hyfyw ac mae pryder o hyd y bydd cwsmeriaid yn troi’n ôl at ymddygiadau blaenorol wrth i bresenoldeb ddod yn fwy rheolaidd, cyfarwydd a dibryder.  Dengys hyn bod angen i drefnwyr digwyddiadau ystyried cyfuniad o weithgareddau sy’n dilyn yr hierarchaeth rheolaeth (gweler Ffigur 5 yn Atodiad A). Er enghraifft, trefn brofi; mireinio mesurau ailstrwythuro amgylcheddol fel rhwystrau ffisegol, systemau unffordd; hybu/galluogi cydymffurfedd; cymesuredd â’r Lefel Rhybudd ar y pryd. 

Yn y dyfodol, gan ystyried y broses o gyflwyno’r brechlyn (ac amrywiolynnau sy’n peri pryder), y defnydd posibl o dystysgrifau brechu a phrofion llif unffordd gartref, bydd y cyfrifoldeb yn dal ar drefnydd y digwyddiad i sicrhau digwyddiad sy’n rheoli’r risg o COVID gan ystyried canllawiau ac ati, gydag ymyriadau gan yr awdurdod lleol yn ôl yr angen, ee ar sail gwybodaeth leol. Bydd ymgysylltu’n gynnar â’r awdurdod lleol yn ffactor darparu allweddol, yn enwedig oherwydd bydd rheidrwydd ar wahanol ardaloedd i ystyried gwahanol ffactorau risg, fel y cyfraddau ar y pryd.

Rydym hefyd yn cydnabod, oherwydd nifer isel yr achosion pan gynhaliwyd y digwyddiadau peilot, na ellir cyffredinoli’r canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg yn awtomatig i fathau eraill o ddigwyddiadau, i lefelau uwch o ddigwyddedd COVID-19 nac i bresenoldeb amrywiolynnau eraill.

Y prif ganfyddiadau

Profi 

Un o’r agweddau allweddol ar raglen beilot Cam 2 oedd y potensial i ddefnyddio profion i hwyluso ailagor digwyddiadau. Roedd cynrychiolwyr y sector yn credu y byddai profi cyn y digwyddiad a/neu ar y safle yn caniatáu i ddigwyddiadau fwrw ymlaen hyd yn oed pan fyddai cyfraddau trosglwyddo yn uwch.  Nid oedd dull gweithredu hollgynhwysfawr ar gyfer profi; gan ddilyn yr asesiadau risg manwl ar gyfer pob digwyddiad a thrafodaethau manwl â’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch/Byrddau Iechyd Lleol, roedd angen profi ar gyfer nifer o ddigwyddiadau fel rhan o’r mesurau lliniaru i leihau trosglwyddiad:

  • Gweddïau Eid 
  • Tafwyl
  • Morgannwg v Swydd Gaerhirfryn
  • Cymru v Albania

Y drefn brofi ar gyfer y pedwar digwyddiad uchod oedd prawf adwaith cadwynol polymerasau (PCR) hyd at 5 diwrnod cyn y digwyddiad a phrawf llif unffordd (LF) hyd at 24 awr cyn y digwyddiad.

Digwyddiad busnes Celtic Manor Resort oedd y pumed digwyddiad lle defnyddiwyd profion. Yn y digwyddiad hwn, y gofyniad oedd prawf PCR hyd at 5 diwrnod cyn y digwyddiad a phrawf LF ar y safle wrth gyrraedd y lleoliad. 

Roedd nifer isel o enghreifftiau lle roedd profi cyn y digwyddiad wedi atal trosglwyddiad gan fod rhai a fyddai’n bresennol ac un contractwr wedi cael canlyniad positif cyn y digwyddiad, ac wedi tynnu’n ôl.  Yn ogystal â hynny, roedd un a oedd yn bresennol wedi cael prawf LF negatif ac wedi teithio i’r digwyddiad ond wedi cael canlyniad ei brawf PCR yn y digwyddiad, ac wedi dychwelyd adref ar unwaith.  Roedd wedi cael canlyniad positif rai misoedd ynghynt ac roedd y profion dilynol yn awgrymu ei fod yn haint gweddilliol ond nid yn heintus mwyach.  Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw ganlyniad prawf nodedig arall.

Gofynnwyd i drefnwyr y digwyddiadau a’r rhai a oedd yn bresennol lenwi arolwg ar ôl y digwyddiad lle roedd profion wedi’u cynnal.  Roedd adborth yr arolygon hyn yn dangos:

  • bod y rhai a oedd yn bresennol yn fodlon ar y cyfan ar y broses archebu profion neu gofrestru a gwneud prawf gartref.  Yn sgil y digwyddiadau mae’r broses archebu wedi’i gwella.
  • roedd y rhai a oedd yn bresennol yn teimlo’n gadarnhaol am brofi fel ffordd o’u helpu i deimlo’n ddiogel yn y digwyddiad.
  • mae’r rhai a oedd yn bresennol yn fodlon gwneud profion i fynd i ddigwyddiadau yn y dyfodol.

Fodd bynnag, roedd yr adborth cadarnhaol wedi dod gan y rhai a oedd wedi dewis gwneud profion er mwyn mynd i’r digwyddiad.  Dywedodd trefnwyr y digwyddiadau fod y diddordeb yn y digwyddiad wedi gostwng ar ôl i bobl ddeall y gofynion profi yn llawn. Gallai hyn fod wedi effeithio ar allu digwyddiadau i gyrraedd eu targed o ran capasiti, ee Morgannwg v Swydd Gaerhirfryn lle mai’r targed oedd 1,000 o bobl yn bresennol ond mai 241 oedd yno yn y pen draw. Ond mae’n bosibl nad trefniadau profi oedd yr unig ffactor; rydym yn deall bod hyder defnyddwyr i fynd i ddigwyddiadau yn un arall, a chafodd y digwyddiadau hynny lle nad oedd angen gwneud profion drafferth llenwi hefyd. 

Er bod nifer isel iawn o achosion cadarnhaol o ganlyniad i gyffredinrwydd ar y pryd, llwyddwyd i osgoi trosglwyddo drwy’r digwyddiadau pan nodwyd contractwr drwy’r broses brofi.  Roedd un a fyddai’n bresennol mewn digwyddiad arall wedi cael canlyniad positif cyn y digwyddiad hefyd.

O ran y digwyddiadau mwy mewn stadia, roedd y broses brofi’n wynebu heriau gweithredol sylweddol o ganlyniad i ddosbarthu a sicrhau bod labordai’n gallu prosesu profion mewn pryd.  Roedd gwneud prawf PCR gartref yn golygu bod rhaid gwneud y prawf 3-5 diwrnod cyn y digwyddiad i ganiatáu amser i ddychwelyd y canlyniad.  Roedd hyn yn rhoi ffenestr fer i labordai brosesu nifer sylweddol uwch o brofion.  Nid oedd modd gwneud profion LF fwy na 24 awr cyn y digwyddiad ac wrth eu cysylltu â thocynnau electronig, roedd unrhyw broblemau TG yn y cyfnod hwnnw’n effeithio ar y nifer a oedd yn gallu llwytho eu e-docynnau i lawr.

Roedd hi’n hanfodol cyfathrebu â’r rhai a fyddai’n bresennol i sicrhau eu bod yn deall y gofynion profi ac i’w cefnogi drwy’r broses.

Er bod y rhai a oedd yn bresennol wedi adrodd profiad profi cadarnhaol ar y cyfan ar gyfer digwyddiadau cam un, mae nifer o faterion i’w hystyried ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol:

  • Y broses brofi yn rhy feichus

Roedd yr adborth o bob digwyddiad yn dangos bod y diddordeb wedi gostwng yn sylweddol ar ôl i bobl ddeall y gofynion profi.  Nid oedd hyn yn broblem i Tafwyl oherwydd bod rhestr aros yn ei lle ond ym mhob digwyddiad arall roedd y nifer terfynol yn sylweddol is na’r disgwyl.  Gallai hyn fod o ganlyniad i nifer o resymau, fel anfodlonrwydd i fynd i ddigwyddiadau ar raddfa fwy, ac o ran gŵyl Eid roedd y tywydd yn wael ar y diwrnod, ond roedd trefnwyr y digwyddiadau wedi dweud bod y trefniadau profi yn ffactor dylanwadol.

  • Eithrio digidol

Roedd y broses brofi a systemau tocynnau’r digwyddiadau peilot yn gwbl ddigidol, ac yn ddibynnol ar unigolion yn defnyddio ffonau clyfar, a fyddai’n achosi i rai grwpiau demograffig gael eu heithrio’n ddigidol mewn digwyddiadau yn y dyfodol.  Roedd yr adborth o Eid yn y Castell a gêm griced Morgannwg yn nodi bod y rhai a oedd yn bresennol wedi cael cymorth gan eu teuluoedd ar gyfer y broses brofi a thocynnau.  Roedd diweddariad ar iPhones ar ddiwrnod gêm Cymru wedi cael effaith sylweddol ar y system tocynnau digidol, gan achosi tagfeydd ger mynedfeydd wrth i stiwardiaid ddelio â’r broblem. 

  • Materion gweithredol

Cafodd y digwyddiadau peilot eu dynodi a’u trefnu i brofi elfennau penodol o ailagor y sector digwyddiadau, fel torfeydd mwy, a sut byddai’r broses brofi’n helpu pobl i ddychwelyd i ddigwyddiadau’n ddiogel.  Cafodd nifer o heriau gweithredol eu fflagio drwy gydol y broses:

Roedd cost sylweddol yn gysylltiedig â phrofi yn y digwyddiadau peilot, gyda phrofion PCR ac LF yn ofynnol mewn pum digwyddiad. 

O ganlyniad i’r amserlen, nid oeddem yn gallu defnyddio sianeli dosbarthu pecynnau prawf cartref yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac roeddem yn dibynnu ar Stadiwm Dinas Caerdydd i ddosbarthu’r pecynnau profion PCR ac LF cartref ar gyfer y ddau ddigwyddiad mwy o faint yng Nghaerdydd.  Roedd y costau dosbarthu’n sylweddol, yn defnyddio llawer o adnoddau ac yn anymarferol ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. 

Byddai profion PCR mewn digwyddiadau mwy o faint yn creu heriau o ran capasiti labordai.  Ar y pryd, roedd nifer y profion symptomatig yn isel ond byddai digwyddiadau mawr yn rhoi pwysau diangen ar seilwaith labordai pe bai nifer y profion yn cynyddu.

Heb seilwaith profion asymptomatig, gwnaed yr holl brofion LF gartref.  Gallai hyn fod wedi arwain at brofion yn cael eu gwneud yn anghywir. Cofrestrwyd nifer uwch o brofion annilys a chanlyniadau ffug.

Gall gwirio canlyniadau prawf pob person i ganiatáu mynediad i ddigwyddiad arwain at dagfeydd a thyrru sylweddol ger mynedfeydd. Mae hyn yn creu risg iechyd y cyhoedd a risgiau o ran diogelwch y cyhoedd yn ogystal â therfysgaeth.  Gallai samplo ar hap fod yn un opsiwn mewn mynedfeydd i leihau oedi ond bydd angen gwneud rhagor o waith i ystyried yr opsiwn hwn o ran logisteg a moeseg.

Arsylwi ar y rhai a oedd yn bresennol

Roedd y rhaglen digwyddiadau peilot yn mynd ati’n fwriadol i ymgysylltu â gwahanol fathau o bobl a oedd yn bresennol yn y digwyddiadau o ran oedran, demograffeg ac ati. Cynhaliwyd ymchwil arsylwadol yn benodol drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn dau ddigwyddiad – Tafwyl a Celtic Manor. Roedd parau o arsylwyr wedi monitro ymddygiadau personol allweddol o ran diogelu rhag COVID (cadw pellter cymdeithasol, defnyddio masgiau wyneb, hylendid dwylo) er mwyn asesu sut roedd gwahanol ffactorau’n effeithio arnynt yn ystod y digwyddiad. Mae data ymddygiad yn awgrymu bod cydymffurfedd y rhai a oedd yn bresennol wedi bod yn dda ar y cyfan ar draws y digwyddiadau.  Serch bwriad unigolion, mae’r amgylchedd, ffactorau sefyllfaol a threigl amser mewn digwyddiad yn effeithio’n glir ar nifer y bobl sy’n cadw at ymddygiadau diogelu personol. Roedd hi’n ymddangos bod y dylanwadau hyn yn systematig ac felly, os cânt eu llawn ddeall, gallent helpu i wella diogelwch o ran COVID mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

Yr hyn a oedd yn nodedig mewn nifer o ddigwyddiadau oedd y diffyg pellter cymdeithasol gan niferoedd uchel iawn ger mynedfeydd, a oedd wedi’i ddwysáu mewn digwyddiadau lle roedd canlyniadau prawf yn cael eu gwirio mewn mynedfeydd ac (yn fwy amlwg eto) allanfeydd.  Hefyd roedd mân gasglu cyn ac ar ôl y digwyddiad wedi’i gyfuno â diffyg gorchuddion wyneb ymysg lleiafrif amlwg wrth adael un digwyddiad gyda’r nos. Roedd lleoliadau penodol mewn digwyddiadau yn arwain at ddwysedd uwch hefyd, fel ciwio am y toiledau neu fwyd a diod, a symudiadau torfol rhwng gweithgareddau/ystafelloedd. Bu tyrru y tu allan i rai digwyddiadau hefyd. Mae hyn wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ystyried y digwyddiad cyfan o’r adeg cyn cyrraedd i wasgaru ar ôl y digwyddiad, ond hefyd yn codi’r mater o ymestyn cyfrifoldeb digwyddiadau y tu hwnt i’r ffiniau, ee grwpiau’n casglu i wrando ar ddigwyddiad y tu allan i’r lleoliad.

Roedd hi’n ymddangos bod rhannu’r rhai a oedd yn bresennol yn garfannau/casgliadau (ee byrddau dynodedig neu grwpiau) wedi helpu i reoli tagfeydd ac mae’n bosibl y caiff amseroedd cyrraedd penodol eu hystyried hefyd. Yn fwy cyffredinol, roedd ailstrwythuro gwasanaethau a’r amgylchedd, gan gynnwys cynlluniau eistedd, marciau ar y llawr, danfon bwyd a diod (ac archebu o bell), a rhwystrau ffisegol/llwybrau wedi gweithio’n dda o ran dylanwadu ar ymddygiad nifer uchel o’r rhai a oedd yn bresennol. Roedd pwysigrwydd cyfathrebu byw mewn digwyddiadau i atgoffa pobl o’r gofynion a chydnabod cydymffurfedd yn gadarnhaol i’w weld yn glir, ac roedd yn helpu i ‘ailosod’ ymddygiadau ac i wella cydymffurfedd. 

Roedd hylif diheintio dwylo ar gael yn eang yn y digwyddiadau, ond ni chafodd ei ddefnyddio gan y mwyafrif helaeth (wedi’i ddangos drwy arsylwadau a faint o hylif diheintio a oedd yn weddill ar ddiwedd y digwyddiadau).  Mae angen rhoi ystyriaeth bellach i arwyddion amlwg, lleoliad gorsafoedd a’r gweithgaredd sy’n cael ei gynnal (hy cario eitemau).

Canfyddiad sydd heb gael digon o sylw yw bod cydymffurfedd wedi lleihau yn nes ymlaen yn ystod y diwrnod, hy dros amser mewn digwyddiadau. Mae nifer o ffactorau a allai esbonio hyn, gan gynnwys: rhagor o alcohol yn cael ei yfed (lle roedd alcohol ar gael); blinder o ran rheolaeth ataliol; cynefino a llai o bryder mewn cyd-destun newydd. Nid oes dealltwriaeth dda o’r ffactor amserol hwn ac mae angen ymchwilio iddo ymhellach, ond mae’n pwysleisio’r angen i barhau i gyfathrebu drwy gydol y digwyddiad.

Yn gyffredinol, roedd cydymffurfedd ag ymddygiadau yn gostwng dan amodau lle: nad oedd stiwardiaid yn bresennol, roedd diffyg signalau amgylcheddol (gan gynnwys ymyriadau ffisegol neu gyfathrebu), yn nes ymlaen yn ystod y digwyddiad, a lle roedd y sefyllfa’n llai gorfodol ac roedd unigolion yn llai gwyliadwrus yn wybyddol, hy llai o signalau allanol i hyrwyddo ymddygiad priodol a llai o reolaeth wybyddol ymysg unigolion. 

Un ffordd o ddehongli’r data hyn yw bod unigolion yn y digwyddiadau hyn yn defnyddio symbyliadau a signalau allanol i wneud penderfyniadau a rheoli ymddygiad, yn hytrach na cheisio gwerthuso risg yn ddeinamig ac ymddwyn yn unol â hynny. Felly, tacteg bwysig yw canolbwyntio’r ymdrechion ar ddarparu signalau mewn digwyddiadau, fel rhagor o arwyddion a negeseuon gweledol i atgoffa. Lle roedd y rhain yn bresennol, roedd cydymffurfedd yn uwch.

Roedd yr arolwg ar ôl y digwyddiad hefyd wedi dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn teimlo’n fwy diogel gan eu bod yn gwybod bod pawb yn y digwyddiad wedi cael canlyniad prawf negatif, ac felly roedd mesurau lliniaru eraill, fel gwisgo masg, yn llai pwysig iddynt.  Yn ogystal â hynny, mae llai o strwythur i rai digwyddiadau o reidrwydd, sy’n gallu arwain at risg uwch. Tacteg arall yn yr amgylchiadau hyn yw cyfathrebu’n aml, ochr yn ochr â phresenoldeb stiwardiaid efallai, i gefnogi penderfyniadau myfyriol ac felly ymddygiad sy’n cydymffurfio.

Gorfodi Mesurau Lliniaru

Roedd staff, stiwardiaid a gwirfoddolwyr wedi gweithredu fel modelau rôl ynghyd â darparu canllawiau clir ynghylch yr ymddygiadau priodol (cynnig cyngor, cywiro achosion o ddiffyg cydymffurfio). Fodd bynnag, roedd tystiolaeth ar ffurf ymddygiad o ‘imiwnedd canfyddedig i risgiau’ ymysg rhai grwpiau staff.  Arsylwyd ar ddiffyg cadw pellter corfforol yn barhaus/eang a thynnu masgiau weithiau (i helpu i gyfathrebu) ymysg rhai o’r grwpiau hyn.  Roedd rhai systemau mewn cysylltiad â rheoli bwyd a diod yn cyfrannu at leihau pellter cymdeithasol rhwng staff, gan eu bod yn tyrru o gwmpas pwyntiau gwasanaeth. O ystyried nifer uchel y cysylltiadau sydd gan rai aelodau o staff, dylid canolbwyntio ar gydymffurfedd ag ymddygiad diogelu personol yn y grŵp hwn ac mae hyn wedi’i adlewyrchu yn y canllawiau ar ddigwyddiadau, er enghraifft mewn cysylltiad â phwysigrwydd gorchuddion wyneb yn benodol.

Mae’n hollbwysig rhaeadru negeseuon i stiwardiaid a gwirfoddolwyr, ac mae stiwardio o ansawdd uchel yn hanfodol. Roedd rhywfaint o dystiolaeth fod swyddogion diogelwch a stiwardiaid yn delio’n well â mân broblemau na gwirfoddolwyr. 

O hyn allan, byddai’n fuddiol canolbwyntio ar ddiffinio rolau’n glir ac ar hyfforddiant ynghylch rhoi cyngor mewn ffyrdd sy’n cynnal ymddygiadau sydd er lles y gymdeithas, ac ar systemau i gynnal y cyfraniad hwnnw drwy gydol y digwyddiad. Mae angen i stiwardiaid/gwirfoddolwyr gydnabod eu bod yn rhan o’r digwyddiad hefyd a dilyn y rheolau ynghylch profi, cadw pellter corfforol a defnyddio gorchuddion wyneb.  

I gynnal y lefel ofynnol o stiwardio da, roedd nifer y stiwardiaid yr un fath â phe bai’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar gapasiti llawn, felly mae’n bosibl y bydd niferoedd uwch yn golygu bod angen rhagor o stiwardiaid ac mae pryderon ynglŷn ag argaeledd stiwardiaid a gwirfoddolwyr ar ôl COVID.  Yn ogystal â hynny, mae angen i stiwardiaid fod yn gyfarwydd â safle’r digwyddiad cyn unrhyw ddigwyddiad er mwyn gallu arwain y rhai sy’n bresennol yn briodol.

Cyfathrebu mewn digwyddiadau

Mae’n hollbwysig cyfathrebu/ymgysylltu â chyfranogion cyn ac yn ystod y digwyddiad er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r mesurau lliniaru COVID arfaethedig a nodir yn asesiad risg y digwyddiad. 

Dylai cyfathrebiadau cyn y digwyddiad esbonio’n glir i’r rhai a fydd yn bresennol beth mae angen iddynt ei wneud cyn cyrraedd a sut mae gwneud hynny, ee profi cyn y digwyddiad, peidio â dod os oes ganddynt unrhyw symptomau, beth i’w ddisgwyl wrth gyrraedd, a allai fod yn wahanol i’r hyn maen nhw’n ei weld mewn digwyddiadau fel arfer, a’r prif bethau mae angen iddynt ddeall i ddiogelu eu hunain a phobl eraill, boed hynny’n ymwneud â gofynion cadw pellter cymdeithasol/masgiau wyneb, neu ardaloedd uchaf eu risg fel mynedfeydd ac allanfeydd.

Mae cyfathrebu a goruchwylio yn y digwyddiad i atgoffa pobl o’r gofynion, a chydnabod cydymffurfedd, yn allweddol hefyd. Fel y nodwyd uchod (paragraff 33), gall lefelau cydymffurfio ostwng yn ystod digwyddiad felly mae’n hollbwysig atgoffa pobl o’r ymddygiad gofynnol yn ystod y digwyddiad. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, atgoffa am y protocolau disgwyliadau ger allanfeydd y digwyddiad.

Roedd enghraifft o arfer da yn ystod gêm Cymru v Albania, sef cwis drwy ap yn ystod hanner amser. Cafodd hwn ei ddefnyddio fel adnodd i gasglu data anffurfiol, ond roedd yn atgoffa pobl o’r ymddygiad gofynnol ar yr un pryd. 

Ni ddylai trefnwyr digwyddiadau danbrisio cymaint o adnoddau mae cyfathrebiadau o’r fath yn eu defnyddio a bydd angen iddynt ystyried sut mae eu cynulleidfaoedd yn cymryd gwybodaeth i mewn.  Er enghraifft, mae’n bosibl na fydd grwpiau demograffeg hŷn yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Roedd trefnwyr Triathlon Cymru yn Abergwaun, a drefnwyd fel rhan o Raglen Peilot 2, yn wynebu heriau penodol o ran rheoli presenoldeb gwylwyr: Mae’r digwyddiad yn boblogaidd yn yr ardal leol fel arfer, mae’r lleoliad wedi’i hen sefydlu fel cyrchfan i dwristiaid, ac roedd rhagolygon y tywydd yn dda ar gyfer y diwrnod. Aeth Activity Wales Events i’r afael â hyn drwy gyfyngu ar y cyhoeddusrwydd cyn y digwyddiad i gyfranogwyr y digwyddiad yn unig a chysylltu’n agos â’r awdurdod lleol i atal nifer uchel o bobl leol neu ymwelwyr rhag dod i wylio, yn benodol:

  • Cyfathrebiadau cynnil a hwyr drwy rwydweithiau cyhoeddus/allgymorth cymunedol i roi gwybod i’r cyhoedd am y digwyddiad ac i annog torfeydd i beidio â chasglu
  • Negeseuon e-bost, cyhoeddi pecynnau’r ras, negeseuon briffio ar fideo a negeseuon testun i athletwyr er mwyn cyfathrebu rheoliadau COVID (gan gynnwys annog athletwyr i beidio â dod â chefnogwyr gyda nhw).
  • Cyfathrebiadau i athletwyr i bwysleisio nad oes mannau gwylio ar gyfer y llinell gychwyn, mannau newid na’r llinell orffen.  Cynnwys manylion ym mhecyn y ras am restr o leoliadau diogel ar y cwrs i helpu i wasgaru unrhyw dorfeydd.
  • Cyfathrebiadau i bobl leol sy’n byw ar hyd y cwrs i’w hannog i gefnogi o’u gerddi ac i beidio â dod i safle’r digwyddiad.
  • Roedd tîm y trefnwyr wedi cysylltu â busnesau lleol a chymunedol ar hyd y cwrs yn ystod yr wythnosau cyn y digwyddiad i helpu i integreiddio athletwyr i’r cymunedau cyfagos ar ôl y digwyddiad. Annog athletwyr i archebu bwytai, caffis ac atyniadau i ymwelwyr i ffwrdd o safle’r digwyddiad ac i wneud hynny ymlaen llaw.

Rhan hanfodol arall o gyfathrebu yw arwyddion ar y safle: llwybrau wedi’u marcio’n glir a negeseuon atgoffa gweledol eraill ar gyfer cadw pellter cymdeithasol (er enghraifft dangos pa mor bell ydy 2m) a defnyddio hylif diheintio dwylo. Mae arwyddion gweledol iawn ar y safle yn arbennig o bwysig mewn mannau cyfyng, ee toiledau. 

Y broses asesu risg / awdurdodi

Conglfaen yr holl ddigwyddiadau peilot oedd yr asesiad risg COVID llawn yr oedd yn rhaid i bob trefnydd ei gynnal er mwyn ystyried y risgiau sy’n gysylltiedig â COVID, a hynny i staff a’r rhai a fyddai’n bresennol.  Roedd yr asesiadau risg yn cynnwys nodi a gweithredu mesurau lliniaru, gan gynnwys peidio â chyflawni rhai gweithgareddau ar y safle lle bo hynny’n briodol, ee darparu alcohol.   Nid oedd modd datblygu’r asesiad risg COVID ar ei ben ei hun; roedd rhaid ystyried y goblygiadau i risgiau ehangach, er enghraifft mae ciwiau mwy i wirio manylion profion LF yn gallu cynyddu’r risg o ymosodiad terfysgol.    

Cafodd yr asesiad risg llawn ar gyfer pob digwyddiad, yn cynnwys mesurau lliniaru arfaethedig, ei gyflwyno i’r Bwrdd Cynghori ar Ddiogelwch/awdurdod lleol perthnasol a ystyriodd y cais gyda mewnbwn gan y Bwrdd Iechyd Lleol, cyn i lythyr sicrwydd gael ei gyhoeddi i Lywodraeth Cymru gan Brif Weithredwr yr awdurdod lleol ar ran Cyfarwyddwr Diogelu’r Cyhoedd yr awdurdod lleol a’r Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd lleol. Cafodd yr asesiadau risg eu dosbarthu i Fwrdd Prosiect Llywodraeth Cymru cyn i’r Bwrdd roi cyngor ffurfiol i Weinidogion o ran a ddylid cymeradwyo’r digwyddiad ai peidio, fel yr oedd yn ofynnol o dan y Rheoliadau.   Yn dilyn cymeradwyaeth gan Weinidogion, rhoddwyd gwybod i Brif Weithredwr yr awdurdod lleol ac i drefnwyr y digwyddiad am y penderfyniad.  Cymeradwywyd pob digwyddiad ond esboniwyd yn glir y gellid canslo’r digwyddiad ar unrhyw adeg pe bai’r sefyllfa yn yr ardal leol yn newid oherwydd brigiad neu debyg.  Y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd a safbwyntiau rhanddeiliaid lleol, yn benodol y Bwrdd Iechyd Lleol/awdurdod lleol, oedd bwysicaf bob amser.  

Roedd yr amserlen yn dynn iawn yn aml ac mae’r broses gymeradwyo ar gyfer y digwyddiadau peilot wedi defnyddio llawer o adnoddau ar y ddwy ochr, sef trefnwyr y digwyddiadau a’r awdurdodwyr (y Bwrdd Cynghori ar Ddiogelwch/awdurdod lleol/Llywodraeth Cymru).  Roedd wedi tynnu sylw at bryderon gwirioneddol rhai awdurdodau lleol ynglŷn â natur prosesau yn y dyfodol a rôl Byrddau Cynghori ar Ddiogelwch.  Hefyd mae parodrwydd i dderbyn risg/adnoddau gwahanol awdurdodau lleol/Byrddau Iechyd Lleol yn amrywio.  Yn amlwg nid yw’r dull gweithredu a fabwysiadwyd ar gyfer y digwyddiadau peilot yn gynaliadwy: roedd yn tynnu sylw at brif elfennau dull gweithredu o hyn allan – asesiad risg COVID llawn ac ymgysylltu’n gynnar ag awdurdodau lleol/Bwrdd Cynghori ar Ddiogelwch lle bo angen.  Mae hyn wedi’i adlewyrchu yn y trafodaethau â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol unigol, ac wedi’i gynnwys yn y canllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd.

Cadw Pellter Cymdeithasol

Asesiad risg trefnwyr y digwyddiad oedd yn pennu’r capasiti uchaf ar gyfer y digwyddiadau peilot. Wedyn roedd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch lleol yn ystyried hyn yng nghyd-destun y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd ar y pryd. Yn y rhan fwyaf o achosion, cadwyd y gofynion i gadw pellter cymdeithasol o 2m ac roedd y rhaglen beilot yn canolbwyntio ar ddeall sut roedd y digwyddiadau’n gweithio’n ymarferol yng nghyd-destun y canllawiau drafft, logisteg profi cyn y digwyddiad a chydymffurfedd â’r mesurau lliniaru.

Pan oedd y rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m ar waith, roedd yn amlygu mai dyma yw un o’r rhwystrau mwyaf i hyfywedd digwyddiadau yn y dyfodol. Er enghraifft, ar lefelau gweithredu arferol mae Rodney Parade yn dal dros 8,500 o bobl. Oherwydd y gofyniad i gadw pellter cymdeithasol o 2m, nid oedd modd cael mwy na 950 yn bresennol.  Er bod y niferoedd mewn rhai digwyddiadau yn siomedig o’u cymharu â’r niferoedd targed, roedd y rhai a gymerodd ran yn y digwyddiadau wedi croesawu’r cyfle i ddechrau ar raddfa fach i gael gwell dealltwriaeth o’r prosesau a’r mesurau lliniaru a fyddai ar waith os a phan fydd y niferoedd yn tyfu.    

Cafodd y ddau ddigwyddiad peilot lle roedd capasiti uwch a mesurau lliniaru ychwanegol ar waith, ac nid oedd gofyniad i gadw pellter cymdeithasol o 2m, sef gêm ail-gyfle Abertawe a Chymru v Albania, eu darparu’n ddiogel.  Roedd y trafodaethau â threfnwyr y digwyddiadau pêl-droed, a phresenoldeb yn rownd derfynol Cwpan Carabao, yn pwysleisio nad yw un ateb yn addas i bawb ar draws chwaraeon neu leoliadau. Mae gan bob digwyddiad/lleoliad ei briodoleddau ei hun, boed hynny mewn cysylltiad â mynedfeydd ac allanfeydd, lle yn yr ymgynullfannau, nifer a lleoliadau toiledau ac ati, ac felly mae asesiadau risg unigol yn allweddol a bydd angen eu hadolygu’n rheolaidd pan fyddwn yn gallu cynyddu’r niferoedd mewn digwyddiadau.   

Profi, Olrhain, Diogelu

Mae Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) yn rhan hollbwysig o’r frwydr yn erbyn COVID o ran rheoli brigiadau. Roedd yn rhaid i bob digwyddiad peilot gasglu manylion pawb a oedd yn bresennol i sicrhau y gallai timau TTP yn ardaloedd yr awdurdodau lleol fynd ar drywydd unrhyw frigiadau posibl a oedd yn gysylltiedig â digwyddiad. Mae’r rhai a oedd yn bresennol yng ngêm Cymru v Albania wrthi’n cael eu dadansoddi gan wasanaethau profi ac olrhain drwy gynnal dadansoddiad eilaidd ar y rhif GIG yn erbyn data gwyliadwriaeth arferol ar achosion a gadarnhawyd. Bydd data tebyg o gemau prawf rygbi Cymru (nad ydynt yn ddigwyddiadau peilot) yn erbyn Canada a’r Ariannin yn cael eu hystyried yn y modd hwn hefyd, yn unol â gweithdrefnau TTP tebyg sy’n cael eu dilyn fel rhan o’r ERP.

Er y bydd angen parhau i adolygu cymesuredd y system TTP, mae’n dal yn ffordd allweddol o dorri cadwyni trosglwyddo, yn enwedig o ystyried y posibilrwydd o ragor o amrywiolynnau sy’n peri pryder yn dod i’r wyneb.  Mae ein canllawiau ar ddigwyddiadau yn adlewyrchu’r ffaith y dylai trefnwyr digwyddiadau sicrhau bod ganddynt systemau ar waith i gasglu manylion pawb sy’n bresennol yn eu digwyddiad.

Defnyddio Canllawiau

Un o’r rhannau allweddol o’r rhaglen beilot oedd profi’r canllawiau “trosfwaol” drafft ar ddigwyddiadau a oedd yn cael ei gynhyrchu wrth i’r gyfres o ddigwyddiadau peilot ddechrau. Yn ddealladwy, roedd trefnwyr y digwyddiadau’n awyddus i ddefnyddio’r canllawiau. Cafodd y canllawiau eu darparu iddynt, ac i awdurdodau lleol ar ffurf drafft, cyn dechrau Cam 2.  Yr arwyddion yw bod y canllawiau drafft wedi cael eu croesawu fel cyfathrebiad “swyddogol” gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynnal digwyddiadau. Mynegwyd y dymuniad tragwyddol am ddogfen fwy cryno a byrrach, ond y consensws cyffredinol oedd ei bod yn glir pan ddefnyddiwyd y ddogfen ochr yn ochr â chanllawiau penodol i sector (lle bo hynny ar gael) gan drefnwyr digwyddiadau mwy profiadol a oedd yn gwybod y byddai angen iddynt ddilyn cyngor mwy arbenigol. Gofynnwyd am adborth ar sut/a ddefnyddiwyd y canllawiau drafft fel rhan o’r broses adrodd yn ôl ar gyfer pob digwyddiad peilot ac mae’n dal yn rhan o’r broses ystyried canllawiau wrth i’r cyfyngiadau lacio, a’r canllawiau’n cael eu diwygio.

Fel y nodwyd uchod, roedd y rhan fwyaf o drefnwyr y digwyddiadau yn drefnwyr profiadol iawn a oedd yn gwbl gyfarwydd â darparu digwyddiadau yn eu lleoliadau ac â’r canllawiau ychwanegol sydd ar gael mewn cyd-destun COVID; er enghraifft y canllawiau ar berfformiadau byw a’r canllawiau ar ddiogelwch mewn meysydd chwaraeon,  Yn y dyfodol ni fydd pob trefnydd nac awdurdod lleol mor gyfarwydd â digwyddiadau a’r gofynion cysylltiedig â COVID, a dyna pam roedd datblygu, profi ac adolygu’r canllawiau Creu digwyddiadau sy’n cadw COVID mewn cof yn rhan hollbwysig o’r rhaglen beilot.    

Sylw yn y Cyfryngau

O ran y digwyddiadau peilot, ac oherwydd diddordeb y cyhoedd a’r cyfryngau mewn digwyddiadau’n dychwelyd o bosibl, roedd yn rhaid i drefnwyr y digwyddiadau, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, reoli diddordeb y cyfryngau er mwyn sicrhau sylw cytbwys o’r rhaglen yn y cyfryngau.

Roedd yn rhaid gwneud hyn gan ystyried dyheadau hyrwyddo trefnwyr rhai digwyddiadau a oedd yn awyddus i ddangos eu bod yn rhan o’r rhaglen beilot ac i arddangos eu digwyddiad, ac mewn rhai achosion, yn awyddus i ledaenu’r wybodaeth hon fel arwydd o “newyddion da” am eu sefydliad ac am ddiwydiant digwyddiadau Cymru yn gyffredinol. Cafodd asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus arferol rhai trefnwyr digwyddiadau ei chadw at y diben hwn.

Ymgysylltodd swyddogion cyfathrebu Digwyddiadau Cymru â threfnwyr y digwyddiadau yn gynnar yn y broses gyfathrebu, gan fonitro gwaith hyrwyddo pob digwyddiad yn llym. Mae’r sylw i’r digwyddiadau peilot yn y cyfryngau prif ffrwd wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda dealltwriaeth dda o pam roedd angen eu cynnal, pam roedd angen eu cyfuno â phrotocol profi cyn ac ar ôl y digwyddiad, y mesurau lliniaru ar waith, a pham cawsant eu trefnu yn y modd y cawsant.

Cymorth a chostau ariannol

Roedd angen cymorth Llywodraeth Cymru er mwyn i’r digwyddiadau peilot hyn allu bwrw ymlaen. Cafodd y cyllid ei gapio ar uchafswm o £25k ar gyfer unrhyw ddigwyddiad ond ei dalu fel ôl-daliad i leihau gwariant diangen pe bai angen canslo/lleihau digwyddiad peilot. 

Mae’r digwyddiadau peilot wedi pwysleisio’r costau ychwanegol i drefnwyr digwyddiadau ar gyfer cynnal digwyddiadau yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn cynnwys costau profi, stiwardio ychwanegol, arwyddion a mesurau lliniaru eraill, yn ogystal â’r effaith ar hyfywedd masnachol yn sgil cadw pellter cymdeithasol. 

Digwyddiadau Peilot yn y Dyfodol

Mae trydydd cam o ddigwyddiadau peilot dan ystyriaeth, gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau dan do.  Os bydd angen trydydd cam o ddigwyddiadau, byddwn yn cynnwys elfennau ychwanegol gan gynnwys archwilio’r defnydd o fonitro CO2 i gefnogi’r gwaith o fesur byw a mesurau lliniaru cysylltiedig ar gyfer risgiau trosglwyddo, a hynny mewn grwpiau ac ardaloedd mewn lleoliadau dan do. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith monitro a wnaed yn nigwyddiad Celtic Manor.

Yn ogystal â hynny, byddai ailagor digwyddiadau’n ddiogel yn cael ei gefnogi gan wyliadwriaeth iechyd y cyhoedd uwch, amser real, ar gyfer achosion a/neu glystyrau posibl sy’n gysylltiedig â phob digwyddiad, a byddwn yn archwilio hyn ymhellach.   Bydd is-grŵp o’r Bwrdd Prosiect yn cael ei sefydlu i ystyried y cynigion hyn.

Prif gasgliadau/argymhellion

Yn amlwg, yr uchelgais yw cael gwared ar gymaint o gyfyngiadau â phosibl i ganiatáu i ddigwyddiadau ddychwelyd mewn ffordd mor normal â phosibl – “mesurau sylfaenol”.  Ond os oes angen inni ddychwelyd i Lefel Rhybudd 1 ar unrhyw adeg bydd y gwersi o’r digwyddiadau peilot, sydd wedi dylanwadu ar y canllawiau diwygiedig, yn cefnogi’r ystyriaeth o barhau i gynnal digwyddiadau.   

Asesiadau Risg

Mae’r digwyddiadau peilot wedi pwysleisio’r angen am asesiad risg trylwyr ar gyfer pob digwyddiad, un sy’n ystyried yr amgylchiadau penodol ac mae angen i drefnydd y digwyddiad ei gynnal dim ots beth yw’r Lefel Rhybudd ar y pryd. Dylid ystyried hyn yng nghyd-destun yr hierarchaeth mesurau lliniaru (cael gwared ar y risgiau o ddod i gysylltiad lle bo’n bosibl, rheolaethau gweinyddol a newidiadau i weithrediad arferol y digwyddiad). Dylid ystyried ardaloedd awyr agored/dan do, llif aer a phwysigrwydd awyru da, mannau cyfyng ac ati yn ogystal ag ôl troed cyffredinol y digwyddiad (faint o bobl fydd yn teithio yno, ciwio cyn mynd i mewn, gadael ac ati).  

Profi mewn digwyddiadau

Mae llawer yn y sector yn credu y byddai profion PCR neu LF cyn y digwyddiad a/neu ar y safle yn hollbwysig i sicrhau y gall digwyddiadau ailddechrau a/neu barhau ar Lefelau Rhybudd uwch. Ond, yn seiliedig ar y digwyddiadau peilot, rydym yn argymell na ellir gwneud profion PCR cyn y digwyddiad yn amod mynediad yn y dyfodol. Er bod y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiadau peilot yn fodlon ar y gofynion profi ar y cyfan, mae’r logisteg yn anymarferol. Mae angen nifer sylweddol o staff ar gyfer profi ar y safle (23 ar gyfer 86 o bobl a oedd yn bresennol yn Celtic Manor); ac mae profion COVID, yn enwedig rhai sy’n cael eu prosesu mewn labordy fel profion PCR, yn gostus ac mae costau ychwanegol, sylweddol yn gysylltiedig â phostio profion cyn y digwyddiad (£20,000 am tua 6,000 o brofion ar gyfer digwyddiadau peilot Cymru a Morgannwg).  Talodd Llywodraeth Cymru am gostau’r digwyddiadau peilot ond byddai’n rhaid i drefnwyr digwyddiadau neu’r rhai sy’n bresennol eu talu yn y dyfodol. 

Yn bwysicach, mae profion PCR i alluogi digwyddiadau yn rhoi pwysau ychwanegol ar gapasiti labordai, yn enwedig wrth i gyfraddau trosglwyddo godi, ac yn dargyfeirio adnoddau i ffwrdd o brofion symptomatig. Byddai angen i drefnwyr digwyddiadau ystyried cost/budd unrhyw drefniadau profi yn eu cynlluniau masnachol, a fyddai’n creu anghydraddoldeb o ran mynediad i ddigwyddiadau.

Mae nifer o ffactorau eraill i’w hystyried mewn cysylltiad â phrofion PCR ac LF. 

  1. Mae profion PCR yn ddibynadwy iawn ond mae’n rhaid eu prosesu mewn labordy.  Mae hyn yn golygu eu bod yn ddrytach na phrofion LF a gall gymryd nifer o ddiwrnodau i ddychwelyd canlyniad.  I sicrhau bod y canlyniadau’n cyrraedd mewn pryd, rhaid eu gwneud 3-5 diwrnod cyn y digwyddiad, sy’n golygu y gallai rhywun ddal COVID rhwng gwneud y prawf a dod i’r digwyddiad, gan roi teimlad twyllodrus o ddiogelwch.
  2. Gallai’r cyfnod dychwelyd fod yn hirach yn ystod cyfnodau o drosglwyddiad uchel; byddai ymestyn yr amserlen i’w gwneud hi’n bosibl dychwelyd canlyniadau mewn pryd yn cynyddu’r risg o ddal haint rhwng gwneud y prawf a mynd i’r digwyddiad.
  3. Mae profion ar gyfer digwyddiadau yn dargyfeirio capasiti labordai i ffwrdd o brosesu profion symptomatig.
  4. Mae prawf PCR yn ddigon sensitif i gofrestru canlyniad positif gan rywun sy’n gwneud prawf ac wedi cael ei heintio o’r blaen, ond nad yw’n heintus mwyach.  Gellir goresgyn hyn drwy beidio â mynnu bod rhywun sydd wedi cael canlyniad positif yn y 90 diwrnod diwethaf a dros 10 diwrnod yn ôl.  Fodd bynnag, roedd y sawl a oedd wedi cael canlyniad positif cyn gêm Morgannwg v Swydd Gaerhirfryn wedi cael ei heintio dros 90 diwrnod yn ôl, felly byddai angen rhagor o gyngor.
  5. Nid oes angen prosesu profion LF mewn labordai, ac felly maen nhw’n rhatach.
  6. Mae profion LF yn rhoi canlyniad mewn 30 munud ond maen nhw’n llai sensitif na phrofion PCR, felly gallent fethu heintiau ar ddechrau’r haint neu wrth iddo leihau.
  7. Rhaid i’r defnyddiwr adrodd canlyniad prawf LF heb ei oruchwylio, sy’n ei gwneud hi’n bosibl y gall rhywun sy’n awyddus iawn i fynd i ddigwyddiad adrodd canlyniad yn anghywir.  Nid oes tystiolaeth o gamadrodd bwriadol eang, ond mae rhagor o waith yn cael ei wneud ar hyn drwy’r ERP.
  8. Gall profion LF roi canlyniad positif anghywir weithiau.  Er bod cyfran gymharol y canlyniadau positif anghywir yn eithaf isel, mae’n uwch ar adegau o drosglwyddiad isel ac mae canlyniadau negatif anghywir yn llai tebygol o lawer.
  9. Mae profion heb eu goruchwylio, sef y rhan fwyaf o brofion asymptomatig ar gyfer digwyddiadau, yn fwy tebygol o ddychwelyd canlyniad annilys.
  10. Mae gwirio canlyniadau prawf ger mynedfeydd yn creu mannau cyfyng, sy’n risg ynddi’i hun.

Rydym yn argymell bod trefnwyr yn annog pawb a fydd yn bresennol yn safle’r digwyddiad i wneud prawf LF gwirfoddol er mwyn helpu i ddiogelu eu hunain, pobl eraill a darpariaeth ddiogel y digwyddiad. Gellir archebu profion drwy wefan Llywodraeth Cymru neu eu casglu o fan casglu cymunedol penodol. Mae’r canllawiau ar ddigwyddiadau wedi cael eu diwygio i adlewyrchu hyn.

Cyfathrebu

Mae cyfathrebu clir cyn ac ar ôl digwyddiadau i bawb ar y safle gan gynnwys y rhai sy’n bresennol, stiwardiaid/gwirfoddolwyr, staff, contractwyr ac ati yn allweddol a dylent roi sylw i beth gallent ei ddisgwyl yn y digwyddiad o ran mesurau lliniaru, yr hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt o ran ymddygiadau, gorfodi ac ati. Dylai’r cyfathrebiadau gynnwys ailstrwythuro amgylcheddol (ee marciau ar y llawr, llif cleientiaid, cyrraedd/gadael mewn casgliadau), cymorth i gynnal yr ymddygiadau (cyhoeddiadau, staffio gweithredol) a pharatoi cleientiaid/gwesteion cyn cyrraedd (ee modelau meddyliol i’w dilyn). Dylai’r ffactorau risg penodol bennu’r rhain a dylent fod yn rhan allweddol o asesiad risg y digwyddiad.

Mannau cyfyng a llif

Mae risigiau’n amrywio rhwng natur digwyddiadau – eistedd yn yr awyr agored, symud o gwmpas yn rhydd yn yr awyr agored, eistedd dan do, a symud o gwmpas yn rhydd dan do – a lleoliadau unigol ar sail y lle sydd yno, yr awyru, ac ati. Fodd bynnag roedd nifer o themâu cyffredin ar draws bob digwyddiad, hy mannau allweddol fel mynedfeydd ac allanfeydd, toiledau, stondinau consesiwn, yn enwedig dan do lle mae mannau cyfyng yn bodoli, mae’n anodd sicrhau cadw pellter cymdeithasol ac mae diffyg awyru da.   Rhaid i’r mannau cyfyng hyn fod yn rhan allweddol o asesiad risg. Dylid modelu symudiadau unigolion a grwpiau mewn digwyddiad, ac ystyried mesurau lliniaru, ee bydd cyfuniad o ailstrwythuro amgylcheddol a mabwysiadu dull ‘dylunio gwasanaethau’ yn lleihau’r risg o dagfeydd a thyrru. Er na fydd hyn yn cael gwared ar dyrru’n gyfan gwbl o bosibl, gallai leihau ei hyd ac felly’r risg gysylltiedig. Gellir ategu hyn â chyngor gan staff i annog pobl i gadw pellter corfforol a hybu llif parhaus.   Mae ein canllawiau hefyd yn cydnabod yr angen, fel rhan o’r asesiad risg, i ystyried y safle cyfan er mwyn osgoi tyrru mewn mannau cyfyng, yn ogystal ag unrhyw oblygiadau y tu allan i safle’r digwyddiad, er enghraifft mewn cysylltiad â chynnydd yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ymysg y rhai sy’n dod i’r digwyddiad.

Staff, Stiwardiaid, Gwirfoddolwyr  

Mae staff, stiwardiaid a gwirfoddolwyr (“staff”) yn hollbwysig i lwyddiant unrhyw ddigwyddiad ond yn enwedig yng nghyd-destun COVID. Roedd hi’n glir o rai o’r digwyddiadau peilot nad oedd rhai aelodau o staff wedi ystyried ymddygiadau diogelu personol. Maen nhw hefyd yn fodelau rôl (normau cymdeithasol) ac yn gallu cefnogi ymddygiadau mewn sefyllfaoedd sy’n ddigymell ac yn amhendant fel arall. Felly, mae hyfforddi staff yn bwysig iawn, fel y mae sicrhau bod unrhyw staff/stiwardiaid newydd eu recriwtio yn gyfarwydd â’r safle cyn digwyddiad.

Dyluniad amgylcheddol

Mewn cysylltiad â nifer o’r argymhellion uchod, gan gynnwys cyfathrebiadau, mannau cyfyng ac ymwybyddiaeth staff, mae defnyddio sbardunau amgylcheddol, fel arwyddion, fel rhan o’r mesurau lliniaru yn cael ei argymell yn gryf. Mae’n debygol iawn y bydd pobl sy’n dod i ddigwyddiadau, yn enwedig mewn lleoliadau cyfarwydd fel eu hoff faes chwarae neu safle gŵyl, yn dychwelyd i arferion presennol (cyn COVID) oni bai fod negeseuon atgoffa. Po hiraf mae pobl ar safle a’r mwyaf cyfforddus y daw pobl, yn enwedig os oes alcohol ar gael, y mwyaf tebygol y mae hyn o ddigwydd hefyd. Felly mae’n hollbwysig mewn ardaloedd anstrwythuredig, yn benodol mannau cyfyng, bod cyfathrebu ac arwyddion clir yn cael eu defnyddio i helpu’r rhai sy’n bresennol i ystyried eu gwerthusiadau risg bersonol a’u penderfyniadau o ran ymddygiad.

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 162 KB.

Maint Ffeil 162 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.