Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi hefyd amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon eraill ledled Cymru, gan gyfrannu yn sylweddol at economi Cymru.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2016, cefnogodd Llywodraeth Cymru 35 o brif ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliant ar draws Cymru gan ddenu 348,000 o ymwelwyr a chyfrannu £53 miliwn at economi Cymru. Cefnogir digwyddiadau lleol a chenedlaethol hefyd yn ystod 2017. 


Ar ôl Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr, bydd Haf Anfarwolion y Byd Chwaraeon yn parhau gyda Thlws Pencampwriaeth Criced a Phencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn yn ystod misoedd yr haf.


Roedd Gŵyl Gomedi Machynlleth, un o’r digwyddiadau a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn llwyddiant unwaith eto gan ddenu 6,000 o ymwelwyr i’r dref ar ddechrau’r mis. 

Mae Gŵyl Focus Wales yn dechrau’r penwythnos hwn a bydd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, yn ymweld â Diwrnod Digidol yr ŵyl ddydd Sadwrn. 2017 yw seithfed flwyddyn yr ŵyl, a chroesawir dros 7,000 o ymwelwyr i Wrecsam.  Cafodd Focus Wales ei sefydlu i fod yn ddigwyddiad arddangos blynyddol ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Bydd y Diwrnod Digidol yn canolbwyntio ar arloesi yn y diwydiant yng Nghymru. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: 

“Mae digwyddiadau mawr, megis Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr a gynhelir yng Nghaerdydd ymhen ychydig o wythnosau, yn amhrisiadwy o ran codi proffil Cymru i filiynau o bobl ledled y byd. Serch hynny, mae llawer iawn o ddigwyddiadau ar raddfa lai, a'u gwreiddiau’n ddwfn yng Nghymru, sydd yr un mor werthfawr i economi Cymru.  Rwy wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi twf digwyddiadau megis Focus Wales sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i faes digwyddiadau llewyrchus Cymru.”

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyllid ar gyfer datblygu ymhellach Wythnos Bysgod Sir Benfro. Ar ôl cychwyn yn 1999 fel digwyddiad bach yn canolbwyntio ar gystadleuaeth sewin genedlaethol, cynhelir yr ŵyl bellach dros wythnos ac mae’n cynnwys dros 250 o sefydliadau a busnesau mewn dros 500 o ddigwyddiadau cyhoeddus a gweithgareddau ledled y sir. Dechreuodd Gŵyl Steelhouse ar Fferm Hafod-y-Dafal ar ymyl ddeheuol Bannau Brycheiniog gydag ychydig yn llai na 1,000 o ymwelwyr yn ystod penwythnos yn 2011. Mae wedi tyfu bob blwyddyn ers hynny ac roedd cynulleidfa o dros 10,000 yn 2016. Cynhelir pedwaredd ŵyl “The Good Life Experience” gan Cerys Matthews ar Ystad Penarlâg ym mis Medi.  Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu’r gwaith o ddatblygu’r ŵyl yn ystod y ddwy flynedd nesaf.  Cynhelir Diffusion, gŵyl ryngwladol ffotograffiaeth Caerdydd, hefyd ar ddiwedd y mis.