Yn dilyn lansiad canllaw newydd ar blastigion yn ddiweddar, mae WRAP Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ym mis Tachwedd i ddangos sut y gall cyrff cyhoeddus yng Nghymru fynd i’r afael ag effaith plastig ar yr amgylchedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Canllaw i’r sector cyhoeddus ar gaffael plastigion ar Wrap Cymru.

Bydd cynrychiolwyr yn clywed gan amrywiaeth o siaradwyr, yn gallu cael cyngor un-i-un arbenigol, a mynediad at gefnogaeth caffael cynaliadwy am ddim WRAP Cymru.

Bydd y digwyddiadau drwy’r dydd yn cael eu cynnal yng

  • Nghonwy (5 Tachwedd)
  • Caerfyrddin (6 Tachwedd)
  • Chaerdydd (7 Tachwedd)

Gwnewch yn siŵr eich bod yn sicrhau eich lle am ddim ar wefan WRAP Cymru cyn gynted ag y bo modd.