Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diben y pecyn cymorth

Mae'r pecyn cymorth hwn wedi'i baratoi i helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau, fel y nodir yn Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Chwarae (Cymru) 2012

Dylid darllen y pecyn cymorth ar y cyd â Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Chwarae (Cymru) 2012 a'r canllawiau statudol cysylltiedig Cymru - gwlad lle mae cyfle i chwarae. Mae’r rhain yn nodi manylion yr asesiad y mae angen i bob awdurdod lleol ei gynnal, a’r cynllun gweithredu y mae angen iddynt ei gyhoeddi bob tair blynedd o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae'r canllawiau statudol yn nodi'r naw mater y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth asesu cyfleoedd chwarae yn eu hardaloedd lleol.

Mae’r adnoddau a ddarperir yn y ddogfen hon yn cynnwys templedi sy'n seiliedig ar y materion y mae angen eu hystyried, fel y nodir yn y canllawiau statudol. Gellir defnyddio’r templedi fel canllaw defnyddiol i helpu gyda'r broses o gynnal Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Eu bwriad yw cefnogi awdurdodau lleol i gwblhau'r asesiad a llunio Crynodeb Gweithredol o'r Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae: Adroddiad Chwarae ein Rhan a Chynllun Gweithredu.

Sut y datblygwyd y pecyn cymorth hwn

Cafodd y Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae gwreiddiol ei gynhyrchu gan Chwarae Cymru, a'i ariannu gan ac ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Datblygwyd y pecyn cymorth mewn cydweithrediad â darparwyr chwarae ledled Cymru i helpu pob awdurdod lleol i gyflawni eu dyletswyddau, fel y nodir yn Rheoliadau Asesu Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012. 

Yn ei hymateb i Adroddiad Grŵp Llywio'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adnewyddu'r Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Fel rhan o'r broses hon yn 2023, adolygwyd y Pecyn Cymorth gwreiddiol gan Chwarae Cymru a'r Rhwydwaith Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, sy'n cynnwys arweinwyr chwarae'r awdurdodau lleol. Cynhaliwyd arolwg a gweithdai ymgysylltu dilynol gydag awdurdodau lleol i bennu'r adnoddau a'r templedi sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gasglu a dadansoddi data priodol. Nod y pecyn cymorth hwn yw darparu ystod o adnoddau i awdurdodau lleol a'u partneriaid eu defnyddio i nodi'r ystod o ffactorau sy'n effeithio ar gyfleoedd plant a phobl ifanc i chwarae a llywio'r gwaith cynllunio fel rhan o gyflawni'r dyletswyddau i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol.

Yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Mae Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a gynhelir yn dda yn darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i nodi bylchau mewn darpariaeth a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion. 

Rhaid i awdurdodau lleol asesu a oes digon o gyfleoedd chwarae yn eu hardaloedd yn unol â rheoliadau a datblygu cynlluniau i sicrhau cyfleoedd digonol. Mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol am reoli'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a'r Cynllun Gweithredu Chwarae. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu ag ystod o bartneriaid, a chasglu a dadansoddi data i helpu i lywio'r asesiad. Mae gweithio mewn partneriaeth, cydweithredu a chyfranogi yn elfennau craidd o'r broses o gynnal yr Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn erbyn y meini prawf a amlinellir yn y canllawiau statudol. 

Mae Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae, sef y canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol, yn nodi bod yn rhaid ystyried y materion canlynol:

Mater A: Poblogaeth

Mater B: Diwallu anghenion amrywiol

Mater C: Y lle sydd ar gael i blant chwarae (mannau agored, mannau chwarae dynodedig yn yr awyr agored lle nad oes staff, caeau chwarae)

Mater Ch: Darparu cyfleoedd i chwarae dan oruchwyliaeth (darpariaeth gwaith chwarae, gweithgareddau hamdden strwythuredig)

Mater D: Codi tâl am ddarpariaeth chwarae

Mater Dd: Mynediad i le a darpariaeth, gan gynnwys mesurau diogelwch ar y ffyrdd, trafnidiaeth, gwybodaeth a chyhoeddusrwydd

Mater E: Sicrhau a datblygu’r gweithlu chwarae

Mater F: Ymgysylltu â'r gymuned a'i chynnwys

Mater Ff: Chwarae ym mhob polisi perthnasol ac agenda weithredu berthnasol.

Mae'r Ffurflen Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae wedi'i strwythuro o dan 'themâu' i helpu awdurdodau lleol i weithio mewn partneriaeth ag adrannau a sefydliadau lleol eraill i nodi ffactorau sy'n effeithio ar gyfleoedd plant i chwarae:

Poblogaeth [Materion A, B, D]. 

Lleoedd lle mae plant yn chwarae [Materion C, Dd ac Ff]

Darpariaeth dan oruchwyliaeth [Materion Ch a E]

Polisi, ymgysylltu, eiriolaeth a gwybodaeth [Materion Dd, E, F, Ff]

Pwy ddylai fod yn rhan o Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Bydd angen i’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ystyried yr amrywiaeth o ffactorau sy’n effeithio ar gyfleoedd plant i chwarae. Bydd y gwaith o gasglu a dadansoddi data yn gofyn am fewnbwn gan amrywiaeth o bartneriaid sydd â swyddogaethau penodol gan gynnwys: 

Swyddogion yr awdurdod lleol:

  • cynllunio
  • tai 
  • trafnidiaeth
  • addysg
  • gwasanaethau plant a theuluoedd
  • gofal plant 
  • y gwasanaeth gwaith chwarae
  • y blynyddoedd cynnar
  • gwaith ieuenctid
  • parciau a meysydd chwarae
  • datblygu’r gymuned
  • diogelwch cymunedol
  • teithio llesol
  • y gwasanaethau gwybodaeth/timau cyfathrebu
  • ymchwil
  • gwasanaethau arbenigol

Sefydliadau partner ehangach

  • Cymdeithasau Chwarae Gwirfoddol Rhanbarthol
  • Cynghorau Gwirfoddol Sirol
  • Cynghorau Tref a Chymuned
  • Cymdeithasau Tai
  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Gwasanaethau Tân ac Achub

Crynodeb Gweithredol gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Proses yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Mae proses yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn cynnwys naw cam allweddol, sef: 

  • Paratoi ar gyfer yr asesiad
  • Cynnal yr asesiad
  • Llunio'r asesiad a chrynodeb gweithredol
  • Llunio'r Cynllun Gweithredu Chwarae Blynyddol
  • Cyflwyno'r ffurflen asesu, y crynodeb gweithredol a'r Cynllun Gweithredu Chwarae Blynyddol i Lywodraeth Cymru
  • Rhannu'r crynodeb gweithredol gyda'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Cyhoeddi'r crynodeb gweithredol ar wefan yr awdurdod lleol
  • Adolygu'r asesiad yn barhaus trwy Grŵp Monitro Chwarae
  • Cyflwyno adroddiad cynnydd ar y Cynllun Gweithredu Chwarae Blynyddol i Lywodraeth Cymru

* Ar gyfer y blynyddoedd lle na chynhelir asesiad llawn o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno Cynllun Gweithredu Chwarae Blynyddol ac adroddiad cynnydd yn unol â'r canllawiau statudol.

Ffurflenni gofynnol ar gyfer yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu templedi i'w defnyddio gan awdurdodau lleol er mwyn ei galluogi i ddadansoddi'r asesiadau a'r cynlluniau gweithredu a datblygu darlun cenedlaethol clir o gyfleoedd chwarae ar draws Cymru:

Camau'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Er mwyn cefnogi'r broses o asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae, mae'r pecyn cymorth hwn yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau sydd wedi'u rhannu'n dri cham.

Cam 1 - Paratoi ar gyfer yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Cam 2 - Asesu yn erbyn themâu'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae:

  • Poblogaeth 
  • Lleoedd lle mae plant yn chwarae 
  • Darparu cyfleoedd dan oruchwyliaeth 
  • Synergedd polisi, ymgysylltu, eiriolaeth a gwybodaeth 

Cam 3 - Llunio’r Cynllun Gweithredu Chwarae

 

Cam 1: Paratoi ar gyfer yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Tasgau allweddol wrth baratoi ar gyfer yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae: 

  • Gweithio gyda’r Aelod Arweiniol dros Blant a Phobl Ifanc/Cabinet 
  • Ymgysylltu ag aelodau etholedig
  • Cytuno ar y fethodoleg asesu
  • Penderfynu pwy fydd yn arwain yr asesiad
  • Nodi pwy fydd yn cyfrannu at yr asesiad 
  • Nodi aelodaeth a sefydlu Grŵp Monitro Chwarae neu grŵp tebyg
  • Pennu rolau a chyfrifoldebau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ac amserlen
  • Nodi a recriwtio partneriaid allweddol
  • Cytuno ar egwyddorion
  • Nodi adnoddau/cymorth ariannol

Adnoddau ategol:

Adnodd 1 Papur briffio 'Ffocws ar chwarae' ar gyfer cynghorwyr lleol 

Adnodd 2 Dadansoddiad o'r opsiynau ar gyfer yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Adnodd 3 Grŵp Monitro Chwarae (neu grŵp tebyg) - Cylch gorchwyl

Adnodd 4 Grŵp Monitro Chwarae (neu grŵp tebyg) - Archwiliad gwybodaeth

Adnodd 5 Deall digonolrwydd cyfleoedd chwarae - Pecyn o adnoddau hyfforddi

Adnodd 6 Bod yn Hyrwyddwr Chwarae

Adnodd 1: Papur briffio 'Ffocws ar chwarae' ar gyfer cynghorwyr lleol

Mae'r papur briffio hwn ar gyfer cynghorwyr lleol yn darparu gwybodaeth am ddyletswyddau statudol yr awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn eu hardal.

Ewch i: Adnodd 1: Ffocws ar chwarae – Chwarae a chynghorwyr sir | Chwarae Cymru

Adnodd 2: Dadansoddiad o'r opsiynau ar gyfer yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Mae cynnal dadansoddiad o'r opsiynau ar gyfer Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn ddefnyddiol yn ystod y cam paratoi a bydd yn helpu i gytuno ar y fethodoleg ar gyfer yr asesiad. Mae'r adnodd hwn yn nodi meysydd i'w hystyried wrth ddadansoddi'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer cynnal Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. 

Ewch i Adnodd 2: Dadansoddiad o'r opsiynau ar gyfer yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae | LLYW.CYMRU

Adnodd 3: Grŵp Monitro Chwarae (neu grŵp tebyg) - Cylch gorchwyl

Mae adnodd 3 yn dempled ar gyfer dogfen cylch gorchwyl y gellir ei defnyddio wrth sefydlu Grŵp Monitro Chwarae neu grŵp tebyg.

Ewch i Adnodd 3: Grŵp Monitro Chwarae (neu grŵp tebyg) - Cylch gorchwyl | LLYW.CYMRU

Adnodd 4: Grŵp Monitro Chwarae (neu grŵp tebyg) - Archwiliad gwybodaeth

Dyma adnodd archwilio i helpu aelodau'r Grŵp Monitro Chwarae (neu grŵp tebyg) yn ystod y cam paratoi i nodi a chasglu gwybodaeth yn ymwneud â phob thema wrth ystyried pob un o'r materion:

Mater A: Poblogaeth

Mater B: Diwallu anghenion amrywiol

Mater C: Y lle sydd ar gael i blant chwarae (mannau agored, mannau chwarae dynodedig yn yr awyr agored lle nad oes staff, caeau chwarae

Mater Ch: Darparu cyfleoedd i chwarae dan oruchwyliaeth (darpariaeth gwaith chwarae, gweithgareddau hamdden strwythuredig)

Mater D: Codi tâl ar gyfer darpariaeth chwarae

Mater Dd: Mynediad i le a darpariaeth, gan gynnwys mesurau diogelwch ar y ffyrdd, trafnidiaeth, gwybodaeth a chyhoeddusrwydd

Mater E: Sicrhau a datblygu’r gweithlu chwarae

Mater F: Ymgysylltu â'r gymuned a'i chynnwys

Mater Ff: Chwarae ym mhob polisi perthnasol ac agenda weithredu berthnasol.

Ewch i Adnodd 4: Grŵp Monitro Chwarae (neu grŵp tebyg) - Archwiliad gwybodaeth | LLYW.CYMRU

Adnodd 5: Deall Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae – Pecyn o adnoddau hyfforddi

Nod y cwrs hyfforddi hwn yw helpu i hyrwyddo pwysigrwydd digonolrwydd chwarae ymhlith partneriaid awdurdodau lleol.

Mae'n gyfle i lunwyr polisi ac ymarferwyr gydweithio gan archwilio eu cyfrifoldebau cyfunol mewn perthynas â'r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.

Bydd y cwrs yn werthfawr i unrhyw un sy'n ymwneud â'r broses digonolrwydd cyfleoedd chwarae. Fe'i cynlluniwyd i ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu partneriaethau strategol a all gefnogi'r gwaith o asesu a sicrhau elfennau o'r Ddyletswydd. Felly, mae'r cwrs wedi'i dargedu at bobl sy'n gweithio ar lefel strategol, mewn rolau polisi arweiniol a'r rhai sydd â'r gallu i ddylanwadu ar brosesau polisi a gwneud penderfyniadau llywodraeth leol. Nod y cwrs yw helpu rhanddeiliaid strategol i ddeall eu cyfrifoldebau mewn perthynas â'r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a chymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol ynghylch sut y gellir gwella ymateb yr awdurdod lleol i'r Ddyletswydd a'i ddatblygu ymhellach. 

Ewch i: Adnodd 5: Cymwysterau a hyfforddiant | Chwarae Cymru

Adnodd 6: Bod yn Hyrwyddwr Chwarae

Mae'r adnodd hwn yn rhoi awgrymiadau ar ddatblygu sgiliau ar gyfer bod yn Hyrwyddwr Chwarae ac eirioli dros chwarae yn ardal eich awdurdod lleol.

Ewch i Adnodd 6: Bod yn Hyrwyddwr Chwarae | LLYW.CYMRU

Cam 2: Cynnal yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Mae tasgau allweddol yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae yn cynnwys: 

  • Archwilio a mapio mannau chwarae a darpariaeth chwarae sy'n bodoli eisoes
  • Cynnal arolwg ymhlith plant a rhieni
  • Nodi a chytuno ar gryfderau a gwendidau mewn darpariaeth 
  • Cynnal asesiad a nodi opsiynau gweithredu, gan ddefnyddio’r Ffurflen Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Adnoddau ategol:

Adnodd 7 Arolwg Bodlonrwydd Chwarae - Taflen wybodaeth (canllaw i'w ddefnyddio'n lleol)

Adnodd 8 Plant fel archwilwyr - Taflen wybodaeth (awgrymiadau ar gyfer grŵp ffocws)

Adnodd 9 Gweithdy hawl i chwarae

Adnodd 10 Ffurflen fonitro ar gyfer grŵp ffocws

Adnodd 11 Cynnal arolwg ymhlith rhieni 

Adnodd 12 Cwestiynau i blant ynghylch amseroedd chwarae yn yr ysgol

Adnodd 13 Arolwg ymhlith ysgolion ar amseroedd chwarae yn yr ysgol 

Adnodd 7: Yr Arolwg Boddlonrwydd Chwarae - Taflen wybodaeth (canllaw i'w ddefnyddio'n lleol)

Mae'r daflen wybodaeth hon ar gyfer swyddogion yr awdurdodau lleol sy'n cynnal arolygon bodlonrwydd chwarae. Mae'n cynnwys cwestiynau ar gyfer dadansoddiadau lleol a chenedlaethol.

Mae'r adnodd hwn yn cynorthwyo awdurdodau lleol wrth iddynt ymgynghori â phlant fel rhan o'u Dyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Mae'n darparu arferion da ar gyfer cynllunio, paratoi a defnyddio'r arolwg, yn ogystal â chanllawiau ar gasglu, prosesu a chynnal dadansoddiadau syml o'r data.

Mae'r arolwg yn canolbwyntio ar ‘brofiadau’ yn hytrach na ‘phethau’, yn enwedig elfennau mwy amlwg ac arwynebol gyffrous y ddarpariaeth. Fel rhan o'r gweithgarwch ymgynghori neu ymgysylltu, mae'n bosibl y bydd gofyn i blant ddychmygu eu ‘hoff’ fan chwarae neu leoliad chwarae. Fodd bynnag, gall eu profiad cyfyngedig - oherwydd eu hoedran a’r diffyg presennol mewn darpariaeth – wneud iddynt ddymuno’r hyn y maent eisoes yn gyfarwydd ag ef. 

Ewch i: Adnodd 7: Yr Arolwg Bodlonrwydd Chwarae: Canllaw i’w ddefnyddio’n lleol | Chwarae Cymru

Adnodd 8: Plant fel archwilwyr - Taflen wybodaeth (awgrymiadau ar gyfer grŵp ffocws)

Adnodd 9: Gweithdy hawl i chwarae

Mae'r adnodd hwn wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr chwarae, gweithwyr cyfranogi, gweithwyr ieuenctid a staff eraill i'w helpu i gynnal gweithdy hawl i chwarae gyda phlant a phobl ifanc mewn ysgolion a lleoliadau strwythuredig eraill. 

Nod y gweithdy yw codi ymwybyddiaeth am yr hawl i chwarae. Mae hefyd yn ceisio grymuso plant a phobl ifanc fel eu bod yn gallu cyflwyno'r achos dros ddarparu gwell cyfleoedd iddynt chwarae a chwrdd â'u ffrindiau.

Ewch i: Adnodd 9: Gweithdy hawl i chwarae | Chwarae Cymru

Adnodd 10: Ffurflen fonitro ar gyfer grŵp ffocws

Adnodd 11: Cynnal arolwg ymhlith rhieni

Adnodd 12: Cwestiynau i blant ynghylch amseroedd chwarae yn yr ysgol

Adnodd 13: Arolwg i ysgolion ar amseroedd chwarae yn yr ysgol

Adnodd 14: Asesu mannau i chwarae

Gellir dod o hyd i amrywiaeth o dempledi yn Creu mannau chwarae hygyrch: pecyn cymorth:

  • Archwiliad o fan chwarae
  • Asesiad o fynediad i fannau chwarae
  • Rhestr wirio o werth chwarae

Ewch i: Adnodd 14: Creu mannau chwarae hygyrch | Chwarae Cymru

Adnodd 15: Dadansoddi anghenion hyfforddiant ar gyfer datblygu'r gweithlu

Adnodd 16: Templed ar gyfer holiadur i gyflogwyr/lleoliadau

Mae'r adnodd hwn yn darparu templed enghreifftiol y gellir ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth gan leoliadau / cyflogwyr am y ddarpariaeth gwaith chwarae a'r gweithlu chwarae. 

Ewch i Adnodd 16: Templed ar gyfer holiadur i gyflogwyr/lleoliadau | LLYW.CYMRU

Cam 3: Cynllun Gweithredu Chwarae

Bydd yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn helpu i lywio Cynllun Gweithredu Chwarae sy'n nodi’r camau i'w cymryd i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol. Fel rhan o'r broses gynllunio: 

  • Dadansoddi a blaenoriaethu camau gweithredu ar gyfer y dyfodol 
  • Y Grŵp Monitro Chwarae (neu grŵp tebyg) i adolygu a chymeradwyo’r ffurflen y Cynllun Gweithredu Chwarae
  • Aelodau etholedig i gytuno ar y Cynllun Gweithredu Chwarae

Adnoddau i gefnogi:

Adnodd 17 Adnodd blaenoriaethu ar gyfer y Cynllun Gweithredu Chwarae

Adnodd 17: Adnodd blaenoriaethu ar gyfer y Cynllun Gweithredu Chwarae

Adnoddau ychwanegol

Datganiad sefyllfa ar gynnwys plant anabl mewn darpariaeth chwarae

Mae Cynnwys plant anabl mewn darpariaeth chwaraeyn ddatganiad sefyllfa ar y cyd gan y Fforwm Polisi Chwarae Plant a Fforwm Diogelwch Chwarae'r DU. Mae'r datganiad yn nodi y dylai pob maes chwarae a man chwarae fodloni'r diffiniad hygyrch, er mwyn diwallu anghenion cymaint o blant o alluoedd amrywiol â phosibl.

Cardiau adrodd ar gyfer digonolrwydd cyfleoedd chwarae

Mae Chwarae Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol a'u partneriaid i lunio 'cardiau adrodd' o'r camau a gymerwyd yn lleol i gefnogi chwarae plant. 

Nod pob enghraifft yw dangos y cyd-destunau, y prosesau a'r bobl sy'n rhan o brosiect penodol. Efallai y byddant yn cynnig syniadau addasadwy i'r rhai sy'n gweithio i gefnogi chwarae plant:

Enghreifftiau o ddigonolrwydd chwarae - Chwarae Cymru

Mae'r cardiau adrodd wedi'u hysbrydoli gan ymchwil i ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae a wnaed gan Wendy Russell, Mike Barclay, Ben Tawil a Charlotte Derry. Yn yr ymchwil honno, defnyddiwyd gwybodaeth am brosiectau a ddarparwyd gan awdurdodau lleol ac ymchwil desg i greu 26 o gardiau adrodd. Gellir dod o hyd i'r rhain yn yr adroddiad Making it possible to do Play Sufficiency: Exploring the conditions that support local authorities to secure sufficient opportunities for children in Wales to play a gyhoeddwyd yn 2020.

Hyfforddiant gwrth-hiliol

Mae adnodd hyfforddiant gwrth-hiliol ar gael ar wefan DARPL ynghyd â’r pecyn cymorth Creu Diwylliant Gwrth-hiliol mewn lleoliadau (sy'n rhoi cyngor ymarferol i leoliadau ar sut i fod yn wrth-hiliol).

Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol

Mae'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol yn ganllaw ar sut i sicrhau ymgysylltu o ansawdd da gyda phlant a phobl ifanc. Maent yn nodi'r materion allweddol y dylai gweithwyr fod yn ymwybodol ohonynt wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, gan nodi'r camau gweithredol y gellir eu cymryd i sicrhau bod cyfranogiad yn ystyrlon, yn ddiogel ac yn gynhwysol. Ceir enghreifftiau o arferion cyfranogi da yng nghanllaw arferion da Llywodraeth Cymru. 

Yn ogystal, mae’r Y Ffordd Gywir yn fframwaith ar gyfer gweithio gyda phlant a ddatblygwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ac Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, yn seiliedig ar y CCUHP, i helpu cyrff cyhoeddus i integreiddio hawliau plant ym mhob agwedd ar benderfyniadau, polisi ac arferion. Mae'r fframwaith yn ymgorffori'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol, ac mae pob un o'r canllawiau'n darparu enghreifftiau ymarferol defnyddiol o sut beth yw cyfranogiad o ansawdd da, gan gynnwys yn y blynyddoedd cynnar ac wrth weithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Siarad Gyda Fi: Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

Mae Siarad Gyda Fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn ceisio ysgogi gwelliant yn y ffordd y caiff plant yng Nghymru eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu.

Siarad gyda fi | LLYW.CYMRU

Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru

Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y gall lleoliadau gofal plant, gwaith chwarae ac addysg feithrin cyn oed ysgol statudol (0-5 oed) helpu i feithrin sgiliau cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol a chorfforol babanod a phlant bach.

Cadw plant yn ddiogel

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob unigolyn, grŵp a sefydliad sy’n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau i blant ac oedolion yng Nghymru i ddilyn y cyngor a ddarperir yn Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl: cod ymarfer diogelu. Bwriad y cod hwn yw helpu pobl i ddeall y trefniadau diogelu a ddylai fod ar waith i weithredu'n ddiogel ac i ddiogelu'r holl gyfranogwyr. 

Mae Modiwl ar-lein ar gyfer diogelu Grŵp Gofal Cymdeithasol Cymru yn adnodd am ddim i bawb sy’n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc wrth wneud eu gwaith. 

Wrth ymgymryd â gweithgareddau digonolrwydd chwarae sy'n cynnwys plant, dylid cyfeirio at Weithdrefnau Diogelu Cymru sy'n helpu pobl i ddeall eu cyfrifoldebau i ddiogelu plant a phobl ifanc yng Nghymru. 

Adnoddau Chwarae Cymru

Mae Chwarae Cymru wedi cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau i ysgolion i gefnogi chwarae plant, gan gynnwys papur briffio ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus:

Ffocws ar chwarae – Sut mae chwarae'n cefnogi iechyd meddwl plant - Chwarae Cymru

Chwarae mewn ysgolion - Chwarae Cymru 

Adnoddau Comisiynydd Plant Cymru

Dull Gweithredu ar sail Hawliau Plant tuag at Anghenion Dysgu Ychwanegol – Comisiynydd Plant Cymru