Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans a'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James wedi ymuno â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i alw ar Lywodraeth y DU i roi diwedd ar gyni a rhoi’r hwb sydd ei angen arnynt i wasanaethau cyhoeddus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn llythyr ar y cyd at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, maent yn annog Llywodraeth y DU i gydnabod y costau cynyddol a'r pwysau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu, gan bwyso am y cyllid a'r hyblygrwydd angenrheidiol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. 

Mae’r llythyr ar y cyd yn nodi:

Rydym yn croesawu'r cynnydd mewn gwariant ar iechyd a gyhoeddwyd y llynedd ac yn fwy diweddar, ond rhaid inni hefyd weld buddsoddiad ychwanegol ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus i gyd-fynd â hyn.

Gwasanaethau lleol sydd wedi gwneud yr holl waith caib a rhaw yn ystod y cyfnod hwn o gyni ac mae rhai gwasanaethau wedi gweld gostyngiadau amser real o hyd at 60%. Rydym am gael sicrwydd y bydd y gwasanaethau lleol hyn yn cael buddsoddiad newydd i fodloni'r galw cynyddol yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd na welwyd mo’i debyg o’r blaen.

Rydym yn eich annog i fuddsoddi yn nyfodol y DU nawr, gan ddarparu’r hwb y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn ei haeddu, hwb y mae cymaint o’i angen.

Yn y llythyr, ymunodd arweinwyr llywodraeth leol â’r Gweinidogion i fynegi eu pryderon dwys ynghylch y diffyg manylion sydd ar gael o ran cael cyllid cyfatebol i gyllid yr UE.

Aethant yn eu blaenau: 

Mae Cymru yn elwa'n sylweddol ar gyllid yr UE ac mae'n hanfodol ar gyfer amaethyddiaeth, busnesau, addysg uwch ac adfywio cymunedau difreintiedig ledled Cymru.

Unwaith eto, rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gadw ei haddewid a sicrhau y cawn bob ceiniog y byddem wedi disgwyl ei derbyn o fewn yr UE. Hefyd, rydym yn dweud yr un mor glir bod rhaid i Lywodraeth Cymru gael cadw ymreolaeth dros ddatblygu a chyflawni'r trefniadau olynol, gan barchu datganoli bob amser.

Bydd y Gweinidog Cyllid yn cadarnhau’r negeseuon hyn â’r Prif Ysgrifennydd pan fydd yn cwrdd ag ef a Gweinidogion Cyllid y gweinyddiaethau datganoledig yn Llundain yfory.