Heddiw, bydd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans, yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddatblygu gwasanaethau digidol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yng Nghymru.
Yn nigwyddiad Sprint cyntaf Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU yng Nghymru, bydd y Gweinidog yn annerch arweinwyr ym maes digidol a data o bob rhan o'r sector cyhoeddus, gan dynnu sylw at y gwaith arloesol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i drawsnewid gwasanaethau digidol ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd y Gweinidog Cyllid hefyd yn annog llywodraeth leol a'r sector cyhoeddus yn ehangach i ystyried sut y gallant drawsnewid gwasanaethau digidol a gwella gwasanaethau cyhoeddus drwy ddefnyddio dulliau newydd ac arloesol.
Bydd y Gweinidog yn dweud:
“Mae gan Gymru ei hagenda ddigidol unigryw ei hun, a bydd y digwyddiad heddiw'n gyfle i glywed am ein gwaith cyffrous mewn ysgolion ac ym maes data, sgiliau, a thyfu talent, ac am y cyfleoedd y mae technoleg yn eu creu i hwyluso dewisiadau iaith. Bydd hefyd yn gyfle i glywed am y gwaith rydyn ni'n ei wneud i godi proffil Cymru ar lwyfan y byd.
“Mae'r bwysig cofio bod trawsnewid gwasanaethau’n gamp lawer mwy na chreu ochr gyhoeddus ddigidol neu wefan newydd. Mae'n ymwneud â phopeth rydyn ni'n ei wneud i ddarparu'r gwasanaethau dan sylw, a’r angen i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd, i ddarparu prosesau a gwasanaethau cydgysylltiedig sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
“Dydy trawsnewid digidol ddim yn agenda newydd i Gymru; mae'n rhywbeth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ers amser. Serch hynny, rhaid peidio ag aros yn ein hunfan, gan barhau i feincnodi a dysgu oddi wrth eraill, ac mae heddiw'n gyfle gwerthfawr inni wneud hynny.”
Ychwanegodd Pennaeth Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU, Kevin Cunnington:
“Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at ddod â Sprint i Gaerdydd. Mae'r ymateb wedi bod yn frwd iawn, a bydd yn wych i Wasanaeth Digidol y Llywodraeth barhau i gryfhau'r cysylltiadau â'r rheini sy'n gwneud gwaith cyfatebol yng Nghymru.
“Drwy rannu gwybodaeth a chydweithio, ac arwain y gwaith o drawsnewid gwasanaethau digidol yn y gwasanaethau cyhoeddus, gallwn ni sicrhau y bydd y llywodraeth yn gyffredinol yn gweithio'n well i bawb.”