Neidio i'r prif gynnwy

Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a nifer yr aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Hydref i Ragfyr 2019.

Prif bwyntiau (a)

Weithiau, caiff data chwarterol ei ddiwygio ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac felly dylid trin y data â gofal.

Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref (b)

Siart doesen yn dangos deilliannau aelwydydd oedd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ystod Hydref i Ragfyr 2019. Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf chwe mis mewn 67% o achosion. Ni lwyddwyd i atal digartrefedd mewn 17% o achosion.

Roedd 2,481 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod. Mae’r ffigwr hwn yn uwch na’r chwarter blaenorol ond y is na’r un chwarter yn 2018.

Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf chwe mis mewn 67% o achosion. Mae’r cyfraddau atal chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 65% i 70% ers Ebrill 2017.

Aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety (c)

Siart doesen yn dangos deilliannau aelwydydd digartref a gafodd eu cynorthwyo i ganfod llety yn ystod Hydref i Ragfyr 2019. Cafodd 43% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety, ond ni chafwyd llwyddiant mewn 36% o achosion.

Roedd 3,231 o aelwydydd yn ddigartref a bod dyletswydd i’w helpu i gael llety.  Mae hyn 11% yn uwch na’r chwarter flaenorol, a’r ffigwr uchaf i’w gofnodi ers dechrau cofnodion yn Ebrill 2015.

O’r rhain, cafodd 43% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety.  Mae’r gyfradd lwyddiannus chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 39% i 43% ers Ebrill 2017.

Aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth (d)

Siart doesen sy’n dangos deilliannau aelwydydd  oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth yn ystod Hydref i Ragfyr 2019. Derbyniodd 80% o aelwydydd gynnig o lety sefydlog, tra gwrthododd 4%.

Roedd 738 o aelwydydd digartref yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth.

O’r rhain, derbyniodd 80% gynnig o lety sefydlog, addas. Mae’r gyfradd chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 74% i 82% ers Ebrill 2017.

Aelwydydd mewn llety dros dro

Roedd 2,262 o aelwydydd mewn llety dros dro ar 31 Rhagfyr 2019. Er bod hyn yn gynnydd ar y chwarter blaenorol, dyma’r ail nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth yn 2015. Parhaodd y sector rhentu preifat i fod y prif fath o lety dros dro a ddefnyddiwyd (39%).

Roedd 366 o aelwydydd mewn llety gwely a brecwast. Eto mae hyn yn rhywfaint o gynnydd ar y chwarter flaenorol, ond dyma’r ail nifer uchaf ers Ebrill 2015.  O’r 366 aelwyd yma, roedd 48 o aelwydydd yn deuluoedd gyda phlant, i lawr o 63 ar ddiwedd Medi 2019.

Nodiadau

(a) Gall amrywiadau chwarterol a ffactorau tymhorol megis gwyliau a’r tywydd effeithio ar y data. Nid yw’r ystadegau yma yn cael eu haddasu yn dymhorol. Weithiau, caiff data chwarterol ei ddiwygio ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac felly dylid trin y data â gofal.

(b) Atal digartrefedd yw pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau cadarnhaol i ddarparu cymorth tai i rywun y mae'r awdurdod o'r farn ei fod mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.

(c) Yn dilyn hysbysiad bod ymgeisydd yn ddigartref, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd (adran 73) i gymryd camau rhesymol i helpu i sicrhau llety.

(d) Os yw'r aelwyd yn ddigartref, bod ganddi angen blaenoriaethol a'i bod yn ddigartref yn anfwriadol, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd i sicrhau llety addas.

Ceir gwybodaeth bellach yn yr Adroddiad Ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.