Neidio i'r prif gynnwy

Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac am aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2019.

Prif bwyntiau (a)

Weithiau, caiff data chwarterol ei ddiwygio ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac felly dylid trin y data â gofal.

Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref (b)

Siart doesen yn dangos deilliannau aelwydydd oedd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ystod Gorffennaf i Fedi 2019. Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf chwe mis mewn 65% o achosion. Ni lwyddwyd i atal digartrefedd mewn 17% o achosion.

Roedd 2,400 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod, sy’n debyg i’r chwarter flaenorol.

Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf chwe mis mewn 66% o achosion. Mae’r cyfraddau atal chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 65% i 70% ers Ebrill 2017.

Aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety (c)

Siart doesen yn dangos deilliannau aelwydydd digartref a gafodd eu cynorthwyo i ganfod llety yn ystod Gorffennaf i Fedi 2019. Cafodd 40% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety, ond ni chafwyd llwyddiant mewn 36% o achosion.

Roedd dros 2,900 o aelwydydd yn ddigartref a bod dyletswydd i’w helpu i gael llety. Mae hyn yn debyg i’r chwarter flaenorol.

O’r rhain, cafodd 40% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety. Mae’r gyfradd lwyddiannus chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 39% i 43% ers Ebrill 2017.

Aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth (d)

Siart doesen sy’n dangos deilliannau aelwydydd  oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth yn ystod Gorffennaf i Fedi 2019.   Dderbyniodd 79% o aelwydydd gynnig o lety sefydlog, tra gwrthododd 6%.

Roedd 702 o aelwydydd digartref yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth, y nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth.

O’r rhain, derbyniodd 79% gynnig o lety sefydlog, addas. Mae’r gyfradd chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 74% i 82% ers Ebrill 2017.

Aelwydydd mewn llety dros dro

Roedd 2,307 o aelwydydd mewn llety dros dro ar 30 Medi 2019. Dyma’r nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth yn 2015. Parhaodd y sector rhentu preifat i fod y prif fath o lety dros dro a ddefnyddiwyd (36%).

Roedd 390 o aelwydydd mewn llety gwely a brecwast, y nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd (cyn hyn, y nifer uchaf oedd 294 ar ddiwedd Mawrth 2019). O’r rhain, roedd 63 o aelwydydd yn deuluoedd gyda phlant, i fyny o 36 ar ddiwedd Mawrth 2019.

Nodiadau

(a) Gall amrywiadau chwarterol a ffactorau tymhorol megis gwyliau a’r tywydd effeithio ar y data. Nid yw’r ystadegau yma yn cael eu haddasu yn dymhorol. Weithiau, caiff data chwarterol ei ddiwygio ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac felly dylid trin y data â gofal.
(b) Atal digartrefedd yw pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau cadarnhaol i ddarparu cymorth tai i rywun y mae'r awdurdod o'r farn ei fod mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.
(c) Yn dilyn hysbysiad bod ymgeisydd yn ddigartref, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd (adran 73) i gymryd camau rhesymol i helpu i sicrhau llety.
(d) Os yw'r aelwyd yn ddigartref, bod ganddi angen blaenoriaethol a'i bod yn ddigartref yn anfwriadol, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd i sicrhau llety addas.

Ceir gwybodaeth bellach yn yr Adroddiad Ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.